Williams – Idris (1902-1985)

Mab Mary a Howell Williams, 5, Homphrey Street, Nantyffyllon oedd Idris ac fe’i ganwyd ar 20 Medi 1902.  ‘Roedd ei rieni yn aelodau ffyddlon yn Salem a hendaid iddo, o ochr ei dad, oedd y Parchg Howell Davies, ac yntau oedd gweinidog cyntaf yr eglwys, ac ŵyr iddo oedd y Parchg Alun J. Petty a fu’n weinidog mewn sawl man dros ei yrfa yntau.

Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol y Babanod ac Ysgol y Bechgyn, Nant-y-ffyllona bu am ysbaid ‘rol gadael yr ysgol yn negesydd yn Gwaith Glo Coednant. Fe’i codwyd o dan weinidogaeth y Parchg D. C. Howell, (brodor o Bencader, Penfro), ac ef a fedyddiodd Idris, gan ei gymell i bregethu.  Wedi cyfnod o baratoi yng Ngholeg Myrddin cafodd fynediad i Goleg Bedyddwyr Bangor yn 1930.

Yr Athro Gwili Jenkins a’i cynghorodd i dderbyn yr alwad a gafodd yn 1933 o Galfaria, Penygroes a Phontllyfni.  Ar y pryd y Parchg James Davies oedd gweinidog Nant-y-ffyllon a chafodd yntau ran yn y cyfarfodydd Ordeinio a Sefydlu ym Mhen-y-groes a Phontllyfni.  Yr un flwyddyn, priododd â Miss Dilys King o Faesteg.  Yn ystod y cyfnod hwn daeth rhieni Dilys i fyw atynt ym Mhenygroes, a phrofi o’u gofal ar yr aelwyd. Profiad i sawl ardal oedd derbyn plant dinasoedd o Loegr, a daeth llond bws o blant o Lerpwl i Benygroes,  yn eu plith roedd dwy chwaer o Lerpwl sef Ellen a Margaret, ac ar derfyn y rhyfel, dewis y plant oedd aros gyda Idris a Dilys ac arhosodd Ellen yn y dref gan briodi un o’r ardal.  Cadwodd y ddwy cyswllt agos gyda’i rhieni naturiol, ond cymaint oedd eu serch a’u gwerthfawrogiad o’r gweinidog a’i briod, cytunwyd eu bod yn aros dan eu gofal.  Pan symudodd Idris i’r de i fod yn weinidog ym Methania, Cwmbach, aeth  Margaret lawr gyda hwy ac ymsefydlu yng Nghwm Cynon. Yn ddiweddarach yn ei hanes symudodd Margaret i fyw yn Llandudno ac ymaelodi yn y Tabernacl yn y dref honno. Pan ymddeolodd Idris Williams, dewisodd ef a’i briod symud i fyw ati  a mwynhau cyfnod hapus yn y dref glan môr.  Bu’n hynod ddefnyddiol i fwrlwm y Tabernacl tra roedd hynny’n bosibl, ac yn ôl tystiolaeth y gweinidog, Idwal Wynne Jones roedd cyfraniad Idris yn sylweddol i’r eglwys ac i’r ardal gyfan..

Ceir atgofion hyfryd o Idris Willliams gan Gwilym Williams, un o swyddogion Calfaria, Penygroes erbyn hyn. Cyfeiria at atgofion aelodau’r eglwys yng nghyfnod gweinidogaeth Idris Williams yn sôn amdano fel person hwyliog a chymdeithasol. Byddai’n effro i anghenion cymdogaeth eang ac yn cadw cyswllt cyson gyda bechgyn ifanc yr eglwys a alwyd i wasanaethu yn y rhyfel.  Byddai Idris yn dyfynnu o lythyron y milwyr hyn o’r pulpud, gan gadw cyswllt byw rhwng y gynulleidfa â’u pobl ifanc. Pan ddaeth cyfle iddo flynyddoedd yn ddiweddarach i ymweld â Rhufain, roedd yn awyddus i ymweld ag Eglwys Sant Pedr, adeilad y clywodd cymaint amdano gan un o fechgyn ifanc yr eglwys.  Disgrifir ef fel pregethwr dwys, ond ei fod yn bersonoliaeth hwyliog ac wrth ei fodd yn canu a thynnu coes.  Byddai’n canu deuawdau mewn eisteddfodau ac roedd yn denor medrus.  Cofir ef gan aelodau’r ofalaeth fel bugail da ac yn ffrind i bawb.

