Morgan – David Eirwyn (1918-1982)

Un o blant Penygroes, Sir Gaerfyrddin oedd David Eirwyn Morgan, ac yn fab i Rachel a David Morgan.  Glöwr oedd ei dad, ac addolai’r teulu yn Eglwys Saron, Llandybie. Yn anffodus, bu farw David Morgan pan oedd y plant yn ifanc oherwydd iddo ddioddef o’r siliclosis. Roedd y fam yn berson cadarn cryf, ac yn wraig o argyhoeddiad dyfnion. Roedd gan Eirwyn ddau frawd o’r sef John Wynford, siopwr yn ardal Llandeilo a  Goronowy Morgan, athro ysgol gynradd a phrifathro yn Nhrelech ac yna Cefneithin,  ac  un chwaer o’r enw Annie Evelyn a fu’n nyrs ar hyd ei hoes. Roedd dau frawd hŷn nag ef hefyd, sef Harold ac Aneurin, (a fu farw yn eu babandod).  Fel gweddill plant ei bentref, aethant i’r ysgol gynradd leol.  Derbyniodd Eirwyn  gyfle i fynd i’r Ysgol Ramadeg yn Rhydaman – ‘Ysgol Aman’,  a dangos yno ei fod yn berson galluog iawn.  Yn y cyfnod hwn daeth i adnabod D.R.Griffiths, (Amanwy), ac ef sbardunodd Eirwyn i ymddiddori mewn llenyddiaeth Gymraeg.  Yno, enillodd ysgoloriaeth Mary Towyn Jones, i fynd i Goleg Prifysgol Cymru, Abertawe, gan raddio yn y Celfyddydau. Graddiodd (Cyffredin) yn BA  mewn Saesneg ac yn Anrhydedd mewn Cymraeg.  Ymhlith ei athrawon yno oedd yr Athro Henry Lewis a Saunders Lewis).

Oddi yno, aeth i Goleg y Presbyteriaid yng Nghaerfyrddin a graddio mewn diwinyddiaeth, cyn derbyn lle yng Ngholeg Regent’s Park, Rhydychen, i barhau gyda’i astudiaethau diwinyddol.  Graddiodd oddi yno gydag M.A. mewn Hanes yr Eglwys / Athroniaeth.  Ei fentor mewn astudiaethau Bedyddiedig oedd Ernest Payne, gŵr eangfrydig, eciwmenaidd, lled-ryddfrydol ei ddiwinyddiaeth. Roedd yn arbenigwr ar fudiad y genhadaeth dramor, ac yn rhoi pwyslais cryf ar addoli a defosiwn.

Roedd Saron, Eglwys y Bedyddwyr Llandybie, yn bwysig iddo, ac roedd yno’n ŵr ifanc  pan roedd yr hynaws Richard Lloyd yn weinidog yno. Ef fedyddiodd Eirwyn ac yn un a fu’n ddylanwad o bwys arno. Gwahoddwyd ef yn ôl i gymryd rhan yng ngyfarfodydd dathlu Jiwbili Capel Saron yn Nhachwedd 1944, ac eto yng nghyfarfodydd dathlu canrif a hanner yr achos  1814-1964.  Roedd ei deulu yn cyfrannu’n sylweddol i fywyd yr eglwys a bu ei dad a’i frodyr yn ddiaconiaid yno yn ystod eu hoes.

Ordeiniwyd Eirwyn Morgan yn weinidog ym Mhisga, Bancffosfelen, yn 1944. Yn ddiddorol, cafodd y gweinidog newydd lety ar aelwyd modryb i’w ddarpar wraig, ac roedd Anti Sarah yn wraig ddefosiynol iawn ac yn weddi-wraig felys a didwyll.  Priododd y gweinidog gyda Mair Jones, merch Ellis ac Esther Ann Jones, aelodau ym Mhisca a ganwyd iddynt ddau o blant sef Dylan a Helga. Bu’r ddau yn ymwneud â byd masnach, Dylan yn llyfrwerthwr yn Llangefni ac yn un o brif leisau yn gwrthwynebu Wylfa B fel un o arweinyddion PAWB (mudiad gwrth niwcliar lleol), a Helga yn gwerthu dillad mewn siopau arbenigol, ym Mangor, Caer a Chaerdydd.

