Y Coleg Gwyn

Hanes

Yn 1862 sefydlwyd Athrofa, neu ganolfan hyfforddi i weinidogion, yn nhref Llangollen, a bu’n ddiwyd yn paratoi ymgeiswyr i’r weinidogaeth a’r genhadaeth ar ran traddodiad y Bedyddwyr yng ngogledd Cymru. Yn dilyn sefydlu prifysgol newydd yn 1884, ac ar ôl cryn dipyn o drafodaeth a gweddi, penderfynwyd symud yr Athrofa i Fangor, ac fe ddigwyddodd hyn yn 1892. Gyda’r symud, bu yna hefyd newid enw. Datblygwyd cysylltiadau gyda’r brifysgol, a bu aelodau staff o Goleg Bedyddwyr Gogledd Cymru yn rhan o’r broses o ddarparu graddau a chymwysterau academaidd eraill i’r rhai oedd yn astudio Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd yn y Brifysgol. Roedd y coleg hefyd yn paratoi gweinidogion o dan gynllun hyfforddi Undeb Bedyddwyr Cymru, ac Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a’r Iwerddon.

Ar ôl 10 mlynedd yn ei safle gwreiddiol ger adeiladau’r brifysgol, symudwyd y coleg tua phedwar can llath i gartref newydd a oedd yn fwy pwrpasol ar Ffordd Ffriddoedd. Sefydlwyd y coleg mewn dau dŷ mawr drws nesaf i’w gilydd. Yn wreiddiol roedd Coleg Bala-Bangor (Coleg yr Annibynwyr Cymraeg) yn ffinio â’r Coleg Gwyn a bu’r ddau goleg yn cyd weithio. Parhaodd hyn hyd nes i Goleg Bala-Bangor gau ar ddiwedd y 1980au.

Yn 1996 adnewyddwyd y Coleg a’i foderneiddio a sefydlwyd yr enw yr oedd llawer o’r myfyrwyr wedi defnyddio arno fel Y Coleg Gwyn (yn ymwneud â lliw’r adeiladau), a dyma sut yr adnabyddir y coleg heddiw. Roedd hyn yn rhan o’r broses o ail feddwl beth oedd yn bosib mewn cyfnod lle’r oedd syniadau am grefydd yn newid.  Y cam mwyaf a wnaethpwyd oedd cydweithio’n agosach gyda’n cyfeillion o draddodiadau eraill.

Erbyn dechrau’r 20fed ganrif penderfynodd yr enwadau Anghydffurfiol Cymreig yn ngogledd Cymru ddefnyddio’r ganolfan fel man hyfforddi ar gyfer y Bedyddwyr, y Presbytieriaid a’r Annibynwyr Cymraeg a bu’r broses yn un hwylus iawn. Yn dilyn y penderfyniad strategol i gau adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd ym Mhrifysgol Bangor gwelwyd cyfnod a sialens newydd eto.

Erbyn heddiw rydym yn parhau i gydweithio gydag EBC ac wedi sefydlu yn ogystal berthynas agosach gyda’n chwaer goleg, sef Coleg y Bedyddwyr Caerdydd, yng Nghaerdydd. Mae’r Coleg Gwyn yn goleg annibynnol, ac yn Ymddiriedolaeth Addysgol wedi ei gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (Rhif 525779), ac yn cael ei gydnabod fel man hyfforddi gan Undeb Bedyddwyr Cymru, ac Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr.

Hyfforddiant

Rydym yn ganolfan hyfforddi bychan, ac yn defnyddio staff rhan-amser i ddarparu cyrsiau a gweithgareddau ar draws Cymru, ac ymhellach. Rydym hefyd yn cydweithio mewn prosiectau Bedyddiedig a chyd-enwadol. Erbyn heddiw, mae’r patrwm hyfforddiant eglwysig wedi newid, ac rydym wedi addasu i ymdopi â hynny. Mae ein cyrsiau yn ymateb i anghenion unigolion heddiw, ac yn hyblyg yn eu strwythur. Defnyddiwn hyfforddiant drwy fodiwlau syn arwain at gymhwyster coleg, ar lefel Tystysgrif Elfennol neu Dystysgrif Uwch. Os oes angen cymwysterau academaidd traddodiadol rydym yn cydweithio gyda’n cyfeillion yng Ngholeg Bedyddwyr Caerdydd, sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Ers 2004 rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ddysgu o bell, ac mae hyn wedi cynorthwyo bywyd teuluol a gwaith ein myfyrwyr. Defnyddir cymysgfa o waith darllen, trafod a pharatoi; ysgrifennu a chyflwyno aseiniadau; a gwaith ymarferol yn ôl anghenion y cwrs. Gellir gwneud unrhyw waith ysgrifenedig drwy gyfrwng y we, neu ar bapur drwy lythyr. Rydym hefyd yn defnyddio sesiynau tiwtorial lleol yn ystod yr wythnos, neu Ysgol Sadwrn, fel bo’r angen. Er bod ein coleg ym Mangor, mae ein myfyrwyr wedi bod yn byw mor bell i ffwrdd â Phatagonia a’r Unol Daleithiau. Felly, gallwn ymateb i ofynion ein myfyrwyr mewn ffyrdd hyblyg. Ein gobaith yw darparu  mwy o hyfforddiant trwy’r we ar ZOOM neu Microsoft TEAMS yn y dyfodol agos.

