Michael – Thomas (1885-1922)

Roedd Thomas Michael yn frawd ieuengaf i’r Parchg David John Michael, Blaenconin, ac roedd ganddynt frawd rhyngddynt o ran oedran, sef William Michael, a fu’n amlwg fel diacon a swyddog yn Eglwys y Graig, Castell Newydd Emlyn.

Roedd eu tad, Thomas Michael, yn Fedyddiwr cadarn ei argyhoeddiad a’u mam Mary yn aelod o’r Eglwys wladol yn y pentref. Bu hithau farw o fewn blwyddyn i enedigaeth y trydedd mab, a blwyddyn yn ddiweddarach, aeth y ddau fab hynaf at eu mam-gu ar ochr eu tad, sef Mrs Watts, a hithau yn chwaer i’r Parchg Thomas John, un o bregethwyr amlwg diwygiad 1859.

Bedyddiwyd Thomas Michael ym Mhenuel gan y Parchg Edwin Watkins ar Ebrill 20fed 1899 pan roedd yntau yn 14 oed.

Treuliodd Thomas Michael wyth mlynedd yn ceisio hyfforddiant i fod yn weinidog. Mynychodd Ysgol Ragbaratol yng Nghaerfyrddin cyn derbyn y cymhwyster i fynd i Goleg y Bedyddwyr, Caerdydd gan raddio ar ôl tair blynedd yn y celfyddydau ac yna bu dair blynedd arall cyn llwyddo yn arholiadau gradd y B.D.

Ordeiniwyd Thomas Michael yn eglwys Fedyddiedig Earlsfield Road, Lerpwl, yn 1916, gyda’r Prifathro William Edwards yn pregethu ar y nos Sadwrn a’r Parchg J Thomas, Cilgeran yn pregethu ar y bore a nos Sul.

Yn gynnar yn 1922, derbyniodd alwad i Bethesda, Goedwig, Sir Benfro, ond fe’i rhwystrwyd gan afiechyd rhag cychwyn ar y gwaith yno. Bu farw ar 4 Mehefin 1922 yn nhŷ ei frawd sef y Parchg David John Michael.

Cynhaliwyd ei angladd ym mynwent Bathabara, Sir Benfro. Yn y deyrnged iddo yn yr angladd, tystiwyd ei fod yn gymeriad dilychwyn, ac yn ŵr defosiynol, brwdfrydig a chymodlon. Yn llythyr staff y coleg yng Nghaerdydd, nodwyd fod Thomas yn fyfyriwr gwych, yn bregethwr cadarn ac yn gymeriad cryf. Bu’r farwolaeth yn ergyd drom i’r teulu ac yn golled i’r enwad.