Williams – O. Tregelles (1922-1987)

TregellesGaned O. Tregelles Williams ar Ionawr 10, 1922 yn Nhreforys, yr ieuengaf o dri o blant i Oswald a Rachel Ann Williams. Bu ei fam yn organyddes Soar, Treforys 1908-1917, cyn geni’r plant, gan gyfansoddi’r gerddoriaeth i “ Gweddi Plentyn Da”, sef emyn ei gweinidog, y Parch. Fred Morgan a ymddangosodd yn y Llawlyfr Moliant Newydd. Yn ddiweddarach etholwyd ei dad yn ddiacon yn Soar. Dan ofal y Parch. J. S. Roberts, paratowyd  Tregelles ar gyfer hyfforddiant ffurfiol i’r weinidogaeth erbyn 1938. Wedi cyfnod byr yn Ysgol Ilston aeth i Academi y Rhos i astudio gyda’r Hybarch J. Powell Griffiths. Yn 1940, fe’i derbyniwyd i Goleg y Brifysgol a Choleg y Bedyddwyr Caerdydd, lle y cafodd gwrs academaidd disglair a’i apwyntio am flwyddyn yn  Ddarlithydd Cynorthwyol Adran Groeg y Brifysgol wedi cwblhau cwrs B.D.  Calfaria, Hendy, oedd ei faes cyntaf: fe’i ordeiniwyd yno ym mis Medi 1947 ac, ar ddechrau’r weinidogaeth, priododd Miss Beti Davies, Tregwyr, aelod o staff Ty Ilston.

Yn 1949, derbyniodd alwad i’r Tabernacl, Llandudno yn olynydd i’r Parch. Lewis Valentine ac yn 1951 fe’i etholwyd yn Olygydd Cynorthwyol Seren Cymru, yng nghyfnod golygyddiaeth y Parch. Gwilym Owen a’r Athro T. Ellis Jones. Wedi chwe blynedd derbyniodd alwad i fugeilio’r eglwys yn Methel, Llanelli lle bu’n amlwg ym mywyd Cymraeg y dref a’i ethol yn Is-Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1962. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n ddarlledwr cyson ar faterion crefyddol.

Yn 1963, fe’i apwyntiwyd yn Bennaeth Darlledu Crefyddol BBC Cymru, y Bedyddiwr cyntaf i ddal y swydd. Eang oedd ei faes ac eangfrydig ei ymateb i wahanol draddodiadau’r Ffydd Gristnogol. Credai’n gryf yn  y cyfryngau, gan weld posibiliadau aruthrol i radio a theledu ledu cenhadaeth yr Eglwys. Honnai y dylai darpar-weinidogion y dyfodol dderbyn cyfarwyddyd i ddefnyddio’r meicroffon a’r camera, a meddai ddawn arbennig i lunio, cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni crefyddol.

Yn 1969 bu farw ei briod. Wedi’r golled, ymsefydlodd, gyda’i deulu ifanc, yn Nhreforys yng nghartref ei ddwy chwaer: Irona, prifathrawes Ysgol y Gendros, a Gwyneth, Llyfrgellydd Cymraeg Dinas Abertawe.Yn 1974 priododd Miss Margaret James, unig ferch Mr. a Mrs. Richard James, Cwmafan a phenderfynu dychwelyd i’r Weinidogaeth draddodiadol wrth dderbyn galwad i fugeilio ym Mhenuel, Casllwchwr yn 1976 ac ychwanegu gofalaeth Bethania, Tregwyr yn 1986.Ar ddiwedd y saithdegau, o weld cynulleidfaoedd y dair eglwys Fedyddiedig yn Nhreforys, Seion, Calfaria a Soar, wedi lleihau, bu’n gadeirydd ar bwyllgor o’u swyddogion, yn eu hannog a’u harwain i ymuno ac addoli ynghyd yn y fam-eglwys, Seion, a ail-sefydlwyd yn 1981 fel Seion Newydd.

Bu farw’n annisgwyl fore Llun Ebrill 13eg 1987 yn Ysbyty Treforys, gan adael ei briod, Margaret, a’i blant: Huw, Pennaeth Cerdd BBC Cymru, Alun, swyddog gweithredol yn y Gwasanaeth Sifil, a Menna, athrawes yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant Llanelli.

Cyfrannodd yn helaeth i enwad y Bedyddwyr: bu’n gynrychiolydd Cymanfa Arfon i’r Ty Cenhadol, cynrychiolydd Bedyddwyr Cymru ar Bwyllgor Ymgynghorol Darlledu Crefyddol y BBC, un o sefydlwyr Gwasanaeth Newyddion Bedyddwyr y Byd, aelod o Senedd Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd ac aelod o Gyngor Undeb Bedyddwyr Cymru.  Ar ei garreg fedd mae geiriau o Corinthiaid II: “ Credais, am hynny y lleferais.” Gwerthfawrogodd Tregelles bob cyfle a phosibiliadau bob cyfrwng i ledaenu neges y Ffydd.

Cyfrannwr: Huw Tregelles Williams