Cynhesrwydd Cenhadaeth: Y Tabernacl

Does dim amheuaeth bod Tabernacl yr Ais wedi’i fendithio gyda lleoliad arwyddocaol yng nghanol y brif-ddinas. Gyda’r lleoliad hwnnw daw heriau hefyd, gan gynnwys y cwestiwn: ‘Sut wnawn ni ddefnyddio’r lleoliad arbennig hwn i estyn allan i’r rhai sydd o’n cwmpas?’

Dyna un o’r cwestiynau y bu’r capel yn ymaflyd ag e dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig gyda’r tensiwn mai eglwys Gymraeg ei hiaith – a’i chenhadaeth – ydyw, gyda chalon i gyrraedd Cymry Cymraeg y ddinas, ond hefyd gyda gwir ddymuniad i estyn allan at y rhai sydd ar eu stepen ddrws gyda chariad Iesu.

Dechreuodd hadau’r ateb i’r cwestiwn hwnnw gael eu plannu ychydig o flynyddoedd yn ôl. Pan ddaeth Rosa Hunt yn gyntaf i Gaerdydd fel cyd-bennaeth Coleg Bedyddwyr Cymru, byddai hi’n dechrau ei thaith i’r gwaith yn gynnar yn y bore yn cerdded ar hyd Heol y Frenhines. Byddai’n gweld nifer o bobl ddigartref ar hyd y brif stryd honno, a rhywbeth yn cyffwrdd â’i chalon.

Gweddïodd hi weddi syml, ond un dyngedfennol dros y blynyddoedd nesaf: ‘Os wnei di roi cyfle i fi wneud rhywbeth, Dduw, bydda i’n ei wneud.’

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd Rosa ei gofyn gan eglwys y Tabernacl a fyddai hi’n ystyried dod atyn nhw fel gweinidog. Cadarnhawyd y galwad trwy sawl profiad, a daeth hi i’r Tabernacl ym mis Medi 2022.

Gweddïodd hi weddi syml, ond un dyngedfennol dros y blynyddoedd nesaf: ‘Os wnei di roi cyfle i fi wneud rhywbeth, Dduw, bydda i’n ei wneud.’

Roedd y cyfnod hwnnw yn un allweddol, wrth i’r wlad ddod allan yn raddol o bandemig Covid-19, a chostau nwy a gwres wedi cynyddu’n sydyn a sylweddol. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth y Llywodraeth ofyn i eglwysi ystyried a allen nhw gynnig cymorth i’w cymunedau trwy agor canolfannau clyd (gyda chymorth grantiau) – mannau ble fyddai pobl yn gallu dod a threulio amser mewn lle cynnes, ar y cyd gyda gweithgareddau neu fwyd.

Yn fuan, daeth hi’n amlwg bod cyfle unigryw ac arbennig gan y Tabernacl i allu cynnig gwasanaeth tebyg yng nghanol y ddinas – ac adeiladu ar waith arbennig eglwysi iaith Gymraeg Caerdydd cyn hynny a fu’n rhedeg cynllun brechdanau i’r digartref (‘Rainbow of Hope’).

Wrth gwrs, un o’r grwpiau a fyddai’n gwerthfawrogi hyn fwyaf fyddai pobl ddigartref yng nghanol Caerdydd, ac felly dechreuodd gweddi Rosa o ychydig flynyddoedd ynghynt – a chwestiwn Tabernacl fel eglwys – gael eu hateb ar yr un pryd.

Ar y cychwyn, dechreuodd y Ganolfan Glyd gyda choginio pryd o fwyd i 6-8 o oedolion ddwywaith yr wythnos. Ond, yn fuan iawn, wrth i’r nifer o fynychwyr gynyddu, aeth y gwaith yn ormod i’r gwirfoddolwyr oedd yn coginio bob wythnos. Roedd angen gofyn y cwestiwn: sut allen ni gynnal y gwaith mewn ffordd gynaliadwy ar gyfer gwaith gwirfoddol fel hwn? Ar ôl gwthio ar nifer o ddrysau, gan gynnwys gweld a oedd modd derbyn bwyd oedd dros ben o archfarchnadoedd, daeth yr ateb o gyfeiriad hollol annisgwyl.

Mae’r Tabernacl wedi’i leoli drws nesaf i fwyty Giovanni’s. Ar liwt hollol wahanol, roedd aelodau y Tabernacl wedi dechrau sylwi bod byrddau y bwyty wedi dechrau cael eu gosod o flaen safle’r Tabernacl ar y brif stryd – ac yn pryderu braidd.

Aeth Rosa i gael gair bach gyda’r perchennog – ond fe drodd y sgwrs i fod yn un “hyfryd”, yn ôl Rosa! Cafodd Rose gyfle i gynnig gweddi – ac, ar yr un pryd, rhannodd Giovanni ei ddymuniad i goginio prydau o fwyd i’r bobl ddigartref oedd yn dod i’r Tabernacl.

A dyna ddigwyddodd! Dair blynedd yn ddiweddarach ers yr wythnos honno, yn ddi-ffael, bwyty Giovanni’s sydd bod yn darparu bwyd o’r safon uchaf i bobl ddigartref Caerdydd trwy Ganolfan Glyd Tabernacl.

Mae’r eglwys wedi gweld bendith mawr trwy’r gwaith. Un fendith yw’r cydweithio rhwng eglwysi – mae’r 60 o wirfoddolwyr sydd bellach yn rhedeg y Ganolfan Glyd – yn dod o ystod o eglwysi Cymraeg Caerdydd. Mae’r Ganolfan yn llawn bwrlwm bob Mercher a Sul, a nifer fawr o bobl ddigartref ac anghenus yn derbyn bwyd o safon uchel.

Dechreuodd gweddi Rosa – a chwestiwn Tabernacl fel eglwys – gael eu hateb ar yr un pryd…

Ac wrth gwrs, mae’r rhai sydd yn dod yn profi cariad Duw trwy hwn i gyd. Pan ofynnwyd i Rosa a ydy’r Ganolfan yn agor sgyrsiau am ffydd gyda’r bobl sydd yn dod, yr ateb yw: “Wrth gwrs! A dwi fy hunan yn dysgu am gariad Duw trwy’r rheiny sydd yn dod.”

Sonia am straeon o fywydau’n cael eu hachub o drais difrifol – a gweld llaw Duw yn glir ar waith. Yn ôl Rosa, mae nifer yn gofyn am weddi yn gyson pan ddônt i’r Ganofaln, ac yn teimlo eu bod yn gallu siarad yn agored am ffydd gyda’r rhai sydd yn gwirfoddoli yno.

Yn wir, nid canolfan ‘gynnes’ ffisegol yn unig yw hon – ond un sydd yn gynnes ymhob ffordd, yn serennu cariad Duw i ganol y brif-ddinas.

Gallwch ddarganfod mwy am Ganolfan Glyd y Tabernacl ar eu wefan yma. Gallwch hefyd ddarllen mwy o erthyglau calonogol am genhadaeth a gwaith Duw yng Nghymru heddiw yn rhifyn diweddaraf Y Negesydd (cylchgrawn tymhorol UBC) yma.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau