Thomas – Joseph Arwel (1935-2002)

Un o blant Blaenrhondda oedd Arwel Thomas, ac fel ei deulu mynychodd eglwys y Bedyddwyr yng Nghalfaria, Blaenrhondda. Yno daeth o dan ddylanwad gweinidog yr eglwys, sef y Parchg Ernest Pugh. Roedd cyfeillgarwch rhyfeddol rhwng y ddau, er bod eu personoliaethau a’u galluoedd mor wahanol i’w gilydd.

Yn dilyn ei addysg elfennol ac uwchradd lleol, aeth i Brifysgol Cymru yng Nghaerdydd a graddio mewn Ffrangeg. Astudiodd am y B.D. gan ddewis athroniaeth fel ei brif bwnc, ac er y gallai fod wedi ceisio am swydd mewn sawl maes, roedd ai fryd ar fod yn weinidog. Derbyniodd gais i ystyried gwahoddiad i fod yn weinidog ar Ynysoedd y Sianel, gan fod hynny yn gofyn gallu i bregethu yn Saesneg a Ffrangeg, ond roedd yn daer mai yng Nghymru roedd Duw yn ei alw i weinidogaethu, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn 1957, derbyniodd wahoddiad eglwysi Cwrtnewydd a Brynhafod, pentrefi i’r de o Lanbedr Pont Steffan, ac yno y bu am bennod cyntaf ei weinidogaeth. Priododd ei annwyl Tudfil, merch o’r un ardal ag ef. Cymhwysodd hithau ei hun i fod yn athrawes, ac ymhen y rhawg, daeth hithau i fod yn bennaeth adran y Gymraeg yn Ysgol Ton Pentre. Roeddent o’r un ardal ac yn eneidiau hoff cytun. Arhosodd hi i weithio yn y Rhondda, a theithio i Sir Aberteifi i fwrw’r Sul a threulio ei gwyliau yn y mans. Roedd yn dioddef o salwch gwaed ers yn faban, a bu farw yn 1976. Effeithiodd ei marwolaeth yn drwm ar Arwel, ac efallai i hynny effeithio ar ei iechyd yntau maes o law. Cafodd Arwel ddigon o gyfle i ddarllen ac ysgrifennu a chofir amdano yn dod i adnabod y gymuned amaethyddol hon, gan fwrw draw yn aml i farchnad Llanbed gyda’i gi bach. Datblygodd ddoniau llenyddol, a meistrolodd y gynghanedd. Bu’n llunio englynion yn gyson, ac roedd yn cofio gwaith beirdd eraill yn hawdd. Casglodd Dafydd Henri Edwards lawer o’i gerddi a threfnu iddynt gael eu cyhoeddi.

Yn 1967, derbyniodd wahoddiad i symud i ardal drefol a’i sefydlu yn weinidog ar Eglwys Adulam, Bonymaen, Abertawe. Roedd yno fwy o fwrlwm diwydiannol a chyfle iddo wasanaethu Cymanfa ac Enwad. Gwerthfawrogodd frawdoliaeth gweinidogion y Cwrdd Chwarter yn ardal Abertawe, a’r trafodaethau a gawsai yn ei plith.

Ni symudodd ymhell wrth ddechrau ar drydedd cyfnod ei weinidogaeth. Ffarweliodd gyda Bonymaen a derbyn cyfrifoldeb i fod yn weinidog yn Moreia, Ynystawe, a bu yno rhwng 1977 ac 1979. Yn Ionawr 1977 bu’n brif olygydd Seren Cymru gan ysgwyddo’r cyfrifoldeb am 11 mlynedd. Lluniai erthyglau golygyddol yn wythnosol, ac fel Eirwyn Morgan, un o’i ragflaenwyr yn y swydd, roedd yn mynegi barn gytbwys, ond nid oedd yn cadw rhag datgan barn glir a deifiol. Ysgrifennai ar ystod eang o bynciau’r dydd, a byddai ei heddychiaeth a’i ogwydd sosialaidd a gwladgarol yn cael eu hamlygu. Roedd yn gyson ddatgan fod “daliadau gor-eangfrydig yn arwain at wendid, gan fod angen argyhoeddiadau cryfion”. Hyrwyddai’r Gymraeg a chlywid llais y Bedyddiwr digymrodedd yn gyson. Ymddiswyddodd o’r dyletswydd yn mis Mai, 1986, er roedd yn parhau ar y panel golygyddol tan Mai 1996.

