Gobaith i’r Cynhaeaf…

Mae ond ychydig o fisoedd ar ôl i ymuno mewn gwaith allweddol sydd wedi bod yn digwydd yn Zimbabwe eleni. Darllenwch isod i ddarganfod sut y gallwch chi chwarae rhan bwysig yn y gwaith y Cynhaeaf hwn…

Mae’n bosib bod oddeutu 2.7 miliwn o bobl wedi wynebu diffyg bwyd yn Zimbabwe eleni o ganlyniad i ffenomena hinsawdd El Nino, sydd wedi cyfrannu at argyfyngau ehangach megis ansefydlogrwydd economaidd, cholera, ac afiechydon eraill.

Bu Cymorth Cristnogol yn gwneud gwaith allweddol yn y rhanbarth, trwy weithio gyda ffermwyr lleol sydd mewn perygl o gael eu heffeithio’n wael gan newidiadau hinsawdd. Maent yn cynnig hyfforddiant mewn dulliau amaethyddol ‘hinsawdd-glyfar’, ac yn eu helpu i dyfu’n fwy gwydn gyda ffynonellau incwm newydd, creadigol.

Bu UBC yn cefnogi eu gwaith eleni trwy apêl 2023-24 Talentau Gobaith. Hyd yn hyn, mae eglwysi ar draws Gymru wedi cymryd rhan mewn teithiau cerdded, ciniawau, a digwyddiadau creadigol i godi arian ar gyfer yr apêl – gan gynnwys rhai yn cerdded milltiroedd fel rhan o’r her CERDDED! Diolch o galon i’r holl gerddwyr sydd wedi mynd y ‘milltir ychwanegol’, trwy ein cymryd ni i dros 550 o filltiroedd hyd yn hyn.

Mae dal cyfle cyn diwedd y flwyddyn i gefnogi’r gwaith allweddol y mae Cymorth Cristnogol yn ei wneud yn Zimbabwe, a gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau ffermio…

Dyma rai o’r ffyrdd y gallwch chi ymuno yn y gwaith adeg y Cynhaeaf hwn…

  • Mae mis ar ôl gennym yn ein her CERDDED! Cymru a Zimbabwe! Boed yn filltir neu’n 10, gallwch chi a’ch eglwys helpu darparu gwybodaeth a sgiliau i hyfforddi ffermwyr i addasu i newidiadau hinsawdd, trwy gymryd rhan yn yr her i gerdded hyd Cymru a Zimbabwe gyda’n gilydd yr Hydref hwn. A allwch chi ein helpu ni i gyrraedd ein targed? Gallwch ddarganfod sut i ymuno â’r her yma
  • Os nad oes blas gennych ar gerdded, pam lai trefnu cinio cynhaeaf, a chodi arian ar gyfer cymunedau yn Zimbabwe? Mae Cymorth Cristnogol wedi rhoi adnoddau gwych at ei gilydd, y gellir eu defnyddio i ysbrydoli prydau o fwyd cynhaeaf a digwyddiadau mewn eglwysi. Mae tudalen apêl Talentau Gobaith hefyd yn cynnwys nifer o adnoddau a gweithgareddau ar gyfer gwasanaethau a grwpiau eglwys, a syniadau rysait arbennig o Zimbabwe yn ein hadnodd ieuenctid.
  • Gweddïwch dros y bobl a’r cymunedau yn Zimbabwe. Bu tîm Cymorth Cristnogol yn Zimbabwe yn rhannu gyda ni yn ddiweddar sut y gallwn weddïo dros y wlad, mewn fideo sydd yn ein helpu i ffocysu ein gweddiau.
  • Ystyriwch a allwch chi neu eich eglwys roi tuag at y gwaith yn Zimbabwe – mae pob rhodd yn cyfri! Mwy o fanylion isod:

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Gobaith i’r Cynhaeaf…

Mae ond ychydig o fisoedd ar ôl i ymuno mewn gwaith allweddol sydd wedi bod yn digwydd yn Zimbabwe eleni. Darllenwch i ddarganfod sut y gallwch chi chwarae rhan bwysig yn y gwaith y Cynhaeaf hwn…

Darllen mwy »