Coleg Bedyddwyr Caerdydd

Yma, yng Ngholeg y Bedyddwyr Caerdydd un nod yn unig sydd gennym: cymhwyso eglwys Iesu Grist, hynny yw, chi! Felly, os  ydych yn wraig neu’n ddyn sy’n dirnad galwad i genhadu neu i weinidogaethu, yn arweinydd eglwys leol sy angen hyfforddiant, yn weinidog ar gyfnod sabothol, neu rywun sy’n dilyn hyfforddiant Forge ac angen dod o hyd i lyfr – rydym yn barod i gynorthwyo! Mae gennym bortffolio o gyrsiau ac adnoddau. 

Cynhelir y cwrs ‘Pathways’ unwaith y mis er mwyn hyfforddi a chymhwyso arweinwyr eglwysi lleol mewn amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys y rhai traddodiadol fel astudio’r Beibl, ynghyd â sgiliau mwy arloesol fel sut i feithrin disgyblion mewn cyd-destun anffurfiol neu ar-lein. I’r sawl sy’n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth, rydym yn gweithio’n agos gydag UBC i gynnig cyrsiau hyfforddi a diwinyddol, a drwyddedir yn arferol gan Brifysgol Caerdydd. 

Mae’r mwyafrif o’n myfyrwyr yn astudio ar sail rhan amser, ac felly unwaith y mis yn unig y byddant yn mynychu’r Coleg. Rydym yn y broses o brynu nifer o e-lyfrau newydd ac i wneud ein llyfrgell yn fwy agored er mwyn hwyluso mynediad i fyfyrwyr, gweinidogion, ac aelodau capeli ledled Cymru a thu hwnt.

 Rydym yn falch o fod yn gymuned gefnogol. Dywedodd un o’n myfyrwyr yn ddiweddar mai dyma’r tro cyntaf iddo deimlo ei fod yn perthyn i deulu, er iddo astudio mewn sawl coleg gwahanol. Felly, os ydych am ymuno â theulu CBC, estynnir croeso cynnes i chi. Gellir cysylltu â’r penaethiaid Ed Kaneen a Rosa Hunt ar principal@swbc.org.uk neu ffoniwch Rosa ar 029 2105 6745 neu ewch i’r wefan Coleg Bedyddwyr Caerdydd