Prin yw’r gweinidogion a wasanaethodd yn yr un eglwys am dros hanner can mlynedd, a hynny o fewn yr un Cwrdd Adran a’r man lle cafodd ei eni a’i fagu. Dyna fu hanes David John Michael, Blaenconin.
Roedd Thomas Michael yn frawd ieuengaf i’r Parchg David John Michael, Blaenconin, ac roedd ganddynt frawd rhyngddynt o ran oedran, sef William Michael, a fu’n amlwg fel diacon a swyddog yn Eglwys y Graig, Castell Newydd Emlyn.
Roedd eu tad, Thomas Michael, yn Fedyddiwr cadarn ei argyhoeddiad a’u mam Mary…
Un a ddaeth yn hwyr i’r Weinidogaeth oedd Alun Mathias. Ysgolfeistr yn Sir Benfo oedd cyn iddo ef a’i wraig Irene a’r ferch Ann symud i Essex yn gynnar yn y 1970s. Sumudodd i ddysgu yn Romford ac ymaelododd y teulu yn eglwys y Bedyddwyr yn Hornchurch a chyn hir…
Ganwyd Morgan Idris Morgan i deulu oedd â’u gwreiddiau’n ddwfn yn ardal Garnswllt. Ei dad Philip Morgan oedd yn bennaf gyfrifol am drefnu adeiladu capel Noddfa, Garnswllt, yn un o’r tri deg pump a ryddhawyd o gapel Gerasim, Cwmcedinennen i gyflawni’r weithred arbennig hon. Gwelir enw ei famgu Mari Morgan…
Un o blant Penygroes, Sir Gaerfyrddin oedd David Eirwyn Morgan, ac yn fab i Rachel a David Morgan. Glöwr oedd ei dad, ac addolai’r teulu yn Eglwys Saron, Llandybie. Yn anffodus, bu farw David Morgan pan oedd y plant yn ifanc oherwydd iddo ddioddef o’r siliclosis. Roedd y fam yn…
Ganed Thomas John Michael (Tom) ym mhentref Clynderwen, Sir Benfro yn y flwyddyn 1923. Ef oedd plentyn ieuengaf y Parchedig David John a Frances Michael. Roedd y teulu wrth eu bodd gyda dyfodiad y bachgen bach, a’r tair chwaer Mary, Elonwy a Beti yn dotio arno! Cafodd ei fagu felly yn ardal…
Read our privacy policy here.
Cysylltwch â ni:
Ffôn: 0345 222 1514
Ebost: post@ubc.cymru
Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin SA31 3HB
Polisi Preifatrwydd
Cynlluniwyd gan: Waters