Jones – J. Young (1847-1914)

J oyoung JonesY Parchg J. Young Jones oedd gweinidog cyntaf Salem Newydd.  Ganwyd ef ar 30 Ionawr, 1847, yn fab i Samuel Jones, Llandudno, ac yn ŵyr i John Jones, Pydew, pregethwr nodedig yng Ngogledd Cymru.  Fe’i bedyddiwyd yn 14 oed, ym Môn, lle roedd ei dad yn oruchwylydd ym mwynglawdd copr Mynydd Paris.  Dan ddylanwad Dr Abel Parry, dechreuodd bregethu yn Everton, Lerpwl.  Ordeiniwyd ef yn Gilfach Goch yn 1875 ar ôl paratoad am y weinidogaeth yn Athrofa Llangollen.  Ar ôl tair blynedd yn Gilfach Goch, derbyniodd alwad i ddod i Salem Newydd yn Awst 1878.  Nid oedd ei arhosiad yn un hir, ac yn 1880 ymadawodd i fod yn gynorthwywr i’r Parchg Abel Parry, yng Nghapel Bethesda, Abertawe.

Roedd ei arhosiad byr yn Salem Newydd, Glynrhedynog, yn nodweddiadol o’i yrfa.  Ar gyfartaledd arhosodd lai na phedair blynedd yn y naw eglwys lle bu yn weinidog. Ar ôl gadael Salem Newydd bu’n weinidog i saith eglwys y Bedyddwyr yn eu tro – Bethesda (Abertawe), Bethlehem (Pwll), New Street (Dudley) Calfaria (Pontarddulais), Trealaw ac Abertridwr. Moriah (Bargoed) oedd ei eglwys olaf, rhwng 1910 ac 1911.  Bu farw yn 1914.

Roedd yn bregethwr coeth a diwylliedig, a dewiswyd ef i bregethu yng Nghymanfa Libanus, Cwmbwrla yn 1879. Roedd hyn ond pedair blynedd ar ôl ei ordeinio.

Yn ôl y goflith : Yr oedd yn bregethwr melys yn y ddwy iaith, a llawer o alw amdano.  Meddai ar galon dyner, a cherid ef yn gyffredinol.

Cyfrannwr:  Codwyd y cofiant hwn o lyfr Peter Brooks am Hanes Eglwys Salem Newydd.

Llyfryddiaeth

Eglwys Bedyddwyr Salem Newydd.   Awdur a Chyhoeddwr – Peter Brooks