Yn y rhifyn arbennig hwn o ‘Dod i Adnabod’, clywn fyfyrfodau Mrs Bonni Davies wrth iddi gofio yn ôl dros ddeunaw mlynedd yn gweithio i Undeb Bedyddwyr Cymru..
Rydych chi’n ferch o Sir Benfro, ac fe wnaethoch chi dyfu i fyny yn mynd i Eglwys y Bedyddwyr Bethlehem yn Sir Benfro. Allech chi ddweud tipyn wrthyn ni am eich magwraeth?
Merch o sir y ‘wȇs, wȇs’ ydw i, wedi fy magu ers yn ifanc iawn yn nhref glan y môr Trefdraeth, lle roedd fy rhieni yn aelodau ffyddlon o eglwys y Bedyddwyr Bethlehem. Dwi’n hynod ddiolchgar fy mod wedi cael fy magu ar aelwyd grefyddol.
Dwi’n ystyried fy hunan yn un o blant “EJ”, sef y Parchedig E J Williams a ddaeth yn weinidog i Fethlehem pan oeddwn yn 6 mlwydd oed ac a fu yno tan roeddwn yn 15 oed – cyfnod pwysig ac allweddol yn fy mywyd. Roedd rhywbeth ymlaen yn festri Bethlehem bob nos o’r wythnos ag eithrio nos Sadwrn a thrwy hyn i gyd, minnau’n cael fy magu yn sŵn yr Efengyl.
Bu’r fagwraeth yma’n allweddol, wrth i minnau’n 13 oed, deimlo i Dduw siarad â fi drwy ei emynau, a minnau wedyn yn penderfynu mynd trwy ddyfroedd bedydd a dilyn Iesu. O’r dydd hwnnw ymlaen, beth bynnag fyddai’n digwydd y mi, roeddwn yn sicr y byddai Ef yn gydymaith i mi ym mhob achlysur ac yn rhywun y gellid troi ato ar unrhyw awr o unrhyw ddydd.
Mor hyfryd wedyn oedd cyfarfod â Vivian y gŵr ac yntau yn aelod ffyddlon yng Nghapel Caersalem. Ymunais ag ef yn yr eglwys honno lle bedyddiwyd ein tri phlentyn, a lle bedyddiwyd hefyd bump o’m hwyrion!
Sut ddaethoch chi i weithio i’r Undeb?
Gweithio yn y banc oeddwn i pan briodes i, ond bues i’n ffodus iawn, a minnau wedi priodi ffermwr, i gael aros adref i fagu’r plant. Dim ond wedi i’r plant dyfu, a’r mab adael ysgol i ffermio, y penderfynais fynd nôl i weithio – yn y banc am gyfnod byr, yna am naw mlynedd gyda phapur lleol.
Roeddwn yn parhau i weithio gyda’r papur pan glywais yng Nghyfarfodydd Blynyddol yr Undeb yn 2007 bod y swydd Cynorthwyydd Personol i Ysgrifennydd Cyffredinol UBC yn mynd. Roeddwn yn gwybod yn syth mai dyma oedd ‘swydd fy mreuddwydion’. Roedd fy ngwyliau bron i gyd yn cael eu cymryd i fyny i fynd i gyfarfodydd a phwyllgorau Cymanfa, Glyn Nest, Senana ayyb ac roedd hyd yn oed y Golygydd yn meddwl fod y swydd wedi cael ei gwneud ar fy nghyfer! Ymgeisiais amdani a bod yn ddigon ffodus i’w sicrhau, gan ddechrau yn Nhŷ Ilston ar 1af Tachwedd 2007.
Oes pethau yn sefyll allan wrth i chi feddwl am eich amser yn gweithio i’r Undeb?
Bu’n fraint ac yn anrhydedd arbennig iawn i gael gweithio i’r Undeb am gyfnod o ddeunaw mlynedd. Gwerthfawrogaf yn fawr fy mod, yn rhinwedd fy swydd, wedi cael y fath gyfle i gyfarfod â chymaint o weinidogion a gweithwyr diwyd yr enwad.
Rwy’n ddiolchgar iawn hefyd am gael cydweithio’n hapus gyda holl staff yr Undeb, mewn awyrgylch hyfryd, ofalus a chariadus. Byddwn yn ffrindiau am oes. Yn fwyaf arbennig, diolchaf am y fraint fawr a gefais o gael cyd-weithio gyda dau Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb – y Parch. Peter Thomas a’r Parch. Judith Morris – braint na fyddaf byth yn ei anghofio.
Dros gyfnod o ddeunaw mlynedd ni allaf ddechrau mesur y bendithion a dderbyniais wrth gyflawni’r gwaith. Cefais fendithion rif y gwlith a diolchaf i Dduw a’i fab, a fu farw drosom, am bob un ohonynt.
Diolch o galon, Bonni!
Dyma neges o ddiolch i Bonni a gyhoeddwyd yn Negesydd: Rhifyn Gaeaf yma, oddi wrth Lywydd UBC (Adran Gymraeg) Rob Nicholls:
Ar achlysur eich ymddeoliad fel Cynorthwy-ydd Personol i Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru, hoffem fynegi ein diolch diffuant a’n gwerthfawrogiad dwfn fel Undeb o’ch gwaith ffyddlon dros gymaint o flynyddoedd, gan ddechrau yn y swydd nôl yn 2007.Rydych wedi dangos ymroddiad a gofal arbennig ym mhopeth a wnaethoch, gan gyfrannu’n helaeth at fywyd a gwaith yr Undeb. Mae eich trefn a’ch trylwyredd, a’ch parodrwydd i helpu eraill wedi bod yn fendith i bawb a gafodd y fraint o gydweithio gyda chi.
Dymunwn i chi bob bendith a llawenydd. Bydd eich cyfraniad yn cael ei gofio’n hir, a bydd eich esiampl o wasanaeth ffyddlon yn parhau i ysbrydoli. Diolch o galon am eich llafur diflino a’ch ymrwymiad dros flynyddoedd lawer. Gyda’n dymuniadau gorau ni ‘gyd,
Rob Nicholls, Llywydd Adran Cymraeg Undeb
Bedyddwyr Cymru