Cwrs Gweinidogaethol

I’r rhai sy’n teimlo’r alwad i fod yn weinidog i Iesu Grist, gallwn eich cynorthwyo ar hyd y daith. Cofiwch, yn y traddodiad Bedyddiedig, mae hyn yn broses sy’n gweithio ar y cyd ag eraill. Cyn dechrau ar y cwrs yma bydd angen i chi fod wedi cael eich bedyddio drwy drochiad ac yn aelod llawn o’ch eglwys; wedi cael cymeradwyaeth eich eglwys, a phregethu mewn tair eglwys yn eich Cymanfa; wedi derbyn cymeradwyaeth eich Cymanfa, ac wedi cael eich cyfweld a’ch cymeradwyo gan Fwrdd Gweinidogaeth Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae’r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

  • Arweiniad i’r Ysgrythurau ac Astudiaethau Beiblaidd
  • Hanes yr Eglwys (gan gynnwys Hanes a Thraddodiadau’r Bedyddwyr)
  • Athrawiaeth Gristnogol
  • Astudiaethau ac Ymarferion Bugeiliol
  • Paratoi Gwasanaethau ac Ymarfer Pregethu
  • Gwaith Ymarferol y Gweinidog (yn cynnwys Diogelwch Plant/Oedolion Bregus)
  • Lleoliad Eglwys (cydweithrediad â’ch Cymanfa ac Undeb Bedyddwyr Cymru)
  • Cydweithio gyda’ch Tiwtor

Mae hyd yr hyfforddiant yn hyblyg, ac addasir pob cwrs i gydnabod eich profiad.

Cwrs Lleygwyr

I’r rhai sy’n teimlo’r alwad i gynorthwyo eglwys neu eglwysi lleol, bydd angen derbyn cymeradwyaeth yr eglwys leol ynghyd â’r Gymanfa. Dilynir y modiwlau canlynol:

  • Arweiniad i’r Ysgrythurau ac Astudiaethau Beiblaidd
  • Hanes yr Eglwys (gan gynnwys Hanes a Thraddodiadau’r Bedyddwyr)
  • Arweiniad i Athrawiaeth Gristnogol
  • Arweiniad i Waith Bugeiliol (gan gynnwys Diogelwch Plant a Phobl Fregus)
  • Paratoi Gwasanaethau
  • Cynnal Oedfaon a Phregethu (Ymarferol)
  • Cydweithio gyda’ch Tiwtor

Os ydych yn Bregethwr Lleyg/Cynorthwyol yn barod, gellir addasu’r cwrs i un sy’n arwain i Weinidogaeth Leyg.

Cyrsiau i Swyddogion Eglwys Ac Arweinwyr Ysgolion Sul A Chlybiau Plant

Gallwn baratoi cyrsiau undydd yn y coleg ym Mangor, neu yn eich Cymanfa, i gyflwyno modiwlau ar y canlynol:

  • Arweiniad i Weithio gyda Phlant ac Oedolion Bregus (gan gynnwys Diogelwch)
  • Arweiniad i Astudiaethau Beiblaidd
  • Iechyd a Diogelwch a’r Eglwys
  • Gweithio Mewn Timau
  • Cadw Cyfrifon Syml yn yr Eglwys
  • Trefnu a Chofnodi Cyfarfodydd

Gellir cyflwyno Cwrs Undydd yn ystod yr wythnos neu fel Ysgol Sadwrn, ond bydd angen cael 6-10 o fyfyrwyr i gyfiawnhau ei sefydlu. Os bydd digon o alwad, gallwn gydweithio ag eglwysi i greu cyrsiau eraill. Gallwch hefyd, fel unigolion, ymuno ar unrhyw fodiwl drwy’r we. Os bydd angen, gallwn fod yn hyblyg i’ch cynorthwyo.

Cyfleusterau Ar Safle’r Coleg

Mae’n bosib i chi ofyn am ddefnyddio adnoddau’r coleg i drefnu sesiwn hyfforddiant, cyfarfod neu gynhadledd, am fore, prynhawn neu ddydd cyfan. Mae gennym gyfleusterau i fyny at 25 o bobl i ddod ynghyd, a ffreutur a chegin i baratoi bwyd.

Hostel

Drws nesaf i’r coleg mae ein Hostel yn gallu darparu llety i chwech o fyfyriwr neu ymchwilwyr. Mae’r adnoddau yn hunan gynhaliol, gyda chegin ac ystafelloedd ymolchi/WC ar wahân. Mae’r safle yn agos i’r brifysgol, a chanol y dref a’r orsaf reilffordd. Oherwydd rheolau treth cyngor, rydym ond yn derbyn ceisiadau am lety i fyfyrwyr y coleg a’r brifysgol, neu ymchwilwyr cydnabyddedig. Gellir gofyn am lety am gyfnod byr, neu fesul blwyddyn neu semester academaidd.

 Staff Y Coleg Gwyn

Warden a Chyfarwyddwr Astudiaethau: Y Parchedig Ddr D. Densil Morgan Ysgrifennydd a Chyfarwyddwr Hyfforddiant: Y Parchedig Ieuan Elfryn Jones Cydlynydd Gweinyddol ac Ariannol: Mrs Rhian Hughes

Ymholiadau Anffurfiol: Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Parchedig Ieuan Elfryn Jones (gweler y cyfeiriadau ar ddechrau’r tudalen cyntaf), neu ffôn (cartref) 01407 761231 yn yr hwyr neu ar y penwythnos.