Jones – Edward Cefni (1871 – 1972)

Edward Cefni Jones

 

Teulu yng nghapel Cildwrn, ger Llangefni, Ynys Mon oedd rhieni yr emynydd a’r pregethwr enwog Edward Cefni Jones.  Ganwyd ef ar 17 Hydref 1871 yn bedwerydd plentyn allan o ddeg i John ac Ann Jones, Rhosgofer, Rhostrehwfa . Y gweddill oedd William, John, Mary, Edward (Cefni), Elizabeth, Anne Ellen, (nain Rita Milton Jenkins)  Margaret, Jane, Richard a Samuel (tad y Prifardd Rolant o Fôn).

Cafodd ei fedyddio ar 12 Mehefin 1887 yn y Cildwrn, cyn ei fod yn un ar bymtheg oed, ac yno y pregethodd ei bregeth gyntaf ar 15fed o Ragfyr 1890.  Wrth ei grefft, roedd yn saer coed, ond wrth ei reddf roedd yn bregethwr.

Cydnabyddwyd ef fel pregethwr rheolaidd yn y Gymanfa yn 1891, a derbyniodd hyfforddiant gan y Parchg Cyffig Davies, Porthaethwy, cyn ei dderbyn i Goleg y Bedyddwyr ym Mangor yn 1892. Tra yno, mabwysiadodd yr enw canol ‘Cefni’. Eglurodd unwaith bod yna fyfyriwr arall yn y coleg o’r un enw ag ef, ac ychwanegodd yr enw ‘Cefni’, er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a’r myfyriwr arall.

Cafodd ei ordeinio yn weinidog yn Seion, Llanberis, ac yn ystod y cyfnod hwn y priododd Edward gyda Sarah Edwards, sef merch hynaf Mr a Mrs J. N. Edwards, masnachwr diwyd yn Llanberis,. Ganwyd iddynt un ferch, sef Dilys Cefni Jones.

O fewn tair blynedd yn 1898 roedd wedi symud i Calfaria, Ffestiniog a Moriah, Tangrisiau.  Arhosodd yno am dair blynedd ar ddeg cyn symud yn 1911 i  weinidogaethu yn Ramoth Hirwaun a Phontbrenllwyd.  Dychwelodd i’r gogledd yn 1920 a threulio un mlynedd  ar hugainym Mhenuel Bangor gan ddyblu’r aelodaeth yno.

Etholwyd ef yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1934 gan gyflwyno ei araith y flwyddyn ganlynol yn Undeb Tabernacl, Bae Colwyn.  Ef gafodd y cyfle i groesawu naw gweinidog newydd y flwyddyn honno. Wedi ymddeol, bu’n gwasanaethu eglwysi bychain Ynys Môn gan bregethu am y tro olaf ym Moreia Porthaethwy yn 1961.    Bu farw ar 9 Medi, 1972 yn 101 oed.

Bu cyfraniad Cefni Jones fel golygydd y Llawlyfr Moliant Newydd yn un sylweddol.  Roedd ar y panel golygyddol o’r dechrau, ond ar farwolaeth y Parchg R.S. Rogers, golygydd yr emynau, gwahoddwyd Cefni i orffen y gwaith.  Yn ei ysgrif ddifyr yn Seren Gomer 2012-13 ar “Cefni Jones, golygydd ac emynydd”, edrydd y Parchg John Rice Rowlands, yr hanes amdano yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb, ac fel y bu iddo ddilyn trywydd ychydig yn wahanol i R. S. Rogers. Dyfynir o ddarlith a draddodwyd gan y Parchg Ifor Williams, Bangor, ar y mân newidiadau roedd R. S. Rogers wedi eu gwneud, gan rhoi ei ogwydd diwinyddol ei hun.  Mae’n drafodaeth ddifyr iawn.

Lluniodd Cefni Jones, emynau ei hun, a’r amlycaf ohonynt yw’r emyn

Pan oedd Iesu dan yr hoelion
Yn nyfnderoedd chwerw loes,
Torrwyd beddrod ei obeithion
Ei rai annwyl wrth y groes;
Cododd Iesu!
Nos eu trallod aeth yn ddydd.                               (Caneuon Ffydd 550)

Ceir ugain enghraifft arall o’i waith yn Llawlyfr Moliant, er mai dim ond un darn arall yn unig sydd o’i waith yn Caneuon Ffydd. Bydd llawer yn gyfarwydd gyda’i efelychiad o garol adnabyddus, –

I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd,
Nid oedd ar ei gyfer na gwely na chrud;
Y sêr oedd yn syllu ar dlws faban Mair
Yn cysgu yn dawel ar wely o wair.                       (Caneuon Ffydd 450)

Arwahan i’r cyfraniadau enfawr a wnaeth E. Cefni Jones fel pregethwr, golygydd ac emynydd, cyhoeddodd nifer o esboniadau a chofiannau. Lluniodd nifer o erthyglau a welwyd yng ngyhoeddiadau’r Bedyddwyr. Cofir amdano hefyd fel cwmnïwr da ac yn gymeriad rhadlon. Ni fyddai’n rhuthro nac yn gwylltio a byddai o hyd yn barod i wrando ar eraill.  Cofia Rita Milton Jenkins iddi ddangos ei hemyn cyntaf iddo, a hithau’n 9 oed, ac ar ôl iddo ei ystyried yn fanwl, ymatebodd yn bwyllog drwy  ddweud “da iawn ti, dal ati”. Annogai eraill bob amser, a bu ei ddylanwad ar eraill yn werthfawr a chofiadwy.

Cyfrannwyr : Denzil Ieuan John

Rita Milton Jenkins.

Trafodion Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr 2012-13

“E. Cefni Jones, Golygydd ac Emynydd”  gan John Rice Rowlands.