Llwybrau

Cwrs gan Goleg Bedyddwyr Caerdydd yw Llwybrau sy’n galluogi pobl yng Nghymru i ddyfnhau eu ffydd a’u harfer ac i ddatblygu sgiliau mewn cenhadaeth a gweinidogaeth. Efallai eich bod yn ceisio cael eich cydnabod yn arweinydd eglwys sy’n pregethu a bugeilio. Efallai y bydd gennych diddordeb mewn un modiwl yn unig. Efallai y bydd gennych diddordeb mewn un modiwl yn unig. Bydd Llwybrau yn eich cynorthwyo i wneud y cyswllt rhwng yr Eglwys a’r byd. Rhwng y Sul a gweddill yr wythnos, ac yn cyfoethogi eich ysbrydolrwydd ac yn eich plethu’n dynnach i genhadaeth yr eglwys. Mae’n becyn hyblyg ac ymarferol o gyfleoedd i ddysgu – gallwch ddewis unrhyw nifer o fodylau, a chasglu credidau wrth fynd yn eich blaen. Cynlluniwyd y cwrs er mwyn arfogi ac ysbrydoli gweinidogaethau a chenadaethau pobl sy’n gwasanaethu Crist drwy’r eglwysi Bedyddiedig lleol yng Nghymru. Cyflwynir modylau Llwybrau mewn nifer o leoliadau ledled Cymru, a hynny ar draws patrwm dwy flynedd. Gallwch ymuno (neu ymadael) unrhywbryd!

Rhai o’r opsiynau modiwl yw:

Llwybrau i Addoliad
Archwilio agwedd holistig i addoliad wrth ddatblygu nifer o sgiliau penodol ymarferol.

Llwybrau i’r Beibl
Archwilio hanes ac ystyr y Beibl a’r modd, mae’n berthnasol heddiw

Llwybrau i Arweinyddiaeth Eglwys
Archwilio ffyrdd o ystyried arweinyddiaeth eglwys heddiw gan ganolbwyntio ar wynebu gwrthdaro

Llwybrau i Bregethu
Archwilio ffyrdd o baratoi pregethau a chyfathrebu effeithiol.

Llwybrau i Genhadaeth ac Efengylu
Archwilio seiliau Beiblaidd i rannu yng nghenhadaeth Duw ac ystyried enghreifftiau o ymarfer dda.

Llwybrau i Ofal bugeiliol
Archwilio gofal bugeiliol heddiw, gan edrych i broblemau allweddol, hunan-ymwybyddiaeth a sgiliau cwnsela syfaenol.

Llwybrau i hyrwyddo Brentisiaid Ffydd a Diwylliant.
Deall yr ystod eang o ddiwylliant gyfoes ac archwilio sut mae meithrin bod yn ddisgyblion Crist-debyg yn ein byd heddiw.

Am ragor o wybodaeth am Lwybrau gweler y wybodaeth ar wefan y coleg. Am fwy o wybodaeth am Llwybrau gan gynnwys costau, dyddiadau a lleoliadau, ac i ofyn am ffurflen gais, cysylltwch gyda thudalen Llawrlwytho. pathways@swbc.org.uk .