John – Emlyn Morris (1917-2008)

Emlyn Morris John

Un o blant Mynachlogddu ar odrau’r Preseli oedd Emlyn Morris John, y pumed o wyth plentyn William a Jane John, Dolau Newydd, Mynachlogddu.  Fel mwyafrif y teulu, gadawodd yr ysgol gynradd yn 14 oed gan gychwyn fel gwas ffarm yn Llangolman.  Dangosodd ddidordeb mawr yng ngwaith yr eglwys, a bu dylanwad ei weinidog, sef y Parchg R. Parry Roberts yn drwm arno.  Cynhelid ysgol baratol ar aelwyd y gweinidog pan fyddai eraill yn dod yno i dderbyn hyfforddiant mewn astudiaethau beiblaidd.  Trefnwyd fod Emlyn yn teithio i Ysgol debyg yn Rhosllanerchrugog lle roedd y Parchg Powell Griffiths yn paratoi’r myfyrwyr i sefyll arholiadau i geisio lle yn y brifysgol.  Derbyniwyd Emlyn fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn 1939 gan raddio yn y Gymraeg.  Cychwynnodd ar radd B.D. ond cyn gorffen roedd wedi ei sefydlu yn weinidog ar ddwy eglwys yng ngogledd Sir Fôn sef Calfaria Llanfechell a  Bethlehem Cemaes yn 1945. Dyma oedd ei unig faes gweinidogaethol er iddo ychwanegu eglwys Soar Llanfaethlu, Horeb, Llanddeusant ac Eglwys Rhydwyn yn 1978   Ymddeolodd yn swyddogol yn ar ben 50 mlynedd yn y weinidogaeth yn 1996 er prin y byddai’r ardal yn tybied ei fod yn gwneud llai oherwydd hynny chwaith.

Bu’n ysgrifennydd Cymanfa Môn ar ddau gyfnod gwahanol ac yn llywydd y gymanfa ddwywaith. Bu’n llywydd dwywaith ar gymanfa,   Cynrychiolai’r Gymanfa ar nif

er o bwyllgorau’r Undeb, ac roedd yn frwdfrydig ei gefnogaeth i weithgareddau diwylliannol a chymdeithasol yn ei sir fabwysiedig.  Gwasanaethodd fel ysgrifennydd y pwyllgor cymuned lleol yng Nghemaes am flynyddoedd a chynhaliodd ddosbarthiadau nos er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg.  Bu’n gyfrifol amy gyfres o wersi yn Seren Cymru 1965-66 Roedd Emlyn yn ddarllenwr eang, yn feddyliwr praff ac yn bregethwr hawdd gwrando arno.  Pregethodd yn nghyfarfodydd blynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru sawl tro, a thraddodi darlith y Goffa Lewis Valentine yng Nghymdeithas Heddwch yn Bathabara yn 2001.

Bu’n weinidog ar fro gyfan ac yn gymwynaswr i bawb.  Cynorthwyai ffermwyr yn y caeau gwair, cludai bobl i’r ysbytai a byddai’n barod i gefnogi pobl drwy ysgrifennu lythyr ar eu rhan yn gyson.  Roedd yn heddychwr wrth reddf, a bu yntau a’i gyfaill, y Parchg Emlyn  Richards yn flaengar yn erbyn Wylfa B o’r cychwyn.  Bu’n selog i Eisteddfod Môn ac i’r Eisteddfod Genedlaethol. Hyrwyddodd ef a’i briod eisteddfod yng Nghymanfa Môn, a threfnu Cwis Ysgrythurol i’r eglwysi. Bu’n hyrwydddo dinasyddaieth Gristnogol o fewn y Gymanfa ac yn cyfrannu i bwyllgor Undeb Bedyddwyr Cymru yn y maes hwn. Bu’n gadeirydd Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru, sef Cymdeithas Goffa Lewis Valentine. Cawsai flas ar lenyddiaeth yn gyffredinol, er nid oes tystiolaeth iddo lenydda ei hun. Roedd ganddo glust at iaith, a blas at ei hysgrifennu’n gywir. Roedd yn lythyrwr pigog yn y wasg ac yn barod i hyrwyddo trafodaeth iach a gonest bob tro. Bu’n aelod selog gydol oes ym Mhlaid Cymru, ac yn barod i ymgyrchu o’i phlaid ym mhob etholiad. Gwerthfawrogai esiampl pobl fel Lewis Valentine a bu dylanwad heddychwyr mawr y genedl yn drwm arno.  Bu ei dad yn y ffydd yn esiampl i’w ddilyn, ond o bob arwr, byddai’n siwr o arddel Iesu Grist fel y gwir arweinydd ar daith bywyd. Yn y bennod a ysgrifennodd Emlyn yn y llyfr ‘Ffarwel i’r Brenion’ o dan olygyddiaeth y Parchg Idwal Wyn Jones, yn casglu teyrngedau i’r Parchg R. Parry Roberts, dywed

“Ie, braint mwyaf fy mywyd ydoedd ‘nabod Parri Roberts, oedi yn ei gwmni a bod yn aelod distadl o Ysgol y Proffwydi a losgodd gymaint o lo a golau yn Academic Brynhyfryd…………y mae fy nyled iddo yn ddifesur. Ef a’m dysgodd i fyfyrio’r Beibl, ac a estynnodd i mi ddeheulaw cymdeithas yr eglwys. O ryfedd ddawn”.

Gŵr hwyliog a fwynheiai sgwrs ddifyr ydoedd.  Byddai’n hoff o wrando ac adrodd storiau, a’i chwerthin iach a’i ffraethineb parod cael croeso ar bob aelwyd. Byddai wrth ei fodd yn dilyn hynt a helynt y timoedd pêl-droed. Fel arweinydd Clwb yr Ifanc yng Nghemaes, roedd wrth ei fodd yn chwarae tenis bwrdd, ac os oedd snwcer ar y teledu, byddai’n wyliwr astud. Yn ei flynyddoedd olaf, roedd ei glyw yn ofid iddo, a byddai’n ei chael yn anodd i fod yng nghwmni criw niferus.  Roedd yn well ganddo fod yn rhan o gwmni bychan o’r un anian ag ef ei hun. Bu ei ardd yn ddiddordeb iddo ar hyd y blynyddoedd, gan dy fu llysiau i’r tŷ.

Yn 1945 priododd gyda Gwynneth Owen, merch o Lundain, ond a ddaeth i fro ei theulu yn Talsarn, Dyffryn Nantlle adeg yr Ail Rhyfel Byd. Cyfarfu’r ddau tra roeddent yn y coleg ym Mangor.  Bu Gwynneth yn athrawes yn Ysgol Gyfun Amlwch, ac yn hyrwyddo gweithgareddau’r ifanc yn y fro.  Ganwyd iddynt ddau blentyn, sef Eleri a Gwilym.   Doedd dim yn well ganddo na threulio amser yn cwmnia gyda’i wyrion, a’u gweld yn aeddfedu.  Bu farw ym mis Tachwedd 2008, ac yn unol â’i ddymuniad, cafwyd oedfa angladdol breifat yn amlosgfa Bangor gyda’r teulu agos yn unig yn bresennol.

Cyfrannwr.  Denzil Ieuan John

Portreadau

Ceir pennod amdano yn llyfr ei gyfaill Emlyn Richards “Pregethwrs Môn”  Gwasg Gwynedd
Yn llawlyfr 2010, ceir ysgrif goffa werthfawr gan John Rice Rowlands, un o’i gyfeillion gydol oes.