Morgan – Idris Morgan (1889-1976)

Ganwyd Morgan Idris  Morgan i deulu oedd â’u gwreiddiau’n ddwfn yn ardal Garnswllt. Ei dad Philip Morgan oedd yn bennaf gyfrifol am drefnu adeiladu capel Noddfa, Garnswllt, yn un o’r tri deg pump a ryddhawyd o gapel Gerasim, Cwmcedinennen i gyflawni’r weithred arbennig hon. Gwelir enw ei famgu Mari Morgan ( gwraig fusnes graff ) ar garreg ar fur allanol  y capel. Bu Philip Morgan a’i fab yn ysgrifenyddion yn yr eglwys newydd hon, a roedd cyfraniad y teulu yn sylweddol wrth hyrwyddo achos y gweithwyr yn gyffredinol a’r Blaid Lafur yn benodol.  Cefndir radicalaidd oedd i Idris Morgan, ac roedd hawliau pobl yn bwysig iddo.  Er i’w deulu ddefnyddio ei enw cyntaf, fel Idris y cafodd ei adnabod yn ystod ei oes. Pan yn bump oed, cychwynnodd Idris fel disgybl yn y ‘National School Board’ ar ben Heol y Mynydd Garnswllt, lle ceir golygfa arbennig o’r pentre gwledig hardd.  Efallai mai’r atgofion am yr olygfa o’r ysgol wnaeth ei sbarduno i ddringo mynyddoedd ar hyd ei oes, a phan oedd yn weinidog yn y gogledd, bu’n arwain grwpïau i fyny’r Wyddfa. Serch hynny, ni hoffai Morgan yr ysgol o gwbl. Er fod Mr. Jarmin, y prifathro yn enedigol o Gaernarfon, ac yn medru’r Gymraeg, ni ddefnyddiai ei fam-iaith yn yr ysgol. Tybir bod agweddau’r prifathro yn gyffredinol yn achos i Idris gael canlyniadau gwael yn yr ysgol.

Pan yn dal yn fachgen ifanc, trefnodd ei fam, Sarah Anne (Mainwaring gynt), a oedd yn gerddorol ei hun, i Idris dderbyn gwersi piano ac organ gan Miss Griffiths, Bwtrimawr, Betws. Profodd ei hun yn ddisgybl galluog ac yn dair ar ddeg oed cafodd dystysgrif ddisglair ac erbyn yn un ar bymtheg ef oedd organydd Noddfa. Un o’i gyfraniadau i fywyd cerddorol ardal ei febyd oedd gwasanaethu fel organydd mewn cyngerdd mawreddog yng nhapel Bethesda, Glanaman.

Breuddwyd Sarah Anne oedd gweld ei mab yn mynd i’r weinidogaeth, ond fe’i denwyd gan ei ewythr, David Morgan, i ddod gydag ef fel bachgen i waith glo Pontyclerc, Pantyffynnon. Yn y cyfnod hwnnw, cyn dyddïau’r ‘conveyor belt’  roedd yn angenrheidiol i löwr gael bachgen gydag ef i weithio’r talcen, ac roedd meibion David Morgan ei hun yn rhy ifanc.  Bu damwain ddifrifol ym Mhontyclerc, ac anafwyd Idris a’i ewyrth. Yn dilyn y ddamwain hon, bu yn dioddef o dro yn ei lygad, ac ni fyddai pobl yn ei gwmni yn sylweddoli i ba gyfeiriad yr edrychai Idris.

Roedd Morgan Idris Morgan yn un o bedwar o fechgyn, er bu dau ohonynt farw sef David Vincent a John Morgan.  Bu Tom Morgan, y trydydd brawd, fyw nes ei fod yn 57 oed, a bu’n olynydd ei dad fel ysgrifennydd yr eglwys. Cyfrannai golofn Gymraeg ym mhapur  wythnosol y ‘South Wales Guardian’ am flynyddoedd hefyd.  Gwasanaethodd fel cadeirydd Undeb y Glöwyr yng nglofa Pantyffynon hyd ei farw yn 1958, a chyfansoddodd emyn i’r plant ei ganu yng nghymanfa’r Pasg.