Roedd Bancffosfelen yn ardal a gymhathodd y diwidyant glo a’r cefndir amaethyddol, a daeth y gweinidog ifanc i’w deall a’i gwerthfawrogi’n fuan. Roedd llawer iawn o heddychwyr yn byw ym mhentref Bancffosfelen; roedd mwy o wrthwynebwyr cydwybodol yno nag mewn unman arall yn Sir Gâr; glöwyr oeddent, ac nid pob un ohonynt yn gapelwyr.  Roedd yn bregethwr bywiog a brwdrydig a welai gyswllt amlwg rhwng yr Efengyl a’r gymdeithas leol. Roedd pyllau glo Capel Ifan, Pontyberem a Chynheidre  yn cyflogi llawer, ond roedd llawer o ffermydd yn y cylch hefyd, a nifer o amaethwyr yn aelodau yn yr eglwys. Daeth i werthfawrogi’r bleth gynnes honno. Roedd teulu ei briod wedi ymserchu’n llwyr ynddo, ac fel llawer iawn o’r gymuned ,yn gwerthawrogi y llais newydd a bregethai o bulpud Pisga a bu dylanwad Eirwyn yn drwm ar y fro. Yn ystod y cyfnod hwn y safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Llanelli.  Safodd mewn pedair etholiad yn y dref sef yn etholiadau 1950, 1951, 1955 ac 1959, gyda Trefor Beasley yn asiant iddo.  Cynyddodd ei bleidlais bob tro, gan sefyll ar y tro olaf pan roedd yn weinidog yn Llandudno. Soniai Elwyn Jones, ei frawd yng nghyfraith, iddo yrru ei weinidog i’w gyfarfodydd canfasio gan gynhesu at ei neges wleidyddol.  Safai yn erbyn gŵr o sylwedd amlwg ym mherson Jim Griffiths, un arall o blant ardal Rhydaman.  Er bod yna amrywiaeth barn wleidyddol rhyngddynt, datblygodd y parch a’r cyfeillgarwch yn sylweddol, a byddai’r ddau yn debygol o gytuno ar sawl mater.  Dywedir pryd bynnag y byddai Eirwyn Morgan yn gohebu gyda James Griffiths, a byddai’r A.S. yn siwr o ateb gyda’r troad, mewn Cymraeg coeth gyda sylwadau teg. Nodwyd eisoes fod Eirwyn Morgan wedi bod yn amlwg ei gefnogaeth i Blaid Cymru, ac iddo sefyll bedair gwaith dros y blaid mewn etholiadau yn Llanelli. Edrydd Ben Rees yn ei gofiant am Jim Griffiths, ymgeisydd Llafur yn 1955, i Eirwyn Morgan gyflwyno ei bapurau fel ymgeisydd yn ddwy-ieithog.  Disgrifiai ei hun fel  ‘Gweinidog yr Efengyl / Minister of the Gospel’.  Nid oedd hyn yn dderbyniol i’r awdurdodau a bu gofyn iddo wneud yr ail-dro a hynny yn uniaith Saesneg.  Protestiodd Eirwyn Morgan yn gryf, gyda chefnogaeth lwyr Jim Griffiths, ac o hynny ymlaen roedd y ffurflen ddwyieithog gan yr ymgeisydd yn dderbyniol.  Buddugoliaeth fach ond buddugoliaeth bwysig, gan ddangos fod y ddau, a hannai o’r un fillltir sgwar yn parchu a chydweithio gyda’i gilydd.  Dyma enghraifft hefyd i ddangos ei gefnogaeth i’r iaith Gymraeg yn gyffredinol, a bu’n gefn i’w fyfyrwyr pan roedd protestiadau Cymdeithas yr Iaith yn eu hanterth.

