Jenkins – Sidney John (1899-1949)

Sidney JohnGanwyd Sidney John Jenkins ym mhentref Talybont, Aberystwyth yn 1899, i deulu a addolai gyda’r Bedyddwyr yn eglwys y Tabernacl o dan weinidogaeth y Parchg Trebor Aled. r  ol gadael ysgol cofrestrodd yn ifanc yn y fyddin, a bu yno hyd diwedd y rhyfel.  Daeth o’r fyddin yn heddychwr o argyhoeddiad.  Cyflogwyd ef am gyfnodau byr yn y goedwigaeth leol, ac yna yn cloddio mewn gwaith mwyn, cyn ymateb i’r alwad i gynnig ei hun i’r weinidogaeth.

Roedd Talybont yn ardal a gododd nifer sylweddol o weinidogion ymhlith y Bedyddwyr a’r Annibynwyr, yn ystod y cyfnod hwn. Priododd Sidney gyda Gwladys Ann, un o ferched y fro, a ganwyd iddynt ddau blentyn, Irene ac Aled.  Bydd eglwysi’r Bedyddwyr yn adnabod Aled fel gweinidog uchel ei barch, ac yn ddiddorol, ni fyddai’r tad yn gwybod fod y mab wedi ei ddilyn, nid yn unig yn y weinidogaeth, ond yn eu diddordebau gyda Dinasyddiaeth Gristnogol a chasglu at Gronfa’r Gweddwon.

Ar ol cyfnod o hyfforddiant yng Ngholeg Myrddin, Caerfyrddin ac yna treulio tair blynedd yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd, cafodd ei ordeinio yn 1924, ar eglwysi Ffynnonhenri a Throed y Rhiw, Cwmduad.  Yn ystod y cyfnod hwn bu’n ysgrifennydd Pwyllgor Dinasyddiaeth Gristnogol y Gymanfa, ac yn casglu at Gronfa Cydenwadol y Gweddwon. Yn ystod ei gyfnod yn Ffynnonhenri, sefydlwyd grwp drama, a rhan o nod y grwp oedd casglu arian i dalu am fodd i addasu hen stablau’r eglwys i fod yn festri iddynt gynnal amryw o weithgareddau. Bu Sidney Jenkins yn frwdfrydig hefyd i weithio gyda’r ifanc, a chynhaliwyd Gobeithlu (Band of Hope) ar foreau Sadwrn am gyfnod. Bu’r weinidogaeth hon barhau am 17 mlynedd werthfawr a chynhyrchiol.

Sefydlwyd Sidney yn weinidog ar eglwys Horeb Sciwen yn 1941. Ymroddodd i fywyd yr eglwys ac un o’r gweithgareddau a nodir amdano oedd ei gefnogaeth i waith y YMCA yn y dref.  Trefnodd y gweinidog fod pob bachgen a aeth i’r rhyfel o’r eglwys yn cael copi o’r Beibl i fynd gydag ef. Tristwch amlwg oedd i Sidney farw ychydig cyn ei benblwydd yn 50 oed yn 1949 am iddo ddioddef o glefyd y cancr. Cofir amdano fel pregethwr a bugail annwyl.

Cyfrannwyr : Aled Jenkins, Parch. Denzil John