Jones – Idwal Wynne (1938-2006)

Un o gymeriadau unigryw y pupud Bedyddiedig yn ail hanner yr ugeinfed ganrif oedd y Parchg Idwal Wynne Jones. Un  a anwyd yn Sir Fôn oedd Idwal, a wasanaethodd yn bennaf ym Mhorthmadog a Llandudno, ond a anwylwyd gan Gymru gyfan.  Gŵr hynaws oedd yn mwynhau cwmni pobl.  Byddai yn adnabod gweinidogion o bob enwad, ac roedd wrth ei fodd yn casglu gwybodaeth a dangos cefnogaeth i  sawl menter.   Roedd ganddo ddawn y storïwr rhadlon, a byddai wrth ei fodd gyda ‘smoke’ yn ei law, panad wrth ei ochr a criw o ffrindiau diddan o’i gwmpas.

Ganed Idwal Wynne Jones yn un o ddau fab William ac Annie Jones a magwyd ef yn ardal Llantrisant, ger Llyn Llywenan, sydd rhwng Bodedern a Llantrisant.  Roedd Idwal yn agos at ei frawd  Gwilym, sy’n aelod etholedig o Gyngor Sir Ynys Môn, ac yn ysgrifennydd eglwys Seilo, Caergeiliog. Mam eglwys Idwal oedd Ainon, Llantrisant,  ac roedd yn falch o arddel perthynas agos gyda nifer o weinidogion eraill a anwyd yn y fro ac a wasanaethodd eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru.  Cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol Gynradd Llantrisant, cyn symud i’r Ysgol Uwchradd leol.  Gadawodd yr ysgol yn bymtheg mlwydd oed a gweithio yn Ystad Presaeddfed. Cafodd ei fedyddio yn Ainon gan y Parchg W. R. Jones yn Llyn Llywenan.  Ymdeimlodd â’r alwad i’r weinidogeth a threfnwyd iddo fynd yn 1955 i ysgol baratoadol sef ysgol Ilston yng Nghaerfyrddin am gyfnod ac yna i ysgol debyg yn y Bala.

Cofrestrwyd Idwal Wyn yng Ngholeg y Bedyddwyr yn 1958, pan roedd John Williams Hughes yn brifathro. Byddai arddull sgwrsiol y prifathro wedi apelio at Idwal Wyn, gan mai modd felly a arferai yn y pulpud ar hyd ei weinidogaeth. Byddai’n ymddiddan gyda’i gynulleidfa, ac amlach na pheidio yn dwyn y bregeth i ben drwy ddyfynu pennill o emyn. Roedd Idwal yn berson preifat wrth natur a bu’n ffodus o fod yn un o griw sylweddol o fyfyrwyr a fu’n  ffrindiau selog i’w gilydd.

Ordeiniwyd ef yn Seion, Porthmadog Awst 30ain,1961, ac enillodd ei blwyf yn naturiol ym mysg ei phobl.  Roedd hefyd yn weinidog ar Bethel, Penrhyndeudraeth a Ramoth, Llanfrothen. Nid oedd yn medru gyrru oherwydd ei olwg gwael, a dibynnai ar drafnidiaeth gyhoeddus i deithio o gwmpas.  Yn ystod ei weinidogaeth yn Seion, recordiwyd Oedfa’r Bore a dywedir bod llawer o werthu wedi bod ar gopiau o’r oedfa honno. Roedd yn gyfarwydd gydag amserlenni bws a thren ac roedd trefnu ei deithio yn dod yn hawdd iddo.  Bu’r eglwys yn gadarn ei thystiolaeth, ac er mai hi oedd yr eglwys leiaf yn y dref, roedd cyfraniad y gweinidog yn helaeth ac yn llwyr. Dywedir i bobl ifanc y fro ei gael yn gyfaill hynaws, a chofir amdano yn y cyfnod hwn am ei gefnogaeth i weithgareddau cyd-enwadol.  Gweinidog y Presbyteriaid yn y cyfnod hwnnw oedd y Parchg Harri Parri, a bu’r ddau yn cynnal eu cyfeillgarwch agos am weddill eu hoes. Ceir pennod gan Harri Parri yn sôn am Idwal yn ei lyfr ‘O’r un brethyn’.  Yn y cyfnod hwn, bu’n cynorthwyo Harri Parri drwy ddarllen proflenni’r ‘Goleuad’, – wythnosolyn y Presbyteriaid, yr oedd Harri yn olygydd iddo ar y pryd.  Daeth y diddordeb hwn ag ef ymhen y rhawg i fod yn olygydd Seren Cymru. Cyfeillion agos erall i Idwal oedd Robin Williams, gweinidog gyda’r Presbyteriaid yn Penrhyndeudraeth a William Owen, athro ysgrythur yn yr ysgol uwchradd leol.