Ar ôl deuddeng mlynedd yn Cwm Gwendraeth, symudodd y teulu i Landudno, lle bu Eirwyn Morgan yn weinidog am ddeuddeng mlynedd arall ar eglwys y Tabernacl, yn y dref.  Tra yn yr ofalaeth hon, bu’n ysgrifennydd Cymanfa Arfon ac yn ddiweddarach yn llywydd iddi. Dywed ei fab Dylan Morgan i’w dad edrych yn ôl ar y cyfnod hwn fel ei amser mwyaf cynhyrchiol fel pregethwr.  Roedd yr Efengyl gymdeithasol yn tyfu yn ei dylanwad, ac yn y cyfnod ar ôl pymtheng mlynedd o gyfyngiadau economaidd yng ngwledydd Ewrop ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Pan gyhoeddodd  y prifweinidog Harold Macmillan “You’ve never had it so good”, roedd  angen lleisiau clir yn cadarnhau cyfrifoldeb y wladwriaeth gyfan i ddarparu tegwch a chyfiawnder ar gyfer pob sector o’r gymdeithas. Prin y gellid fod wedi cael maes gweinidogaethol a fyddai’n gwrthgyferbynnu cymaint â Chwm Gwendraeth.  Dyma oedd cyn-ofalaeth y Parch Lewis Valentine, un o gewri Undeb Bedyddwyr Cymru, a rhagflaenydd Eirwyn Morgan oedd y Parchg Tregeles Williams.  Roedd dylanwad Ernest Payne yn dod yn amlwg ym mywyd cennad y Tabernacl.  Bu hefyd yn llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru yn 1964. Yn 1960-61 bu’n Ysgolor Fulbright ac yn Gymrawd Eciwmenaidd yn Union Theological Seminary, Efrog Newydd.  Tra yno, datblygodd ei gyfeillgarwch gyda Dr. Kenneth Scott Latourette, un a ddaeth i ymweld â chartref Eirwyn Morgan yn ddiweddarach.

Yn 1967 apwyntiwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg Bedyddwyr Bangor ac yn aelod o gyfadran Ddiwinyddol Prifysgol Cymru, Bangor.  Yn 1971, ar ymddeoliad y Parchg G.R.M. Lloyd, apwyntiwyd D. Eirwyn Morgan yn brifathro a bu yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad cynnar yn 1980.  Dioddefodd afiechyd salwch meddwl ac iselder ysbryd yn ystod y cyfnod hwn gan dreulio amser yn Ysbyty Dinbych.   Fel darlithydd byddai yn dangos ffrwyth darllen sylweddol, ac yn cario llu o lyfrau testun a chopiau o’i waith  i mewn i’r ddarlithfa.  Byddai’n trin ei ddisgyblion fel cyfeillion, er byth yn cyfaddawdu ei gyfrifoldeb fel cyfarwyddwr dysg.  Heriai ei ddosbarthiadau i feddwl am y pwnc, a denu trafodaeth wrthrychol ar y testun dan sylw.  Roedd hwyl yn ei ddarlithoedd, ac ymfalchïai yn ei gyfle i osod darpar myfyrwyr ar ben ffordd.  Roedd yn ddarlithydd poblogaidd, ac yn ŵr uchel ei barch gan yr holl fyfyrwyr. Gwasanaethodd yr enwad mewn sawl modd, ac enwebwyd ef i lywyddiaeth yr Undeb ar un achlysur, gan fethu’r anrhydedd ar y bleidlais olaf. Er ei siom, gofynnodd i’r cadeirydd am y cyfle i gynnig yn ffurfiol mae’r gweinidog arall ddylai dderbyn yr anrhydedd gan y gynhadledd.  Gwnaeth hynny gydag urddas a gwyleidd-dra amlwg.

Ni feddai ar dysgysgrif gyrru, er iddo ymroi i dderbyn hyfforddiant ar un adeg.  Byddai’n falch o gael cludiant gyda phwy bynnag fyddai yn teithio i’r un cyfeiriad ag ef. Byddai’n sylwebydd ar ystod eang o bynciau’r dydd ac wrth ei fodd yn rhannu hanes digrif.  Roedd ei hiwmor yn britho i’w wyneb yn gyson, a meddai ar wên gynnes a chyfeillgar.  Os nad oedd cludiant posibl, byddai yn pwyso ar gludiant cyhoeddus neu ofyn i’w briod ei gyrchu.

Pregethai mewn eglwysi niferus ac eglwysi gwan.  Dyna oedd ei bennaf bleser, ac nid oedd wahaniaeth ganddo blethu ei argyhoeddiadau gymdeithasol gyda’i ddaliadau Cristnogol.  Gallai werthfawrogi’n gyhoeddus ei barch a’i werthfawrogiad o Che Guevara wrth gyfeiriad at amgylchiadau’r tlodion mewn gwledydd tramor.  Derbyniai wahoddiadau i bregethu yn uchel wyliau’r eglwysi ac yn hapus i wneud.  Roedd yn yn gyd-enwadwr brwdrydig, ac yn gweld pwysigrwydd i bonito ac adeiladau perthynas agos gyda phob corff Cristnogol.  Roedd am ddangos parch at offeiriaid Pabyddol a’r Eglwys Undodaidd fel eu gilydd.  Cadwai gyswllt agos gyda llu o weinidogion, boed yn lleol neu yn genedlaethol, gana rwydweithio gyda’r cyfeillion hynny a wnaeth yn y colegau lle bu’n astudio.

