Interniaeth UBC

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn arweinwyr ifainc a’i nod yw darparu cyfleoedd i oedolion ifainc ddarganfod mwy o’r hyn y mae Duw wedi’i gynllunio ar eu cyfer.

Beth yw ein hethos?

Bydd llawer o raglenni interniaeth yn ceiso manteisio i’r eithaf ar yr hyn y gallent gael allan o’r intern. Teimlwn nad hyn yw’r ffordd gywir i fynd o’i chwmpas hi ac y dylai edrych ar wella’r pethau da mae Duw yn ei gyflawni o fewn bywyd yr eglwys a’r intern. Dylai roi gofod i chi fyfyrio ar yr hyn y mae Duw yn ei wneud yn eich bywyd a gyda chefnogaeth gweddigar y rhai sydd o’ch cwmpas, dylai fod yn gam ymlaen i’r cyfan y mae Duw yn eich arwain ato yn y dyfodol.

Ar gyfer pwy mae’r interniaeth?

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn chwilio am interniaid sydd â chalon i ddysgu. I ddysgu mwy am Dduw, mwy amdanyn nhw eu hunain ac i archwilio’r cynlluniau sydd gan Dduw ar gyfer eu bywydau. Mae’r rhaglen interniaeth wedi’i chynllunio ar gyfer Cristnogion rhwng 18 a 25 oed sydd â chalon at Dduw, calon at waith Duw a pharodrwydd i archwilio dealltwriaeth ddyfnach o’u ffydd bersonol ac i wasanaethu o fewn lleoliad eglwys lleol.

Pa mor hir yw’r rhaglen?

Mae’r rhaglen interniaeth yn hyblyg a byddai fel arfer o gwmpas 10 mis. Rydym yn agored i drafod rhaglen fyrrach neu hirach yn ôl angen eich amgylchiadau. 

Ble fyddwn wedi fy lleoli?

Mae rhaglen interniaeth UBC yn hyblyg ac fe’i cynlluniwyd i gynnig cyfle unigryw a chyffrous i dyfu o fewn i amgylchedd eglwysig yn un neu fwy o’n rhwydwaith o eglwysi ledled Cymru.

  • Gallwch wneud y rhaglen interniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Efallai y byddai hyd yn oed yn ffordd wych o ddysgu neu wella eich Cymraeg! 
  • Mae gennym rwydwaith amrywiol o eglwysi ledled Cymru a allai eich cyflwyno i brofiad newydd o’r eglwys mewn rhan o Gymru nad ydych erioed wedi’i gweld o’r blaen.

Beth fyddwn ni’n ei wneud?

Bydd intern eglwysig yn cael cyfle i brofi ystod eang o waith yn ymwneud â gweinidogaeth a chenhadaeth yng nghyd-destun eglwys leol. Rhoddir pwyslais ar ddisgybliaeth personol, astudiaethau Beiblaidd, a hyfforddiant yn seiliedig ar y cyd-destun ynghyd â phrofiad ymarferol a chyfle i asesu a myfyrio yn ystod y rhaglen. Bydd angen tstysgrif DBS gyfredol.

Fel arfer, fe fyddwn yn adeiladu rhaglen interniaeth o amgylch yr intern er mwyn eich galluogi i archwilio meysydd a chenhadaeth sydd o ddiddordeb i chi. Bydd rhai o’r rhain yn cynnwys:-

  • Gwaith Plant, Ieuenctid a Theuluoedd
  • Gweinidogaeth Fugeiliol
  • Byw Cenhadaeth
  • Bod yn ddisgybl Cristonogol Dyfnach
  • Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth

Faint mae’n costio?

Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, gofynnwn i interniaid gyfrannu tuag at eu costau byw drwy gydol yr interniaeth. Bydd rhai’n gwneud hyn drwy waith rhan-amser, eraill drwy godi arian cyn dechrau. Rydym yn cynnig swm i’r eglwys ar gyfer rhai o’ch treuliau a gyda’n gilydd rydym fel arfer yn gallu gwneud i’r arian weithio y naill ffordd neu’r llall.

Gyda phwy y dylem gysylltu ar gyfer cael mwy o wybodaeth?

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r rhaglen interniaeth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Parchg Simeon Baker (Cyfarwyddwr Cenhadaeth) Ebost: simeon@ubc.cymru