Thomas – Dr I. D. E (1921-2013)

Cofir y Parchg Ddr I.D.E. Thomas yng Nghymru fel gweinidog, pregethwr huawdl, darlledwr  a sylwebydd ar America a gyflwynai eitemau’n gyson ar Radio Cymru. Roedd hefyd yn ysgolhaig a gyhoeddodd cymaint ag un-ar-ddeg o lyfrau swmpus yn Saesneg.  Cyfieithiwyd o leiaf tri o’i lyfrau i’r Sbaeneg. Dyfarnwyd Ph.D. iddo yn America am ei ymchwil ar y Piwritaniaid, a D.Litt. a D.D. (Er Anrhydedd) am ei gyhoeddiadau. Cafodd ei wneud yn Gymrawd Prifysgol Cymru, Llanbedr-pont-Steffan. Bu’n Ganghellor Ysgol Ddiwinyddol Prifysgol Rhyngwladol y Môr Tawel (The Californian Pacific School of Theology and Pacific International University) oedd â champws y ddwy ochr i’r Môr Tawel yn Siapan, Corea, Taiwan, Malaysia a Guam.

Ond tybed faint o Gymry sy’n ei gofio fel dramodydd yn ei ddyddiau cynnar? Yn 1949 enillodd wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol am Ar Brawf, drama yn seiliedig ar stori’r Pasg. Cyfieithodd y ddrama i’r Saesneg yn ddiwedarach o dan y teitl On Trial. Dilynodd dwy ddrama Gymraeg arall: Medi’r Corwynt yn seiliedig ar lyfr Esther, ac …a Phlentyn Bychan a’u Harwain, yn seiliedig a stori’r geni Yn America cyhoeddodd ddrama Saesneg, God’s Outsider: John Penry, a Puritan Martyr.

Wedi ei godi yn Seion Rhandir-mwyn a chael ei addysg yn Ysgol Llanymddyfri aeth i Goleg y Bedyddwyr ym Mangor yn 1940 gan raddio yno yn y celfyddydau a diwinyddiaeth.  Tra’n fyfyriwr ym Mangor bu’n un o’r rhai a osododd y sylfaen i gyhoeddi’r Cylchgrawn Efengylaidd. Ymddangosodd y cylchgrawn gyntaf yn 1948 gydag ef yn un o’r tri a olygodd y rhifynnau cyntaf.

Cafodd ei ordeinio yng Nglanaman yn 1946. Symudodd i Gaersalem Caernarfon yn 1953 ac i Seion Llanelli yn 1958-62. Priododd ddwywaith: yn gyntaf i Eluned Williams, a bu iddynt un mab, Marc, a fu farw yn 2008. Priododd yr eilwaith â Mildred Stevenson wedi iddo symud i America i fyw.

Pan yn Llanelli dechreuodd ar deithiau pregethu i America a chymaint y galw am ei wasanaeth fel y symudodd i weithredu fel pregethwr teithiol yno. Maes o law derbyniodd alwad fel Gweinidog Hŷn (Senior Pastor) First Baptist Church Maywood, Califfornia. Tra yno bu’n ymwneud â sefydlu Ysgol Gristnogol Maywood – y mwyaf o’i bath yn America. Bu hefyd yn cynorthwyo’r achos Cymraeg yn Los Angeles wedi iddo ymddeol fel gweinidog Maywood.

Yn ei lyfr A Day at a Time, dyfynna weinidog a gyfeiriodd at Lanymddyfri fel ‘the tropics of the Revival’ ac felly nid yw’n syndod ei fod ef ei hun yn geidwadol ei ddiwinyddiaeth a’i fod ar dân dros yr Efengyl. Drwgdybiai yr hyn a alwai yn ‘garchar moderniaeth’ a phwysleisiai gariad Duw at y pechadur, edifeiriwch a phwysigrwydd ffydd. Hoffai eiriau Richard Baxter, ‘Screw the truth into men’s minds’ a ‘bring home souls’. [Ceidwadol oedd yn ei wleidyddiaeth hefyd tra’n byw yn America ac roedd yn edmygydd mawr o Reagan a Bush.] Ond er ei geidwadaeth, ni throes ei gefn ar y brodyr na chytunai â’i bwyslais ef.

Ond er iddo dreulio dros hanner ei oes faith yn America ni chollodd ei gariad at Gymru. Mae dwy story amdano sy’n gysylltiedig â’i gilydd: un yn dangos mai Cymro oedd hyd y diwedd, a’r llall yn dangos ei fod o ddifri am yr Efengyl a bregethai. Yn Hydref 1992 cafodd ddamwain ‘hit and run gan yrrwr ifanc a’i gadawodd yn anymwybodol.  Bu’n anymwybodol yn yr ysbyty am rai wythnosau tan i Tweli Griffiths, y newyddiadurwr, ymweld ag ef pan yn Los Angeles yn ffilmio rhaglen Gymraeg. Siaradodd Gymraeg ag ef yn yr ysbyty, ac o’r funud honno fe ddechreuodd ddadebru a chafodd adferiad llawn. Yn y cyfamser roedd y gyrrwr ifanc wedi ei ddal a’i garcharu. Ymwelodd I.D.E Thomas ag ef, dod yn ffrind iddo a’i weld wedi ei ryddhau o garchar yn ymuno â’r eglwys yn Maywood.

Mynegodd ei ddymuniad i gael ei gladdu yn Seion Rhandir-mwyn . Dychwelwyd yr hyn sy’n farwol ohono yn ôl i dir Sir Gaerfyddin a chladdwyd ef yn ôl ei ddymunid ym mynwent yr eglwys lle’i codwyd ar 13  Medi 2013.

Cyfrannwr – D. Hugh Matthews