Wedi tair blynedd ar ddeg dedwydd yn Nyffryn Nantlle, symudodd i Gwmbach, Aberdar yn1946.  Er gwaethaf effeithiau arswydus y Rhyfel ar yr eglwys a’r fro llafuriodd yn ddi-ildio yno gan ennill serch ac ymddiriedaeth pobl ei ofal.Roedd capel Bethania wedi cael ei fomio a’i chwalu, gyda phedwar o bobl wedi cael eu lladd yn ystod yr ymosodiad. Gwelir llun o’r hen gapel heb do na ffenestri. Gweithiodd y gweinidog yn ddygn i helpu’r eglwys

i gasglu digon o arian i dalu am adeiladu capel newydd.  Yn fwy na gweithio i geisio modd i adeiladu’r adeilad, aeth ati’n egnïol i ail-adeiladu’r eglwys, gan ymweld a phob aelwyd yn y pentref a chymell y sawl nad oedd yn gysylltiedig gydag achos Cristnogol. Daeth nifer o blant ynghyd a sefydlwyd gweithgareddau effeithiol i’r ifanc. Cofia Margaret fod cynulleidfa’r oedfaon wedi dyblu yn dilyn yr ymgyrch hon.

Degawd yn ddiweddarach, derbyniodd alwad i Seion Nefyn a Chaersalem, Morfa Nefyn, a chael blas ar weithio yn y gogledd unwaith eto. Cynhaliodd oedfa fedydd i ddau o bobl ifanc yr eglwys yn y môr gyda thyrfa sylweddol o’r pentrefwyr ynghyd â phobl ar eu gwyliau yn tystio i’r achlysur.  Dychwelodd drachefn i’r De yn 1963, i weinidogaethu ym Methel, Glyn Nedd, cymuned nad oedd yn fwy na phymtheg milltir o Gwmbach.  Hon oedd gofalaeth olaf Idris, a magodd nifer o fechgyn ifanc, a fu’n swyddogion yn hwyrach yn eu bywydau yn yr eglwys.   Rhan o brofiad tristaf De Cymru yn y cyfnod hwn oedd trasedi y tip glo yn llithro dros bentref Aberfan. Aeth nifer o bobl Glynnedd draw i gynnig cymorth, a’r gweinidog yn ei plith.  Ymddeolodd yn 1969 a symud i Landudno.

Ym mhob un o’r meysydd hyn, rhoddodd ein cyfaill o’i orau i fugeilio’r praidd a phregethu’r Gair. Bu’n gyfathrebwr effeithiol o’r Efengyl ac yn berson cymdeithasol gyda phob oed. Roedd yr un mor gartrefol gyda’r oedrannus ac yr oedd gyda’r ifanc.  Gallai chwarae pêl droed gyda’r bechgyn iau a chwmnïa gyda’r oedrannus.  Tu hwnt i fywyd eglwys, yn ôl Margaret, roedd mor hapus yn gwylio rygbi a restlo ar y teledu ac y byddai yn darllen ac yn myfyrio.

Ni wyddai idris Williams beth oedd segurdod; daliodd ati yn ddiwyd i wasanaethu’r eglwysi o Sul i Sul ac i gefnogi popeth o bwys mewn Cyfarfod Dosbarth, Cymanfa ac Undeb.   Dyma’r pryd yr anrhydedddwyd ef â Llywyddiaeth Cymanfa Bedyddwyr Sir Gaernarfon.  Yr oedd yn anwylun yng ngolwg ei gyd-aelodau ac fe’i neilltuwyd ganddynt yn Ddiacon Anrhydeddus.  Mawr iawn fu ei gymwynasau i’r byd a’r betws ym Mro Creuddyn.  Hunodd yn dawel bore Mercher, 17 Gorffennaf 1985, a’i eiriau olaf oedd ‘Gan edrych ar Iesu, Pen-tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni’. Yng ngeiriau Idwal Wynne Jones “pinacl bendigedig i oes o wasanaethu ei Arglwydd gyda sirioldeb a brwdfrydedd”.

Cyfrannwyr:

Idwal Wynne Jones.  (Llawlyfr UBC 1986).

Denzil John