Jones – Thomas Richard (1933-2006)

Ganwyd Thomas Richard Jones yn 1933 i deulu o Fedyddwyr yn Tangrisiau, ger Blaenau Ffestiniog, ardal chwarelyddol a drwythwyd yn y diwylliant Cymraeg ac a fagodd pobl o ruddin ac argyhoeddiad. Bu T.R. yn enghraifft nodedig o orau ei gymuned.  Ei rieni oedd George Washington a Chatherine Jones ac roedd yn agos iawn i’w chwaer Gwyneth.

Ym Moreia, Tanygrisiau, cafodd ei drwytho yn y ffydd Gristnogol ac roedd teulu ei fam gyda’r cyntaf i fod yn aelodau yn yr eglwys honno.  Capel bach oedd Moreia erioed ac ysywaeth gyda marwolaeth ei dad,  fe gaewyd y capel. Roedd ochr ei Dad hefyd yn Fedyddwyr mawr ac yn aelodau blaenllaw yng Nghapel y Beirdd. Yr oedd yn un â’r graig a naddwyd ef ohoni, ac fe dystiodd yn gyson i werthoedd aelwyd y Glaneulan ac i gymuned glos ardal y chwareli.

Dechreuodd farddoni ac ymddiddori ym mhethau’r capel yn blentyn a roedd dylanwad bro ei febyd yn drwm arno. Er iddo dreulio ei weinidogaeth gyfan, sef bron i hanner canrif yng ngogledd Sir Benfro, roedd ei gariad at ei fro enedigol yn angerddol. Fel hyn y canodd i Stiniog mewn englyn.

“Magodd rywiog enwogion – a rhoddodd
o’i rhuddin i’w meibion,
Nid ei glaw ond ei glewion,
I’n tir yw gogoniant hon.”

Yr oedd bywyd y caban gyda doethineb a synnwyr cyffredin y chwarelwr yn bwysig iddo. Clywodd y sgyrsiau pan ddilynodd ei dad i’r caban am gyfnod i weithio yn chwarel Maenofferen.

Roedd y teulu yn bwysig iddo. Ysbrydoliaeth yr emyn ‘Pan daena’r nos o’m gylch’ oedd marwolaeth ei dad. Gwelwn ddylanwad cryf ei hoff fardd Syr T.H.Parry-Williams yn ei gerdd i mis Mai 1974 yn dilyn marwolaeth ei fam.

A phawb yn bytheirio am dy dywydd gwael
Fe achubwn dy gam am dy roddion hael

Gan gofio beunydd fy nyled i ti
Am roi cymar bywyd a mab i mi 

Ond cerddaist eleni yn drymach dy droed
Ac yn feinach dy frath nag odid erioed

 Ac ni feiddiwn, pe medrwn, ag achub dy gam
Pan droaist yn lleidr a chipio Mam 

Cyfarfu â’i briod Marina tra oedd yn hyforddi yng Ngoleg y Presby yng Nghaerfyrddin. Roedd ei chwaer Gwyneth yn gweithio fel gweithwraig ieuenctid i’r Urdd ar y pryd yn ardal Llwynhendy, a buan y cyflwynwyd hi i Alun, brawd Marina. O fewn dim, trefnwyd priodas ddwbwl i’r ddau gwpwl yn Moreia. Bu’n briod a Marina am dros hanner canrif a’r ddau’n cynnal eu gilydd mewn cariad. Dyma a ddywedodd am ei gymar bywyd yn ei gerdd iddi:

Yr wyt ti yma
Nid yn weledig mewn enw
Ond wrth dy oruchwylion beunydd yn ysbrydoli 

Yr wyt ti yma
yng ngwead y cerddi hyn
Ym mer eu hesgyrn
Ac ym mwrwlm eu gwythiennau

Yr wyt ti yma
Nid yn weledig mewn enw
Ond am na fyddai’r cerddi hebddot.

Roedd yn falch o’i feibion Euros ac Emyr a’r teulu ehangach. Ar gyfer priodas Euros fe gyfansoddodd emyn 637 yng Nghaneuon Ffydd ac hynny ar gyfer hoff dôn Euros, sef  Deganwy.  Dyma rhan o’i gerdd i Euros ac Emyr

Esgyrn o’n hesgyrn ydynt
A chnawd o’n cnawd
Eto mor fendigedig wahanol
yw gwead dau frawd

 Dau frawd o’r un cariad ydynt
Rhwng mab a mun,
Ond er eu gwau yn wahanol
Mae’r defnydd yr un. 

