Rydym yn cydnabod bod gweinidogaeth yn dod mewn llawer o wahanol siapiau a ffurfiau ac yn sicr nid yw wedi’i chyfyngu i’r rôl bugail/pregethwr mwy traddodiadol fydd yn dod i’r meddwl ar unwaith. Fel unigolion o fewn i deulu Duw, mae gennym wahanol ddoniau a galluoedd, gwahanol brofiadau ac arddulliau – a gellir defnyddio pob un ohonynt mewn gweinidogaeth a chenhadaeth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Gaplan neu’n Weithiwr Plant, Ieuenctid a theulu, yna rydym yn gweithio’n agos gyda Cholegau’r Bedyddwyr (yn enwedig Coleg Gwyn, Bangor a Choleg y Bedyddwyr, Caerdydd) yn ogystal â darparwyr hyfforddiant derbyniol eraill y gallwn eich cyfeirio atyn nhw’n unol â’ch anghenion penodol. Rydym am eich helpu i gyflawni popeth y mae Duw yn eich galw i fod. Byddwn yn cerdded gyda’n gilydd yn y broses dirnadaeth ac yn edrych ar y ffordd orau o ddarparu adnoddau, paratoi, hyfforddi a’ch ffurfio i fod y gorau yn yr hyn y mae Duw yn eich galw i mewn iddo.
Archwilio Galwad i’r Weinidogaeth
Gall canfod galwad i weinidogaeth Gristnogol, ym mha bynnag agwedd a allai fod, fod yn brofiad brawychus a braidd yn unig, felly, fel teulu’r Bedyddwyr rydym bob amser yn ceisio mynd gyda phobl ar hyd y daith honno o ddarganfod a dirnadaeth gweddïgar.
Os ydych yn synhwyro galwad i’r weinidogaeth, dylech, yn y lle cyntaf, siarad â’ch Gweinidog. Os nad oes gan eich Eglwys Weinidog siaradwch gydag un o Swyddogion yr Eglwys (e.e. Ysgrifennydd neu Drysorydd) a/neu ddiacon arall. Gofynnwch iddyn nhw weddïo gyda chi am eich ymdeimlad o alwad. Gweithiwch gyda nhw’n onest ac yn agored er mwyn adnabod eich doniau a’ch galluoedd penodol a thrwy hynny ddeall yn well yr hyn y gallai’r Arglwydd fod yn eich galw.
Profi’r Alwad
Roedd cymdeithas y credinwyr yn Actau’r Apostolion Pennod 9 wedi dirnad bod yr Ysbryd yn neilltuo Paul a Barnabus ar gyfer math penodol o weinidogaeth. Mae’r Bedyddwyr yn dal yr enghraifft ysgrythurol honno o ‘ddirnadaeth ar y cyd’ fel elfen allweddol wrth helpu unrhyw unigolyn i ganfod galwad Duw ar eu bywydau.
Ar ôl rhannu eich ymdeimlad o alwad gyda’ch Gweinidog neu un o Swyddogion yr Eglwys (Ysgrifennydd neu Drysorydd) a/neu ddiacon arall, bydd yn bwysig yn gyntaf i ‘brofi’ yr ymdeimlad hwnnw o alwad o fewn cymdeithas yr eglwys yr ydych yn perthyn iddi.
Cyn dechrau unrhyw hyfforddiant neu ffurfiant ar gyfer y Weinidogaeth, mae’n ofynnol i bob ymgeisydd fod wedi bod yn aelod o Eglwys y Bedyddwyr am o leiaf dwy flynedd. Bydd y cyfnod hwn wedi rhoi cyfle i chi a chymdeithas yr eglwys ddod i adnabod eich gilydd, a, gobeithio, byddant eisoes wedi dirnad rhywfaint o alwad Duw ar eich bywyd
Wrth i’r ymdeimlad hwn o alwad gael ei rannu’n ehangach yn y gymdeithas, dylech geisio (mewn ymgynghoriad â’r Gweinidog neu lle nad oes Gweinidog, Swyddog yr Eglwys neu ddiacon), dod o hyd i gyfleoedd penodol i “brofi’ yr ymdeimlad hwn o alwad ymhellach. Er enghraifft, gallech chwilio am gyfleoedd i bregethu o fewn yr Eglwys, arwain Astudiaethau Beiblaidd, cymryd rhan mewn mentrau cenhadaeth penodol, arwain grŵp cartref, ymuno â’r diaconiaid. Dyma rai o’r ffyrdd y bydd cymdeithas yr eglwys yn gallu ymuno â chi i ganfod a phrofi’n weddïgar a yw Duw yn eich galw – ac os felly, i ba fath o weinidogaeth. Os nad ydych chi’n teimlo’n arbennig o ddawnus, heb brofiad neu ddim yn mwynhau gweithio gyda phlant a phobl ifanc, mae’n debyg nad ydych chi’n cael eich galw i weinidogaeth plant ac ieuenctid!