O blith gweinidogion ail hanner yr ugeinfed ganrif, mae’n anodd meddwl am lawer a fu’n fwy cynhyrchiol nag ef fel llenor, ac eto ond un llyfr sydd o’i waith, sef cyhoeddi ei Ddarlith Pantyfedwen – ‘Bedydd Cred ac Arfer” Tŷ John Penry (1973) . Yn y gwaith hwnnw, gosododd allan y dystiolaeth am ordinhad bedydd oedolion, ac er bod llawer o weinidogion llengar yr enwad wedi cyflwyno llyfrau ar y pwnc dros y blynyddoedd, roedd ymdriniaeth Eirwyn yn glir a chynhwysol, yn gaboledig ac yn gadarn. Cyhoeddodd hefyd yr hyn a alwodd yn llyfryn, a hynny’n cyflwyno hanes William Carey.  Lluniodd hwn yn ystod ei gyfnod sabothol allan yn Efrog Newydd a’i gyhoeddi yn enw Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, gan Wasg Gomer,Llandysul.  Roedd yn heddychwr wrth reddf a bu’n llywydd Cymdeithas Heddychwyr Cymru ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru.

Bu’n gynhyrchiol iawn fel golygydd dau gyhoeddiad o bwys i’w enwad sef Seren Cymru a Seren Gomer.  Bu’n olygydd Seren Cymru rhwng 1960-72 a Seren Gomer rhwng 1975 a 1978.  Roedd ei erthyglau golygyddol. ‘Dyddiadur y Golygydd’ yn llwyfan trafodaeth ar ddigwyddiadau’r byd, drwy sôn am yr hyn a welodd ac a wnaeth, nodai yr hyn roedd wedi ei wneud a’i ddarllen a beth oedd ei ymateb i sefyllfa Cymru.  Roedd y cyfraniadau hyn ar ffurf  dyddiadur personol, ac anodd meddwl am unrhyw un a gyfrannodd yn y modd hwn wrth gyflawni’r gwaith.  Byddai’n ffynhonell werthfawro o sylwadau gonest a chlir ar ddigwydd y dydd, yn wleidyddol, genedlaethol, llenyddol ac enwadol.  Er mwyn dangos mai dyddiadur oedd y golofn, byddai cyfeiriadau at Mair (M), Dylan (D) a Helga (H), a byddai angen crafu pen weithiau i wybod pwy oedd y bobl eraill a gawsai sylw tebyg ganddo.  Fel arall, roedd y wybodaeth yn gyfoes a pherthnasol, cafwyd ychydig o dynnu coes, ond gan amlaf, byddai’n medru canmol a beirniadu gyda’i ysgrifbin.  Ysgrifennai ar faterion o bwys: megis gwleidyddiaeth, yr efengyl gymdeithasol, ecimwniaeth, enwad y Bedyddwyr; emynyddiaeth; heddydiaeth.  Erbyn 1977 roedd natur ei salwch wedi gwaethygu a bu’n rhaid ildio’r awennau. Bu ar fwrdd golygyddol Seren Gomer am flynyddoedd cyn hynny, yn y cyfnod pan roedd Lewis Valentine yn olygydd.    Yn ystod ei olygyddiaeth, roedd ei bwyslais yn adeiladol ei amcan a radicalaidd ei ogwydd a’i natur.  Cyfrannodd i gyhoeddiadau eraill hefyd, a bu’n olygydd cwbl anhunaol ar Y Ddraig Goch  ac yn drefnydd mewn etholiadau ym Mangor, gan annog ei fyfyrwyr i glercio yn y canolfannau pleidleisio.  Roedd ei heddychiaeth yn greiddiol iddo, a gwasanaethu fel swyddog Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru am flynyddoedd.

