Ganed Thomas John Michael (Tom) ym mhentref Clynderwen, Sir Benfro yn y flwyddyn 1923. Ef oedd plentyn ieuengaf y Parchedig David John a Frances Michael. Roedd y teulu wrth eu bodd gyda dyfodiad y bachgen bach, a’r tair chwaer Mary, Elonwy a Beti yn dotio arno! Cafodd ei fagu felly yn ardal Waldo, lle oedd ei dad yn weinidog yng eglwys Blaenconin, Llandisilio.
Ar ôl i Tom adael Ysgol Arberth, graddiodd gyda BA o Brifysgol Cymru, Caerdydd cyn mynd i Goleg y Drindod, Caerfyrddin i ‘w hyfforddi fel athro. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel athro ymdeimlodd â’r alwad i ddilyn ôl traed ei dad ac felly dychwelodd fel myfyriwr i Goleg y Bedyddwyr,Caerdydd.
Ei ofalaeth cyntaf oedd Eglwys Beulah, Trecelyn, Sir Fynwy, a tra roedd yno, priododd Mair Williams, nyrs y fro a bydwraig a oedd yn enedigol o Faenclochog. Yn y flwyddyn 1959 gawyd eu hunig blentyn Beth, a chafodd hithau yrfa ym myd yr opera yn Covent Garden. Erbyn hyn, mae hithau wedi ymddeol ac wedi darganfod talent arall fel arlunydd, a gwelir ei gwaith yn aml yn Yr Oriel yn Abergwaun.
Yn y flwyddyn 1962 symudodd y teulu i Lanelli, ac yno bu Tom yn gofalu am Eglwys Greenfield, yn bregethwr cadarn ac yn uchel ei barch. Ar ôl sawl blwyddyn yno ymdeimlodd awydd i ddychwelyd i ddysgu – a bu’n gweithio yn ysgolion Staines, Casgwent a Chasnewydd. Yn ogystal â dysgu yn yr ardaloedd hyn, bu’n gofalu am eglwysi hefyd sef Charles St, Casnewydd ac Eglwys y Bedyddwyr Casgwent.
Ymddeolodd yn 1983 a symudodd Tom a Mair i Hwlffordd ac unwaith eto cafodd ei hun yn gweithio fel gweinidog, gan wasanethu cynulleidfa Llangwm. Yn ystod y cyfnod yma, gwaelodd iechyd Mair a bu farw yn 1985. Daeth eglwys arall ar ofyn Tom a bu’n weinidog ar eglwys Bethesda, Hwlffordd.
Yn 1990 daeth pennod newydd hapus yn ei fywyd pan briododd Mair Nicholas – cyn brifathrawes ac ymgyhorydd addysg yn Sir Benfro. Yno yn ei gartref “Heddfan” ar yr ail o Chwefror 2015, hunodd yntau’n dawel yn 91 oed. Roedd ganddo nifer o ddiddordebau, ac yn ei plith roedd ganddo hoffter o waith coed, a chawsai hwyl arbennig wrth gwyro hen gelfi. Cofiwn amdano fel gŵr tawel a fwynheiai sgwrsio ar bob math o bynciau. Fel ei dad, roedd yn cuddio ei reddf i dynnu coes, ond roedd hiwmor a ffraethineb yn rhan o’i gymeriad.
Mewn teyrnged yn yr angladd, dywedodd y Parchg Patrick Baker fod Tom yn wir fonheddwr ym mhob ystyr o’r gair. Soniodd am Tom fel gŵr cadarn a disgybledig. Roedd yn esiampl dda i’w ddisgyblion, a disgwylai yr un mesur o hunan ddisgyblaeth ganddynt. Wrth ddwyn ei deyrnged angladdol i ben dyfynnodd Patrick Baker eiriau Tom drwy ddatgan iddo wneud ymrwymiad llwyr i Grist a felly y bu gydol ei oes. Bu fyw yn y sicrwydd hwnnw. Bydd y sawl sy’n cofio ei rieni yn gwybod fod Tom wedi byw yn ôl eu hesiampl, sef drwy ymddiried yn llwyr yn Iesu, a phregethu’r gwirionedd a gredai, gan wasanaethu’r eglwys yn wylaidd. Coffa da o Gristion gwylaidd iawn.
Cyfrannwr:
Mair Paton