THOMAS – James (1891- 1972)

James ThomasGaned James Thomas ar 4 Awst 1891 mewn bwthyn o’r enw Crugiau a arferai sefyll nid nepell o safle capel Blaenconin ym mhentref Llandysilio, Sir Benfro, yn ymyl y fan lle claddwyd y bardd Waldo Williams yn ddiweddarach. ‘Roedd yn un o dri brawd: yr hynaf oedd John Thomas (1886-1975) a fu’n weinidog llwyddiannus yn eglwysi Ruhamah, Pen-y-bont ar Ogwr; Bethesda, Glanaman; a Blaen-y-waun, Llandudoch, ac a ddyrchafwyd, yn 1957, yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru; William, a gollodd ei fywyd yn y Rhyfel Mawr; a James, yr ieuengaf. Collwyd y fam yn ifanc, ac yn eu harddegau cynnar bu’r  brodyr yn gweithio fel gweision fferm yn ardal eu cynefin, gyda James yn was bach i Enoch James, fferm Dyffryn Trogyn. Yn ddiweddarach aeth James yn brentis gwehydd i’r Gelli, Sir Benfro, a’i fedyddio gan weinidog y Gelli, W.R. Lewis.

Megis ei frawd hþn yr oedd James â’i fryd ar y weinidogaeth, ac yn 1913 fe’i derbyniwyd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd. Yn fuan wedyn dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, a chafodd yntau wþs i ymuno â’r fyddin, gan ymuno, fel llawer eraill o fyfyrwyr diwinyddol y cyfnod, ag uned Gymreig y Royal Army Medical Corps. Cadwodd ddyddiadur yn ystod cyfnod y rhyfel, dyddiadur y dyfynnodd W.J. Gruffydd yn helaeth ohono wrth lunio cofiant i’r ddau frawd, sef James a John: Dau Frawd – Dau Broffwyd. Gwelir mai o’i anfodd y gwisgodd lifrai’r milwr, ac iddo ddehongli ei swyddogaeth nid yn nhermau galwad i ymosod ar y gelyn ond yn hytrach fel cyfle i weini i anghenion cyd-ddyn. Amlygai gydymdeimlad mawr â’r clwyfedig, i gymaint graddau nes idd fynd, ar sawl achlysur, yn ddwfn i’w boced ei hun er mwyn helpu’r anghenus. Er iddo gasáu dichellion rhyfel, mae’n arwyddocaol na ddewisodd droedio llwybr y gwrthwynebwr cydwybodol; nid oedd anghydffurfio â’r drefn yn rhan o anian. Yr hyn sydd hefyd yn arwyddocaol yw’r ffaith na cheir odid un cyfeiriad yn ei ddyddiadur at unrhyw fesur o golli ffydd, nac unrhyw ymholi, yn wyneb yr erchyllterau barbaraidd y bu’n dyst iddynt, am fodolaeth y Duw tosturiol a’i ofal rhagluniaethol am ei fyd.

Ar derfyn y rhyfel dychwelodd i goleg y Brifysgol, a choleg ei enwad, yng Nghaerdydd gan raddio gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1922, a dechrau ar ei weinidogaeth yn eglwys Seion, y Maerdy ym mis Mai 1923. Gadawodd ei ôl yn drwm ar yr eglwys a’r gymuned yn ystod wyth mlynedd ei arhosiad yno. Cynyddodd nifer yr aelodau o 230 yn 1923 i 320 yn 1931, a hynny, i raddau pell, ar gyfrif pregethu enillgar y gweinidog, ynghyd â’i ofal eithriadol am y praidd. Llwyddodd i fedyddio 153 o aelodau newydd, ac adfer 53 o’r sawl a gefnodd ar yr achos.

Nid oedd gweinidogaeth James Thomas yn gyfyngedig i gylch ei eglwys. Yn ystod Streic Fawr 1926 bu’n gweinidogaethu i anghenion clwyfedigion y cwm yn ddiwahân, ac nid heb reswm y llysenwyd ef yn ‘Thomas Maerdy’. Bu wrthi’n rhannu’r elusennau a ddanfonwyd o Loegr i liniaru tipyn ar gyni’r glowyr a’u teuluoedd; bu’n pwyso ar yr awdurdodau i weithredu trugaredd; apeliodd at nifer o’i gydweinidogion mewn meysydd brasach i gymell eu heglwysi i noddi trueiniaid y Rhondda; ond yn fwy na dim rhoes ei law yn ddwfn yn ei boced ei hun, mynnodd fod ei gyflog yn cael ei haneru, cyfrannodd yn helaeth o’r arian a oedd yn weddill, ac aeth yn dlawd er mwyn ei bobl. Bu sôn iddo fod o fewn dim, ar gyfrif ei gymwynasgarwch Cristnogol, i berswadio Arthur Horner (Com-iwnydd, ac un o arwyr mawr y glowyr) i droi’n Gristion, hynny ‘nid â’i eiriau, ond â’i fywyd’, ond mae’n gwestiwn ai gwir y goel. Mae’n llawer mwy tebygol i bregethwr anwleidyddol a chydymffurfiol fel James Thomas fod yn fwy o destun dirmyg i Horner nag yn wrthrych edmygedd.