Unwaith y bydd y gymdeithas wedi cael cyfle (ynghyd ag arweinwyr yr Eglwys) i fynd ar daith gyda chi i brofi’r alwad hon, bydd angen i’r aelodau eich cymeradwyo chi’n ffurfiol fel rhywun y maent yn dirnad bod Ysbryd Duw yn gweithio ynddoch ac yn eich galw.
Ar ôl cael cymeradwyaeth eich Eglwys lleol, mae’n bwysig dechrau profi‘r alwad hon ymhellach i ffwrdd. Yn y lle cyntaf, byddai’n dda siarad â’ch Arolygwr Cymanfa leol. Fel arfer bydd ganddo/ganddi ystod eang o brofiad yn y Weinidogaeth Gristnogol a bydd yn gallu trafod rhai o’r pethau y bydd angen i chi eu hystyried yn weddïgar wrth i chi symud ymlaen. Os ydych chi’n synhwyro galwad i weinidogaeth fugeiliol/athro/awes, byddant yn gallu hwyluso cyfle i chi bregethu mewn o leiaf 3 Eglwys arall o fewn i eglwysi Cymanfaol Undeb Bedyddwyr Cymru (un o ofynion y broses) neu gymryd rhan mewn tasgau priodol eraill yn ôl y math o weinidogaeth yr ydych yn synhwyro galwad iddi. Unwaith y bydd yr amodau hyn wedi’u bodloni, bydd yr Arolygwr yn trefnu cyfweliad ffurfiol i chi gyda Phwyllgor Argymhelliad Gweinidogaethol y Gymanfa.
Ar ôl cwblhau eich cyfweliad gyda Phwyllgor Argymhelliad Gweinidogaethol y Gymanfa,
ac ar yr amod eu bod yn gallu eich cymeradwyo, byddwch wedyn (drwy Arolygwr y Gymanfa) yn cysylltu â Chydlynydd Gweinidogeth Undeb Bedyddwyr Cymru a fydd yn trefnu i chi gael cyfarfod ffurfiol gydag is-bwyllgor Bwrdd Gweinidogaeth Undeb Bedyddwyr Cymru. Os byddwch yn llwyddo i fodloni’r is-bwyllgor bod tystiolaeth yn wir o ‘alwad’ ar eich bywyd, gellir ystyried, mewn ymgynghoriad â Chydlynydd y Weinidogaeth, pa fath o weinidogaeth yr ydych yn cael eich galw iddi, ynghyd â’r hyfforddiant priodol.
Hyfforddiant
Os ydych yn synhwyro galwad i fod yn Weinidog y Bedyddwyr, yna gallwn weithio gyda chi i wneud cais i un o Golegau’r Bedyddwyr (yn enwedig Y Coleg Gwyn, Bangor a Choleg y Bedyddwyr, Caerdydd) ar gyfer hyfforddiant a ffurfiant Gweinidogaethol priodol.
Os ydych chi’n synhwyro galwad i ryw fath o weinidogaeth dwy-alwedigaethol neu Weinidogaeth Leyg efallai y byddai’n well cofrestru ar rywbeth tebyg i’r cwrs Pathways a gynigir gan Goleg y Bedyddwyr Caerdydd. Mae Pathways yn gwrs dysgu hyblyg ac ymarferol a gynhelir fel arfer ar un dydd Sadwrn y mis. Mae’n ffordd wych o ddyfnhau eich dealltwriaeth o ffydd ac ymarfer a datblygu sgiliau mewn gweinidogaeth a chenhadaeth, beth bynnag fo’ch profiad blaenorol neu gymwysterau addysgol. Un o’r pethau gwych am Pathways yw ei fod yn cydnabod y cyfoeth o brofiad y byddwch yn dod gyda chi ac yn gwerthfawrogi rhyngweithio’r holl gyfranogwyr wrth archwilio materion allweddol a safbwyntiau newydd.
I gael gwybod mwy am Pathways dilynwch y ddolen hon: http://www.swbc.org.uk/learn-with-us/pathways/