Thomas – William Benjamin (W.B.) (1887 – 1964)

Un o blant y diwygiad oedd W.B. Thomas,  ac er fod ei ddyhead gwreiddiol i fynd yn bensaer, cerddodd y ffordd i fod yn weinidog i Eglwys Iesu Grist.  Ganed William Benjamin Thomas ym mhentref Felinfoel, nid nepell o Lanelli, yn fab i William a Ruth Thomas, aelodau ffyddlon yn Eglwys Adulam, Felinfoel. Derbyniodd ei addysg elfennol yn Ysgol Old Road, Llanelli, a’i addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Llanelli. Roedd am fod yn adeiladydd, a chymhwysodd ei hun i sefyll arholiadau ac ennill cymwysterau priodol mewn Adeiladwaith.  Pan oedd yn 18 oed, roedd ganddo’r cymhwysterau i fod yn Glerc Gweithiau, ond daeth wyneb yn wyneb a phrofiad y Diwygiad, a’r Parchg. Benjamin Humphries oedd gweinidog Adulam y pryd hwnnw.  Clywodd W.B. am anturiaeth y genhadaeth i Dde’r Amerig acroedd wedi ei danio.

Derbyniodd wahoddiad Adulam i bregethu yn ei phulpud, a safodd arholiadau’r Gymanfa yn llwyddiannus. Anogwyd ef i geisio am le mewn coleg diwinyddol a’r cam cyntaf oedd mynd at Gwili Jenkins yn Ebeneser, Rhydaman. Yn 1912, derbyniwyd ef i Goleg y Bedyddwyr, Caerdydd.  Ar ôl tair blynedd o addysg diwinyddol yno, derbyniodd alwad oddiwrth Eglwys y Bedyddwyr, Berthlwyd, cymuned amaethyddol a glofäol yng ngodre Cwm Taf, nid nepell o Dreharris, a derbyniodd W. B. y gwahoddiad yn hyderus.  Ordeiniwyd ef yn weinidog yno yn 1916, ac arhosodd yn yr eglwys fel gweinidog hyd ei farwolaeth 1964.  Adnabuwyd ef ar hyd ei oes fel ‘Thomas Berthlwyd’.

Blwyddyn ar ôl cael ei ordeinio priododd ferch o Lanelli sef Miss Margaret Cecil May James, a oedd yn aelod ac organyddes yn eglwys Glanadda (M.C.) yn y dref honno.  Bu’n berson hynod weithgar ei hun, ac yn ysgrifenyddes y Senana ac Adran y Chwiorydd ym mywyd y Cymanfa Dwyrain Morgannwg am flynyddoedd lawer. Bu hefyd yn llywydd i’r Adran yn ei thro.

Tystiwyd fod W.B. yn ddefnyddiol tu hwnt yn ei gymuned, a gwasanaethodd ei Gymanfa yn ffyddlon.  Gwahoddwyd ef i fod yn llywydd iddi yn 1948/9, anrhydedd yn wir o gofio cymaint o weinidogion a fu yn y Gymanfa, na chafodd wahoddiad, gan draddodi ei anerchiad o bulpud Berthlwyd ar y testun, “Pobl Prif-ffordd y Brenin”.  Ysgrifennodd y Parchg D. Myrddin Davies amdano yn Llawlyfr 1965 drwy ddweud,

“Gŵr ydoedd a ymglywai a’i wreiddiau. Daearol ac ysbrydol, balch o’i ardal enedigol, ac o’i enwad, pwyllgorddyn wrth ei fodd, pryfoclyd ar adegau, buddiol gan amlaf, diddorol bob amser. Ymhyfrydai a mynd i’r afael a’r “awdurdodau” yn enwedig o blaid y brawd gwan. Nodweddion amlwg ei gymeriad oedd cyfeillgarwch cynnes, teyrngarwch diollwng ac yn arbennig diriedi diwenwyn. Cafodd fyw yn ddigon hir i wasanaethu ei eglwys a’i gylch i weled o’i lafur

Bu farw W.B. yn 77 mlwydd oed, wedi cyflawni diwrnod da a gwerthfawr o waith yng ngwinllan Crist.

Cyfrannwr: Denzil Ieuan John