Derbyniodd yr alwad i Eglwysi Penuel Cemaes ac Ebeneser Dyfed yn 1958 ac yno buodd ar hyd ei oes gan ychwanegu Penybryn a Bethabara i’r ofalaeth maes o law. Bu’n amlwg ym mro’r Preselau ac roedd wrth ei fodd yn cwmnia gyda phobl fel R. Parri Roberts, Mynachlogddu a John Thomas Blaenwaun. Bu’n llwyddiannus yn meithrin amaethwyr y fro i fod yn ffyddlon yn yr oedfaon, Cafodd yn W.J.Gruffydd, Hermon a Star,  gyfaill triw o’r un anian llengar, ac roedd James Nicholas, prifathro Ysgol y Preseli yn gyfaill triw iddo yn y cyfnod hwnnw.  Bu T.R. yn un o gefnogwyr selog yr ysgol a byddai ar gael i gynorthwyo gyda beirniadu cystadleuaeth cadair yr ysgol yn gyson.

Bu’n llywydd Cymanfa Bedyddwyr Penfro yn ei dro, a bu’n gynrychiolydd y Gymanfa ar gyngor Undeb Bedyddwyr Cymru.  Yn 1997 gwahoddwyd ef i wasanaethu’r Undeb fel ei llywydd, ac nid rhyfedd mai y ‘Winllan Wen’ oedd testun ei anerchiad o’i bulpud yn Ebeneser, Dyfed. Ynddi oedd yn gwbl amlwg fod T.R. Jones yn genedlaetholwr brwd a roedd yn bryderus iawn am gyflwr ei genedl a thynged yr iaith. Fel Lewis Valentine, gellir gweld bod sôn am Gymru di-Gymraeg a di-ffydd yn anathema iddo.   Mwynhaodd gyfeillgarwch Waldo Williams a D. J. Williams, y ddau yn byw yn ardal Abergwaun, ac o hyd yn ysbrydoliaeth i T.R. Jones. Bu’n gadarn o blaid Cymdeithas yr Iaith, pan roedd eraill yn dal nôl rhag mynegi barn a dangos cefnogaeth. Bu farw yn ei gartref yn 2006 a claddwyd ei weddillion o flaen capel Penuel, Cemaes. Symudodd Marina, ei briod, i fyw ym Mlaenffos, gan fwynhai nifer o flynyddoedd yno, ond yn 2018, gwaelodd ei hiechyd a bu farw ym mis Hydref  a daearwyd ei gweddillion ym medd ei phriod.

Fel bardd, daeth yn agos i’r brig ar ddau achlysur yng nghystadleuaeth y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac enillodd lu o gadeiriau a choronau mewn Eisteddfodau ledled Cymru. Cyhoeddodd gyfrol o’i waith ar y cyd â’i gyfaill Eirwyn George, sef ‘O’r Moelwyn i’r Preselau’, Gwasg Gomer, 1975, a gwelir enghreifftiau o’i gerddi mewn cyhoeddiadau eraill megis ‘Cerddi Sir Benfro’, gol Mererid Hopwood, Gwasg Gomer, 2002. a ‘Blodeugerdd y Preselau’ gol Eirwyn George, Cyhoeddiadau Barddas, 1995.  Roedd yn aelod brwd o dim y Preselau ar Dalwrn y Beirdd a roedd yn rhan o dim golygyddol y llyfrau emynau ‘Mawl ac Addoliad’ a ‘Caneuon Ffydd’. Bu’n olygydd colofn y beirdd ym mhapur enwadol y Bedyddwyr am gyfnod gan gynnig amryw o ddarnau o’i waith ei hun.  Anogodd eraill i lenydda ac o hyd yn cynnig cefnogaeth ac awgrymiadau eraill i gyw feirdd ei fro.

Roedd yn gymeriad hwyliog, ac yn dynnwr coes wrth reddf. Gallai siarad yn blaen ac yn eofn, boed ar faes eisteddfod neu cynhadledd enwadol.  Byddai wrth ei fodd yn teithio i Abertawe i wylio gêm o griced neu bêl droed, ond ei falchder pennaf oedd bod yn weinidog, a phregethu oedd ei ddileit mwyaf.  Mae’n amlwg o’i gerddi a’i emynau fod y dirywiad crefyddol yng Nghymru yn loes calon iddo. Roedd yn daer i brofi adfywiad ymhlith Cristnogion Cymraeg. Lluniodd llawer o emynau ar hyd ei oes, a gwelir chwech ohonynt yn ‘Caneuon Ffydd’. Enghraifft werthfawr yw’r emyn sy’n rhannu ei bryder am ddirywiad y dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru a’i ddyhead i herio’r sefyllfa ac i hau hâd yr adfywiad hyd ei oes.

“O deued wedi’r hirlwm maith
Dy wanwyn i fywhau y gwaith
I’th Eglwys lan, o anfon di
Gydweithwyr at y ddau neu dri.”   Rhif 13

Cyfrannwyr: Rhys ab Owen
Denzil Ieuan John