Roedd wedi sylweddoli nad oedd Ynystawe yn lle cwbl addas iddo, a phan ddaeth y cyfle i symud i Sir Aberteifi yn 1979, gan ddilyn y Parchg T. R. Lewis, fel gweinidog eglwys Bethel, Aberystwyth, tybiwyd y byddai’r academydd a’r bardd yn gwbl gyfforddus yno. Serch hynny, roedd yn unig, er bod llawer wedi ceisio ei gynorthwyo, arhosai cysgodion y cymylau. Dirywiodd ei iechyd ac er mor awyddus oedd ef i gwmnïa, nid oedd yn llwyddo i gymysgu gydag eraill. Ymddangosai fel pe byddai mewn byd arall, ar goll yn ei feddyliai ei hun. Ni fyddai yn poeni am natur ei fwydlen nac yn medru trefnu ei fywyd beunyddiol. Roedd un o blant Cwm Rhondda fel pysgodyn allan o ddŵr yn Aberystwyth. Ymddeolodd yn 1985, pan waethygodd ei iechyd, a threfnwyd ei fod yn symud yn ôl i fflat yn Ninas Abertawe. Bu ei gyfeillion yn y weinidogaeth yn ofalus eithriadol ohono, ond wrth i’w iechyd ddirywio, gofalodd yr enwad ei fod yn cael cynnig lloches yng Nghartref Glyn Nest. Efallai mai yno y bu mwyaf dedwydd, gyda staff y cartref yn gwarchod ei feddyginiaethau a phob anghenraid arall. Cafodd gwmni ffrindiau da ymhlith ei gyd-ddeiliaid, hyd at ei farwolaeth yn 2002.

Roedd Arwel yn ddarllenwr eang ar hyd ei oes, ac wrth ei fodd yn trafod gweithiau academaidd yn gyffredinol, a diwiynyddieth yn benodol. Cafodd gyfle i wneud blwyddyn o waith Sabothol yng Ngholeg Bedyddwyr, Caerdydd, gan werthfawrogi’r cyfle’n fawr. Bu’n selog ar hyd y blynyddoedd yn Ysgol Haf y gweinidogion. Roedd yn Fedyddiwr i’r carn, ac er yn ddigon parod i barchu a chydweithio gydag enwadau eraill, ni fyddai’n yn barod i gyfaddawdu ar unrhyw wedd o’r egwyddorion Bedyddiedig. Yr un oedd ei agwedd ar lawr cynhadleddau Undeb Bedyddwyr Cymru, er roedd pawb a’i adnabu yn gwybod nad oedd unrhyw ddichell na difrawder yn ei gyfansoddiad. Bu’n Ysgrifennydd Pwyllgor Dinasyddiaeth am dymor, yn ohebwr brwdfrydig gyda’r cyrff cyhoeddus a gwleidyddol yn enw’r pwyllgor a’r Undeb .

Bu farw yn 2002, a chladdwyd ei weddillion ym medd ei briod, mewn mynwent ger y Porth, wrth fan cyfarfod Rhondda Fawr a Rhondda Fach, gyda nifer o’i gyfeillion yn y weinidogaeth yn bresennol. Roedd cydbwysedd y gynghanedd yn y weithred o ddaearu gweddilion mab y cwm yn nhir ei gyndadau, gan wybod bod yr enaid gwylaidd hwn yn ddiogel yng ngwynfyd ei Arglwydd.

Cyfrannwyr:
Dafydd Henri Edwards
Denzil Ieuan John.