Williams – Eric (1933-1996)

Ganwyd Eric Williams yn 1933 yn un o ddau fab i  Fred a Ceridwen Williams o Fancffosfelen. Derbyniodd Eric a’i frawd Idris eu haddysg yn ysgol gynradd y pentre ac yn yr Ysgol Uwchradd leol ac arhosodd Idris yng Nghwm Gwendraeth weddill ei oes. Roedd gwreiddiau teulu Mrs Williams yn ddwfn yng hanes cynnar Pisgah ac ymaelododd gyda’r teulu yn eglwys Pisgah, Bancffosfelen lle roedd y Parchg Eirwyn Morgan yn weinidog.

Ymhen y rhawg datblygodd Eric ddiddordeb ym mywyd yr eglwys ac ymdeimlo a’r alwad i’r weinidogaeth.  Cafodd ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor yn 1953 gan fwynhau’r profiad yn fawr. Ordeiniwyd ef yn 1956 ac wedi ysbaid yng Nghaergeiliog a’r Fali, cafodd ei sefydlu yn Salem, Amlwch yn 1959 a saith blynedd yn ddiweddarach ymunodd Carmel, Pensarn, Bethel, Rhosybol, a Sardis, Dulais a’r ofalaeth.  Blwyddyn yn ddiweddarach yn 1967, derbyniodd wahoddiad Penuel, Cwmafon i fod yn weinidog yno, gan ymgartrefu yno’n naturiol iawn. Roedd yn bregethwr poblogaidd ac yn 1984 estynnodd ei ofalaeth drwy ychwanegu Eglwys Bethania, Maesteg.  Roedd yn weinidog i weinidogion ac yn dangos diddordeb a chefnogaeth iddynt yn eu meysydd.  Tu hwnt i eglwysi ei ofalaeth, bu Eric yn Ysgrifennydd ac Arolygwr Cymanfa Gorllewin Morgannwg am dros dwy flynedd ar bymtheg, gan gynrychioli’r Gymanfa ar amrywiol bwyllgorau Undeb Bedyddwyr Cymru.  Bu hefyd yn ysgrifennydd Cwrdd Dosbarth Aberafan am gyfnod. Byddai’n ffyddlon yn nghynadleddau Undeb Bedyddwyr Cymru a thrysorodd y fraint o fod yn Llywydd yr Undeb yn 1995 gan draddodi ei anerchiad o’r gadair ym mhulpud Penuel ar y thema ‘Gorwelion’.  O blith ei amrywiol ddoniau, pregethu oedd yn mynd a’i fryd.  Mwynhaodd lunio a thraddodi pregethau gan gyfathrebu ei neges i’w gynulleifdfa.

Tu hwnt i’w ddiddordeb yng ngwaith eglwys ac undeb, mwynhaodd Eric dymor fel caplan yn Ysbyty Castellnedd, a chaplan i Faer Bwrdeistref Port Talbot.  Cafodd flas hefyd fel arweinydd yn eisteddfodau lleol yr Urdd ac yn Eisteddfod y Glowyr. Bu’r teulu yn selog i fudiad Urdd Gobaith Cymru a  byddent yn gyson i’w gweld yn eu carafan wrth ddilyn yr Eisteddfodau Cenedlaethol. Teithiodd ar draws Ewrop yn ei garafan ac roedd wrth ei fodd yn ymweld ag ardaloedd newydd.  Cafodd bleser yn gwylio rygbi a chriced hefyd ac yn llawn asbri wrth adrodd stori. Roedd yn ei elfen yn arwain clybiau ieuenctid, a byddai ei lygaid yn pefrio wrth gwmnïa gyda phobl o bob oed a thras.

Dywedodd ei gyfaill Idris Hughes amdano yn yn Llawlyfr 1997 UBC – “Roedd afiaith a chyfeillgarwch Eric yn heintus, a byddai yr un mor gartrefol yng nghwmni sêr ac enwogion ac y byddai gyda’r distadlaf o’i aelodau a’i gyfeillion.  Dyn cyffredin, cymwynasgar, cytbwys a chywir.  Dyn mawr oedd Eric bach”. Dywedodd un arall o’i gydnabod amdano ei fod o hyd a gair priodol i’w rannu ym mhob sefyllfa.

Gŵr teulu oedd Eric a bu’n briod gyda Violet, Vi i bawb a’i hadnabu.  Roedd hithau’n enedigol o Llanddarog a priodwyd y ddau yn 1957 yn y Fali, Ynys Môn.   Ganwyd iddynt dri plentyn sef Osian, Iolo a Catrin, a buont yn deulu llawen a chefnogol i’w gilydd.  Roedd Vi yn athrawes am flynyddoedd gan lenwi swydd prifathrawes  yn Ysgol Rhosafan, ger Port Talbot, cyn ymddeol.  Ym mhob dim, dyn pobl oedd Eric Williams, yn rhannu ei argyhoeddiadau a’i gariad tuag at gyd-ddyn gydag arddeliad a didwylledd greddfol.  Hedd i’w lwch a diolch amdano.

Cyfrannwyr:

Catrin Thomas (ei ferch)

Denzil John