Stori CERDDED! Llinos

Ar ddiwedd mis Hydref, byddwn ni’n dod i ben â her CERDDED! Cymru a Zimbabwe. Bu’r her cerdded hyd Cymru a Zimbabwe (750+ o filltiroedd) yn rhedeg ers mis Mawrth eleni i godi arian ar gyfer apêl Talentau Gobaith, sydd yn gweithio i gynyddu gwytnwch cymunedau ffermio yn Zimbabwe yn wyneb effeithiau Newid Hinsawdd.

Dyma hanes a myfyrdodau gan Llinos, un o’n cerddwyr brwd a gerddodd gant (!) o filltiroedd dros y misoedd diwethaf tuag at yr her…

Llinos Penfold ydw i. Rydw i’n aelod yn Eglwys Bethel, Mynachlog-ddu, Sir Benfro ers 44 o flynyddoedd. Wedi treulio dros 30 mlynedd yn y byd addysg, rydw i bellach ers dechrau mis Gorffennaf yn gweithio fel Cydlynydd y Gorfforaeth i Undeb Bedyddwyr Cymru ac wrth fy modd yn y swydd.

Pan ddaeth y cyfle i gyfrannu at her Cymorth Cristnogol â’r nod o gerdded hyd Cymru a Zimbabwe, sef cyfanswm o 750+ o filltiroedd, roeddwn i’n awyddus i gymryd rhan.

Mae cerdded wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd ers blynyddoedd, ers i ni gael ci bach newydd bywiog iawn o’r enw Caio nôl yn 2015, a dweud y gwir. Pan mae ci gyda chi does dim modd gwneud esgusodion, mae’n rhaid mentro allan ym mhob tywydd.

Does dim dwywaith nad yw cerdded yn llesol er mwyn gwella’ch iechyd corfforol. Cred meddygon bod cerdded yn rheolaidd ac yn eitha cyflym yn gallu eich helpu i wrthsefyll clefyd y galon, strôc, gordewdra, clefyd siwgr, llid y cymalau, osteoporosis… mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Ond beth am yr effaith ar eich iechyd meddwl? Yn fy mhrofiad i gall mynd am dro yn yr awyr iach newid cwrs eich diwrnod yn llwyr. Weithiau os ydw i’n flinedig neu’n ddigalon mae hanner awr tu fas yn gwella fy hwyliau’n sylweddol, yn gwneud i’r cymylau duon yna godi ac yn fodd o roi pob gofid mewn cyd-destun.

Rhywbeth nad oes digon o sôn amdano yn y Gymry gyfoes yw ein iechyd ysbrydol. Pryd ydyn ni’n cael cyfle i fyfyrio, i weddïo, i ddiolch?  Rydyn ni mor brysur yn ceisio cyflawni ein dyletswyddau yn ein gwaith, dyletswyddau teuluol, dyletswyddau cymdeithasol, ydyn ni wedi anghofio sut mae diwallu’n heneidiau?

Eto, wrth fynd am dro dyma gyfle gwych i siarad gyda Duw, i fyfyrio, i weddïo, i ofyn am arweiniad ac i ddeisyf ei fendith. Yn aml pan fydda i’n cerdded Llwybr yr Arfordir ac yn wynebu darn heriol serth fe fydda i’n ceisio cofio’r Salmau a ddysges i ar y cof yn yr ysgol gynradd, geiriau emynau neu farddoniaeth sy’n dal yn y cof ers dyddiau ieuenctid.

Fe fydda i’n eu hadrodd naill ai yn fy meddwl neu os nad oes neb arall o gwmpas yn uchel, i’r pedwar gwynt. Rhyfedd fel y byddwch yn cofio darnau a ddysgwyd yn blentyn ond am ddysgu darnau newydd nawr, dim gobaith!

‘Ym mhle bues i’n cerdded eleni?’ rwy’n eich clywed chi’n gofyn. Mae’n ddrwg gyda fi eich siomi ond roedd y rhan fwyaf o’r teithiau eleni o gwmpas fy nghartref ym Mynachlog-ddu, teithiau byr ar y ffordd a rhai hirach ar fryniau’r Preseli. Fe dreulies i a’r gŵr wythnos yn cerdded arfordir Sir Fôn hefyd ym mis Awst gan fwynhau teithiau o Amlwch i Gemaes, Pentraeth i Moelfre a Phothaethwy i Biwmares.

Fe wnes i ail gerdded rhannau o arfordir Sir Benfro hefyd, rwy’n hoff iawn o’r daith o Marloes i Dale, o gwmpas traeth Barafundle ac o Borthgain i Abereiddy.

Da iawn bawb sydd wedi cyfrannu milltir neu ddwy tuag at y targed hwn. Gobeithio bydd yr arfer yn parhau ac y byddwch yn dod yn gerddwyr cyson. Ac os nad ydych chi’n gallu cerdded ymhell cofiwch bod cyfle o hyd i gyfrannu’n ariannol tuag at yr Apêl.

  • Ewch i gerdded – boed yn filltir neu’n ddeg! Cofrestrwch eich milltiroedd yma, gwahoddwch eich teulu, ffrindiau neu eglwys, codwch nawdd am y milltiroedd (cyfarwyddiadau yma), ac yna… ewch i GERDDED cyn diwedd yr her (diwedd mis Hydref)!

  • Rhowch nawdd at y cerddwyr sydd wedi cerdded milltiroedd dros yr apêl – ewch yma i ddarganfod sut mae rhoi tuag at yr apêl (cyn diwedd mis Rhagfyr).

  • Trefnwch ddigwyddiad yn eich eglwys neu grŵp! Cymrwch olwg ar adnoddau arbennig at dymor y cynhaeaf sydd ar gael ar gyfer unigolion, grwpiau ac eglwysi, yn ogystal ag adnoddau cyffredinol yr apêl yma.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Rhoi Dyfodol Newydd i Adeiladau Capel

Ers rhai blynyddoedd bellach mae UBC wedi bod yn dilyn strategaeth newydd o ailddatblygu adeilad pan fydd achos yn dod i ben ac adeilad capel, yn drist, yn colli’r eglwys a fu’n addoli yno. Erbyn hyn mae’r strategaeth yn dechrau dwyn ffrwyth, gydag enghreifftiau positif yn datblygu mewn gwahanol rannau o’r wlad…

Darllen mwy »

CIOs Cenhadol Newydd

Cawn glywed wrth Iwan Davies, Cyfreithiwr Mygedol UBC, am gynlluniau cyffrous sy’ ar y gweill i sefydlu CIOs (sef Sefydliad Corfforedig Elusennol neu ‘Charitable Incorporated Organisation’) rhanbarthol newydd i ganolbwyntio ar genhadaeth… 

Darllen mwy »