Pregethodd James Thomas am y tro cyntaf yn y Tabernacl, Caerfyrddin ar y Sul, 2 Tachwedd 1930, a hynny’n ‘rymus a chydag arddeliad’ i gynulleidfaoedd lluosog. ‘Roedd ei gyfaill John Williams Hughes, gweinidog eglwys y Tabernacl, Caerdydd, eisoes wedi ei gymeradwyo i ddiaconiaid yr eglwys, a phan osodwyd ei enw gerbron y gynulleidfa dyfarnwyd yn unfrydol o’i blaid. Cychwynnodd ar dymor ei weinidogaeth yn y Tabernacl ar y Sul, 1 Chwefror 1931.

Cuddiad llwyddiant a dylanwad James Thomas fel gweinidog oedd ei bregethu sylwedd-ol, efengylaidd, ynghyd â’i ofal bugeiliol cwbl eithriadol am y praidd. Ac yntau’n ddyn sengl (a fu’n hynod ffodus i gael Bessie James, ‘y foneddiges berffaith’, o bentref Llandudoch ac eglwys Blaen-y-waun, i gadw tþ iddo), ymdynghedodd i weini’n ddiarbed ohono’i hun i anghenion ei bobl, gan gymryd arno’i hun agwedd gwas. Yr oedd yn ymwelydd cyson ag aelwydydd ei aelodau, yn un a gerddai’n ddyddiol bron i ymweld â’r cleifion yn ysbytai Heol Prior a Glangwili (gan gyflwyno anrheg fechan o ffrwyth neu ddeunydd darllen, ac weithiau swm o arian, i’r dioddefus), ac a rodiai’n fynych strydoedd Caerfyrddin gan gyfarch pawb ar y ffordd. Nid gormod iddo fyddai eistedd drwy’r nos wrth erchwyn gwely angau, gan gynorthwyo aelodau’r teulu i wylied y claf. Yr oedd yn ‘angladdwr’ di-feth, nid yn unig yng nghynebryngau aelodau ei eglwys, ond hefyd yn arwyliau y sawl a arddelai gyswllt â’r Tabernacl. Ac nid cysuro’r hen a’r llesg yn unig a wnâi: meddai ar ddiddordeb dwfn yn yr ifanc a’u gyrfaoedd, a phan ddeuai’r amser i un ohonynt ymadael â chartref am y tro cyntaf i ddechrau ar gwrs coleg, gallai hwnnw neu honno ddisgwyl gwahoddiad i’r mans er derbyn dymuniadau da y gweinidog, a chyfrol a swmyn o arian yn rhodd.

Yn ôl W.J. Gruffydd, ‘dwyster y gair llafar oedd cyfrinach pregethu James Thomas’. Ei nod mewn oedfa oedd creu naws addolgar gyda’i lais mwynaidd, ei ymddygiad defosiynol, a’i urddas cynhenid. Ni chaed yn ei bregethu ddim o’r elfennau ffuantus, ymhongar, a’r arddull strocllyd, a fedrai nodweddu’r bregeth ‘boblogaidd’. Meddai Robert Morgan (un o ddiaconiaid yr eglwys) amdano:

Pregethai’n rymus ac ysbrydoledig. Amhosibl bod yn ei gwmni heb deimlo dyfnder ei       ffydd a grym ei argyhoeddiad, ac amlygid y rhinweddau hyn yn ei bregethu. Cadwai safon gyson wrth draethu, a honno’n safon uchel.

A thrachefn:

Roedd ei bregethau yn efengylaidd eu hathrawiaeth, hytrach yn ffwndamental  eu    harddull. Canolai bob amser ar y datguddiad o Dduw yn Iesu Grist, ac mai  pwrpas bywyd yw ei ddangos Ef i’r byd. At bwysleisio’r ffeithiau hyn yr  ymdrechai ymhob pregeth. Eithr  nac anwybydder y ffaith ei fod yn ysgolhaig trylwyr ac yn ddarllenwr diwyd.

 ‘Roedd James Thomas yn ðr addfwyn, llawn cydymdeimlad a chonsýrn am bawb yn ddiwahân, ond ni ddylid cyfystyru’r addfwynder hwnnw â meddalwch neu ddiffyg argyhoeddiad. Safai’n ddiwrthdro dros ei argyhoeddiadau, ac os teimlai (mewn ambell gyfarfod diaconiaid, dyweder) fod egwyddor bwysig yn y fantol, mynnai sefyll ei dir. Eto, nid amhriodol yw sylw T. Moelwyn Jones (ysgrifennydd eglwys y Tabernacl yn ystod blynyddoedd olaf James Thomas); “Ni fu un gair croes rhyngddo â’i ddiaconiaid erioed”.

Bu farw James Thomas ar 2 Ebrill, sef bore Sul y Pasg, 1972, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y Tabernacl ar y dydd Iau canlynol. Dadorchuddiwyd cofeb iddo ar fur y capel ar nos Sul y Pasg 1973.

Cyfrannwr: Desmond Davies

Llyfryddiaeth:

1. Desmond Davies, Pobl y Porth Tywyll: Hanes a Thystiolaeth y Bedyddwyr, y

    Tabernacl, Caerfyrddin, 1650-1968, yng nghyd–destun datblygiad Ymneilltuaeth

    Gymreig (Gomer: Llandysul, 2012).

2. W.J. Gruffydd, James a John: Dau Frawd – Dau Broffwyd. (Gomer: Llandysul, 1976)