Un o’i ddiddordebau pennaf oedd emynyddiaeth, a chyfieithodd nifer o emynau o’r Saesneg.  Cyd-olygodd casgliad o emynau ar y cyd â John Hughes, Dolgellau.  Casgliad dwy-ieithog oedd Mawl yr Ifanc, ac Eirwyn Morgan oedd yn gyfrifol am yr ochr lenyddol a John Hughes am yr ochr gerddorol. Dywed ei fab bod mynyddoedd o bapur ar eu bwrdd ar yr aelwyd, gyda John Hughes ac yntau yn gweithio drwyddynt.   Ceir 13 o gyfieithiadau emynau Eirwyn Morgan ei hun ynddo.  Ceir llawer o ganu ar ei gyfieithiad o emyn y Tad Andrew a gyfansoddwyd yn 1918, O dearest Lord, thy sacred head With thorns was pierced for me;  a cyfieithiad Eirwyn Morgan yw  Anwylaf Grist, dy sanctaidd ben dan ddrain fu drosof fi.  Byddai’n ddiddorol gwybod dyddiad y cyfieithiadau hyn, oherwydd tybir iddo gyfieithu ar gyfer y gyfrol, a hynny er mwyn llenwi bylchau mewn adrannau o’r gwaith. Ef oedd un o syflaenwyr Cymdeithas Emynau Cymru a hefyd yr ysgrifennydd cyntaf. Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1967 yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Bala. Ceir tri o’i gyfieithiadau yn Caneuon Ffydd, sef Crist sydd yn Frenin, llawenhawn (CFf 351), Arglwydd pob gobaith ac Arglwydd pob hoen (CFf 394) ac Anwylaf Grist, dy sanctaidd ben.

Roedd i Eirwyn Morgan, fel llawer un arall, ddeuoliaeth rhyfeddol, rhwng bod yn hyderus ac yn ddihyder, yn gyhoeddus ac yn dawel.  Nid oedd yn ofni’r frwydr, ac eto roedd yn encilio o’r byd hefyd. Safodd yn gadarn yn erbyn y blaid Lafur yn Llanelli, er ei fod yn fab i löwr ac yn gwerthfawrogi deiliad y sedd ym mherson James Griffiths, gan ei fod yn unplyg ei farn bod neges Plaid Cymru yn benodol ac yn rhesymol.  Sefyll o blaid egwyddorion sylfaenol a wnai, ac yn ymroddedig i’r dasg. Bu’n awdur torreth o erthyglau gan lefaru’n glir ac yn eofn, ond ni chyhoeddodd lyfrau ei hun, ac eithrio’r Darlith Pantyfedwen a’r cyfraniad am William Carey.  Yn ei gyfraniad yn cofio Eirwyn Morgan ym Mlwyddiadur yr enwad dywedodd Ifor Llwyd Williams, ei gyfaill a’i weinidog

ni fodlonai ef ar goleddu syniadau yn unig, ond yr oedd bob amser yn barod i weithredu’n wrol ac egnïol yr hyn a gredai.  Roedd ar flaen y gad i hyrwyddo’r frwydr dros yr iaith Gymraeg  a’i diwylliant. Ym marwolaeth Eirwyn Morgan rydym wedi colli un o gymeriadau gloÿwaf ein hoes.”

Bu farw ar Awst 30, 1982, pan roedd llawer o weinidogion ar eu gwyliau.  Prin bod unrhyw gyfiawnder wedi bod i werthfawrogi bywyd un o fechgyn mwyaf goleuedig a blaengar ei ddydd.  Byddai’n waith ymchwil gwerthfawr i rhywun i gribino ei ysgrifau mewn amrywiol gyhoeddiadau a’i erthyglau golygyddol yn Seren Cymru, Seren Gomer y Ddraig Goch a llawer o gyhoeddiadau eraill.  Diolch am y fraint o’i adnabod ac am fod yn un o’r ychydig a gafodd ei ordeinio ganddo.

Cyhoeddiadau:

Ddarlith Pantyfedwen – ‘Bedydd Cred ac Arfer” Tŷ John Penry (1973)

‘Mawr yr Ifanc’ – cyd-olygydd gyda John Hughes Cyhoeddwyd gan Undeb Bedyddwyr Cymru  Gwasg Ilston. 1970

‘William Carey’.   Cyhoeddwyd gan Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr  Gwasg Gomer, Llandysil.

 

Cyfrannwyr:  Dylan Morgan, Denzil Ieuan John.

Erthyglau amdano

Bywgraffiadur Cymreig:   awdur D. Hugh Matthews