Erbyn 1920, a Idris bellach yn 31 oed, roedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Presbyteraidd Cymru, Caerfyrddin, yn paratoi ar gyfer y weinidogaeth Gristnogol. Yn drist iawn, bu farw ei fam (fel nifer o bobl eraill) yn 44 oed o’r ffliw mawr ledodd drwy’r wlad ym 1917, cyn gweld gwireddu ei breuddwyd. Bu ei dad yn hynod gefnogol iddo tra  roedd yn y coleg, gan ei gynnal yn ariannol, ac yn ymweld ag ef yn gyson. Weithiau byddai’n mynd â’i ferch fach Winnie gydag ef i weld ei brawd. Yn ystod ei gyfnod yn y coleg, dechreuodd Idris ar ei deithiau pregethu, gan deithio’n aml i Sir Faesyfed ac ymweld ag eglwysi bach y wlad rhwng Llanbadarn Fynydd a Coxhall yn Sir Amwythig.

Wedi ei gymhwyso yn 1924, derbyniodd Idris Morgan  wahoddiad i fod yn weinidog  yn Seion Penmaenmawr.  Bu hefyd yn bwrw gofal dros Eglwys Libanus, Llanfairfechan ac eglwys gyfagos y Graig. Priododd gyda Marged Pritchard yn  Rhagfyr 1929. Cafodd amser hapus yn y fro ond am y profiad creulon o golli ei briod yn 1945. Yn Hydref 1946, sefydlwyd ef yn weinidog yn Ainon, Glanwydden a Chalfaria, Ochr y Penrhyn, a blwyddyn yn ddiweddarach ail briododd gyda Morfydd, cyfnither ei wraig gyntaf. Bu’n ffyddlon i’r eglwysi hyn am ddau ddeg pedwar o flynyddoedd hyd ei ymddeoliad yn 1968, ac yntau yn 79 mlwydd oed.

Roedd ei lun ar orielau blynyddol y coleg ac roedd yn hynod falch o’i gysylltiad gyda’r sefydliad. Bu ganddo ddiddordeb amlwg yng ngoleg yr enwad ym Mangor ar hyd ei oes. Apwyntiwyd ef fel ysgrifennydd ariannol i’r coleg yn 1941 a gwasanaethodd felly am flynyddoedd. Deuai hyn ag ef i gyswllt cyson gyda’i gyd-weinidogion ac hefyd gyda’r myfyrwyr.  Cafodd y coleg cyfan o’i gefnogaeth hael a bu’n ffrind da i’r cenhedlaethau o weinidogion a dderbyniodd eu haddysg yno. Bydd cenhedlaethau o fyfyrwyr yn ei gofio yn trefnu Suliau Pregethu iddynt, ac yn eu cyfarwyddo sut i gyflwyno apêl ar ran y coleg.   Roedd yn gymeriad direidus ac wrth ei fodd yn creu hwyl.  Byddai o hyd yn llawen ei wedd ac yn falch o gyfarfod gyda phobl.  Roedd ei deulu yn hoff iawn ohono, a dangosai gefnogaeth iddynt ar bob adeg.  Nai iddo yw’r Parchg P. Huw Lewis, a fu yn weinidog ym Maesteg ac yna ym Methel, Llanelli.

Gwasnanaethodd Cymanfa Arfon gyda’r un mesur o ffyddlondeb.  Bu’n Ysgrifennydd Cenhadol iddi ac yna yn Ysgrifennydd y Gymanfa am dymor.  Derbyniodd gyfrifoldeb Llywydd Cwrdd Dosbarth Bangor a Llandudno, ac etholwyd ef yn Aelod Anrhydeddus o’r Gymanfa.  Gŵr hawddgar a dibynadwy, ac yn gwmni poblogaidd gan bawb.

Soniai wrth ei deulu yn aml am garedigrwydd pobl Penmaenmawr a Glanwydden ac roedd ganddo feddwl uchel iawn o bobl Ochr y Penrhyn, gan sôn amdanynt fel gweithwyr oedd wedi bod â’u hwynebau at wyneb y graig, a byddai hyn yn ei atgoffa o’i gyfnod fel bachgen ifanc ef yn y pwll glo. Cafodd amser dedwydd yn ei ofalaeth, ac ennill parch llwyr pobl y fro.

Bu farw ar ddechrau mis Gorffennaf 1976, a chladdwyd ef ym mynwent Sant Gwynin ym Mhenmaenmawr lle y claddwyd ei briod cyntaf. Yn ddiddorol, cymerwyd rhan yn angladd Idris Morgan gan y Parchg Wynne Richards, ei olynydd yn Seion Penmaenmawr, ond yn ddisymwth, bu farw yntau noson yr angladd.  Buont yn gweithio ar y cyd am dros ugain mlynedd gan adael bwlch enfawr ar eu hôl.

 

Cyfrannwyr:

Alun Lewis – nai i Morgan Idris Morgan
Huw Lewis – nai i Morgan Idris Morgan
Denzil John