Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â ni wrth i ni orffen ein tymor o weddi gyda chadwyn weddi 12 awr arbennig ym mis Mawrth…
Ym mis Rhagfyr, fe estynnwyd gwahoddiad i eglwysi, gweinidogion ac unigolion ar draws Cymru ymuno â ni mewn tymor o weddi wrth i ni symud i gyfnod allweddol o ran ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth fel teulu Bedyddiedig yng Nghymru.
Teimlwyd yn gynyddol bod galwad i ni fel teulu Undeb Bedyddwyr Cymru geisio’r Arglwydd mewn ffordd arbennig. Yn gyntaf – Ei geisio amdano Fe Ei hun… mae E’n deilwng o’n holl ffocws a’n hegni!
Teimlwyd hefyd fod nifer o ddatblygiadau pwysig yr hoffwn gyflwyno gerbron yr Arglwydd yn ystod y cyfnod allweddol hwn:
- Apwyntiad Ysgrifennydd Cyffredinol Newydd
- Datblygiad CIO’s Cenhadol Rhanbarthol Newydd
- Hinsawdd Ysbrydol Cymru – gweddïo dros waith yr Ysbryd Glân mewn calonnau a gwaith y Deyrnas ar draws Cymru.
- Arwyddion o dwf yn ein plith (e.e bedyddiadau, plant a phobl ifanc).
Hoffwn estyn wahoddiad eto: i ymuno â ni mewn Cadwyn Weddi arbennig ar draws y wlad ar y 26ain o fis Mawrth.
Sut bydd hi’n gweithio?
- Rydym yn gwahodd eglwysi, grwpiau ac unigolion i gofrestru ar gyfer slot gweddi ar y 26ain o fis Mawrth.
- Bydd y ‘gadwyn weddi’ yn rhedeg am 12 awr – rhwng 7yb a 7yh
- Gallwch gofrestru i weddïo am gyfnod byrrach neu hirach trwy’r ddolen hon: https://signup.24-7prayer.com/signup/a19450*
- Croeso i chi ddefnyddio’r adnoddau gweddi yma i helpu arwain eich gweddïau yn ystod eich gweddi. Pam lai dod â grŵp at ei gilydd i ddilyn y dudalen weddi?
- Bydd dwy alwad weddi genedlaethol – am 12yh ac am 7yh (plîs cysylltwch â sioned@ubc.cymru os hoffech ddolen Zoom i ymuno).
*Noder: dim ond am isafswm o awr o slot ar y system Gweddi 24/7 y gallwch chi gofrestru, ond gallai hynny olygu gweddïo am 15 munud rywbryd yn yr awr honno, peidiwch â phoeni os na fedrwch lenwi’r awr gyfan. Nodwch hefyd fod modd i fwy nag un person / grŵp gofrestru yn yr un cyfnod amser – peidiwch â digalonni os mae eraill wedi cofrestru ar gyfer yr unig gyfnod allech chi ei wneud.
