Fe wnaeth staff Undeb Bedyddwyr Cymru gael sgwrs gyda thîm anhygoel o bobl yn Zimbabwe yn ddiweddar, sydd yn wynebu caledi ac ‘argyfwng cenedlaethol’, ond sydd hefyd yn gweld arwyddion gobaith o ganlyniad i’w gwaith.
‘We keep our faith,’ meddai Grace Mugebe sydd yn gweithio i Gymorth Cristnogol Zimbabwe, wrth drafod agwedd tîm sydd ar reng flaen nifer o frwydrau dyngarol ac amgylcheddol difrifol ar hyn o bryd. ‘There is very little hope in Zimbabwe…. but we believe that the Lord will set things right.’
Ym mis Ebrill eleni, fe wnaeth Llywydd Zimbabwe gyhoeddi ‘trychineb cenedlaethol’ yn y wlad. Roedd hyn o ganlyniad i sychder sydd wedi’i yrru gan effaith hinsoddol El Nino, ffenomena hinsoddol sydd yn digwydd bob ychydig flynyddoedd, ac fydd o bosib yn cael effaith gryfach yn y blynyddoedd sydd i ddod o ganlyniad i Newid Hinsawdd.
Mae’r sychder presennol wedi effeithio ar o leiaf 27 miliwn o bobl yn Affrica ddeheuol, ac mae Malawi, Lesotho, Zambia, Namibia a Zimbabwe i gyd wedi cyhoeddi argyfyngau cenedlaethol tebyg wrth i’r boblogaeth weld perygl sychder a phrinder bwyd yn cynyddu.
Roedd tîm Cymorth Cristnogol eisoes wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr yn Zimbabwe oedd mewn perygl o ganlyniad i effeithiau Newid Hinsawdd yn y rhanbarth, trwy gynyddu gwytnwch eu dulliau amaethyddol, a’u cynorthwyo i agor ffrydiau newydd o incwm nad oedd yn gwbl ddibynnol ar gynaeafau. Roedd UBC hefyd eisoes wedi dechrau cefnogi’r gwaith hwn cyn y sychder presennol trwy apêl Talentau Gobaith.
Profwyd bod y gwaith hwn oedd eisoes yn digwydd yn y wlad yn holl-bwysig yn wyneb y sychder diweddaraf hwn. Yn ôl Grace Mugebe, fe wnaeth ymweliad diweddar i ranbarth Mudzi ble roedden nhw eisoes wedi bod yn gweithio, ddangos iddi fod y gwaith wedi bod yn llwyddiannus yn barod, gyda nifer o ffermwyr wedi’u profi i fod yn wydn yn eu dulliau ffermio, hyd yn ystod y sychder presennol.
Dywedodd: ‘Roeddem ni yn Mudzi yn ddiweddar, ac roedd hi’n galonogol iawn gweld cymunedau yn parhau yn wydn ac yn ymateb i’r sychder hwn. Roedd y cymunedau wedi bod yn gweithredu’r technegau amaeth newydd yr oedden nhw wedi eu dysgu trwy raglen BRACT, ac maen nhw’n barod yn paratoi ar gyfer eu dyfodol y tu hwnt i’r sychder!’.
Mae Cymorth Cristnogol hefyd yn ymateb yn uniongyrchol i’r sychder trwy hyfforddi cymunedau mewn technegau cadwraeth ddŵr, cynyddu mynediad at ddŵr glân, a pharhau i ddatblygu dulliau ffermio cynaliadwy sydd yn cynyddu eu gwytnwch fel ffermwyr.

Maen nhw hefyd wedi bod yn gwneud gwaith pwysig i ymateb i achosion trais ar sail rhywedd, ar y cyd gydag ymdrechion i ymateb i argyfyngau eraill megis cholera sydd yn waeth ar hyn o bryd o ganlyniad i’r sychder.
Bydd UBC yn parhau i gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol, a sefyll gyda chymunedau yn Zimbabwe wrth i ni edrych at fisoedd olaf apêl Talentau Gobaith, a fydd yn dod i ben ym mis Rhagfyr eleni.
Gallwch ddysgu mwy am gyd-destun Zimbabwe, a’r hyn sydd yn digwydd trwy waith Cymorth Cristnogol yno mewn cyfres newydd fideo a gynhyrchwyd dros y misoedd diwethaf trwy gyfres o sgyrsiau gyda thîm Cymorth Cristnogol Zimbabwe.
Mae dal sawl cyfle i gefnogi’r gwaith pwysig sydd yn digwydd yn Zimbabwe. Ym mis Mawrth eleni, lawnsiwyd her i deulu’r Bedyddwyr gerdded 750+ o filltiroedd, sef hyd Cymru a Zimbabwe at ei gilydd. Mae nifer eisoes wedi cyfrannu at y milltiroedd, gyda dros 388.85 o filltiroedd eisoes wedi eu cerdded, ac eraill yn codi arian mewn ffyrdd eraill.
Bydd yr her CERDDED! yn para tan ddiwedd mis Hydref, a gellir cofrestru ar ein wefan yma. Mae hefyd adnoddau ar gyfer gwasanaethau, cyfarwyddiadau rhoi at yr apêl / codi arian, adnoddau ar gyfer grwpiau iau – a mwy – i’w darganfod ar brif dudalennau apêl Talentau Gobaith yma.