Williams – Henry Dunn (1942 – 2013)

Brodor o ardal Pwllheli oedd Henry Dunn Williams, ac a ddatblygodd ei yrfa ym myd bancio gyda Banc Midlands.  Symudodd o un ardal i’r llall, gan weithio mewn sawl maes oddi fewn i’r banc, ac roedd wrth ei fodd gyda heriau newydd. Dychwelodd i Gaerdydd i weithio fel swyddog iaith gyda’r banc, a bu’n allweddol i berthynas y Banc gyda’r Eisteddfod Genedlaethol.  Roedd yn awyddus i weld byd manach yn cefnogi’r diwylliant Cymraeg.

Er mor bwysig oedd yr iaith yn ei olwg, roedd ei ffydd yn Iesu yn gryfach, ac roedd wrth ei fodd ynghanol bwrlwm bywyd eglwysig.  Tra yn Ne Lloegr, trosgwlyddodd o fod yn Bresbyteriad i fod yn Fedyddiwr, ac er iddo orfod symud ardal sawl tro, roedd o hyd yn chwilio am eglwys lle gallai uniaethu gyda hi.  Bu’n ddiacon mewn nifer o eglwysi dros y degawdau.  Ymddeolodd o’r banc yn ei bumdegau, ac yn aeddfed i geisio her newydd.  Wedi symud i Gaerdydd, ymaelododd ef a’i briod Jean yn Eglwys Bethel, Yr Eglwys Newydd a byw yn Radyr. Anogwyd ef i geisio am swydd Ysgrifennydd Ariannol Undeb Bedyddwyr Cymru, a gwnaeth ddiwrnod da o waith yn Nhŷ Ilston. Yn ystod y cyfnod hwn, symudodd ei aelodaeth i eglwys Tonyfelin, Caerffili, a chyfrannu’n egniol i fywd yr eglwys yno. Gwnaeth ymdrech arbennig i ddwyn cyfrifon yr Undeb i fyd ddigidol, ac roedd ei brofiad yn y banc yn werthfawr gyda’r dasg hon.  Ym mhen y rhawg, penderfynodd ymddeol o’r gwaith hwnnw, a chymhellwyd ef i  ystyried rhoi trefn ar wedd ariannol Cyngor Alcohol a Chyffuriau yn y swyddfa yng Nghaerdydd. Bu’n fwy na swyddog ariannol yng nghyfnod anodd yr asiantaeth honno.  Roedd ei sgiliau ym myd bancio a’i brofiad gyda gwaith yr Undeb yn fantais i’r Cyngor, ac yn gefn i’w gyd-swyddogion a’r ymddiriedolwyr ynghyd.

Erbyn dechrau’r milflwydd newydd ymgyflwynodd ei hun i fireinio ei addysg grefyddol gyda’r bwriad o gynorthwyo eglwysi lleol, ac ar ôl cael ei gymhwyso yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd,  derbyniodd wahoddiad i fugeilio eglwysi Nebo Newydd, Cwmdâr, a Bethel, Glyn-nedd.  Symudodd i fyw i Cwmdar, ar ben uchaf y cwm, a mwynhau ei amser yn y gymuned yno. Rhoddodd naw mlynedd egniol i’r ddwy eglwys a gwerthfawrogi bob munud. Bu’n fugail gofalus ac yn arweinydd cadarn i’r eglwysi a gwasanaethodd fel llywydd Cymanfaoedd Gorllewin a Dwyrain Morgannwg ar yr un pryd.  Diolchwn i Dduw am y gras a ddatguddiwyd yn ei fywyd, a chydymdeimlwn gyda’i briod a’r teulu yn eu hiraeth amdano.

Ar ôl marwolaeth Henry, parhaodd Jean i fyw yn Cwmdar, a gwasanaethodd fel ysgrifennydd a chyd-lynydd y gwaith eglwysig yng Nghwmnedd am gyfnod cyn ei marwolaeth annhymyd hithau ychydig flynyddoedd ar ôl ei phriod.

Roedd iddo ef a’i briod dri plentyn a fu’n hynod ddiolchgar o’u gofal cariadlon.  Roedd y plant a’r wyrion yn bwysig iawn iddynt, ac o hyd yn sôn am y plant yn eu sgyrsiau.

Cyfrannwr: Denzil Ieuan John