Symudodd Idwal Wynne Jones i Landudno yn 1979 a bu yno am 23 mlynedd.  Yn 1995 ychwanegodd Calfaria, Ochr y Penrhyn, at ei ofalaeth.  Roedd wrth ei fodd yn croesawu ymwelwyr i’r dref glân môr bob haf, ac yn sgwrsiwr llawen.   Cafodd gwmni gweinidogion eraill o’r un anian ag ef, megis Ifan R. Lloyd Jones, John Lewis Jones a Roger Roberts a rhyngddynt buont yn hau hadau sefydlu un eglwys ymneilltuol Gymraeg yn y dref.  Er na welodd Idwal hynny yn digwydd yn llwyr, roedd yn barod i hyrwyddo cydweithio agos rhwng y cynulleidfaoedd.  Byddai’n strwythuro ei wythnos fel y gallai ddychwelyd i Ynys Môn at ei fam a’i deulu yn wythnosol, ac hefyd i dreulio amser yng Ngholeg y Bedyddwyr ym Mangor lle roedd yn cyflawni gwaith ysgrifennydd y Coleg.  Y Parchg John Rice Rowlands, un o’i gyfeillion gydol oes, oedd y prifathro, a’r ddau yn deall ei gilydd i’r dim.

Cyn diwedd ei yrfa weinidogaethol derbyniodd wahoddiad eglwys Bethel, Caergybi i fod yn weinidog yno yn dilyn y Parch Dyfed Wyn Roberts.  Oherwydd gwaeledd, bu’n rhaid iddo orffen ar ôl dwy flynedd, ond ceir tystiolaeth iddo hyrwyddo cwmnïaeth hyfryd yn yr eglwys yn ystod ei weinidogaeth yno, fel y gwnaeth yn ei ddau faes blaenorol. Fel un o fechgyn gorllewin yr ynys, roedd yn gyfarwydd a llawer iawn o aelodau’r eglwysi, a hwythau yn ei werthfawrogi’n fawr iawn.

Arwahan i fod yn ysgrifennydd y coleg, bu hefyd yn olygydd Seren Cymru gan gymryd drosodd oddiwrth y Parchg Tom Morgan. Galwodd ar eraill i lunio’r erthyglau golygyddol a datblygodd diddordeb a doniau amryw o weinidogion i wneud hynny. Bu yn ysgrifennydd Pwyllgor Llenyddiaeth yr enwad ac yn sgîl hynny, eisteddai ar Gyngor Undeb Bedyddwyr Cymru. Ymysg y llyfrau a olygwyd ganddo oedd casgliad o erthyglau yn cydnabod bywyd un o’i arwyr sef y Parchg Robert Parri Roberts, un o feibion Môn, a wasanaethodd yn Ffordd Las am gyfnod cyn symud lawr i fod yn weinidog ym Methel, Mynachlog-ddu, Sir Benfro. Cafodd ‘Ffarwel i’r Brenin’, groeso rhagorol, a mawr yw diolch enwad iddo am ei waith.  Ef  a olygodd cyfrol o fyfyrdodau Beiblaidd gan y Parch Lewis Valentine, ‘Dyrchafwn Gri’, ac roedd hefyd yn gyfrifol am gylchgrawn Tabernacl, Llandudno o’r enw ‘Y Deyrnas’. Daeth Idwal yn gyfeillgar â’r Parch Lewis Valentine ym mlynyddoedd olaf bywyd Mr Valentine ag ef a luniodd Gwasanaeth Coffa iddo lle cafwyd cyfraniadau gan rai o gewri’r genedl fel Gwynfor Evans, O.M Roberts, Dafydd Iwan a sawl  un arall.

Ymysg diddordebau eraill Idwal Wynne Jones roedd casglu darnau o Goss China, a byddai yn effro i bob cyfle i brynu darn arall at ei gasgliad. Roedd yn ddarllenwr eang ac yn wybyddus mewn sawl maes, ond ei bleser pennaf oedd pregethu, nid fel darlithydd yn anerch ei gynulleidfa ond fel sgwrsiwr yn defnyddio ei ddawn storïol hwyliog i ennill calonnau ac i feithrin pobl yn y ffydd.  Bu’n gennad effeithiol ac yn ffrind da i’w bobl.  Coffa da ohono.

Englyn er cof am Idwal Wynne Jones a luniwyd gan Machraeth, ac sydd i’w weld yng nghapel Ainon.

Erys mewn dyrys oriau – yn Ainon
a’n hynys, gof gorau
am yr un a fu’n mawrhau
yr Iesu dan fawr groesau.

Machraeth

 

Cyfranwr:  Denzil Ieuan John.

Yn y llyfr ‘O’r un brethyn’, sef casgliad o wyth ysgrif gan Harri Parri, ceir cofiant am Idwal Wynne Jones.  Cyhoeddwyr:  Gwasg y Bwthyn, 2013.