Mathias – Alun (1925 – 2006)

Alun MathiasUn a ddaeth yn hwyr i’r Weinidogaeth oedd Alun Mathias. Ysgolfeistr yn Sir Benfo oedd cyn iddo ef a’i wraig Irene a’r ferch Ann symud i Essex yn gynnar yn y 1970s. Sumudodd i ddysgu yn Romford ac ymaelododd y teulu yn eglwys y Bedyddwyr yn Hornchurch a chyn hir fe’i etholwyd yn ddiacon yno. Roedd yn ddiacon ac yn ysgrifennydd Seion Tyddewi cyn symud i Hornchurch.

Un o blant Tŷddewi ydoedd. Yno y’i ganwyd; yno y cafodd ei addysg gynnar, ac yn ôl yno y dychwelodd i ddysgu yn Ysgol Ramadeg Tŷddewi wedi iddo gael hyfforddiant fel athro celf a chwaraeon yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Priododd ag Irene Lloyd, Annibynwraig  o gyffiniau Aberteifi.

Er yn rhoi cant-y-cant fel aelod yn Castle Street, roedd gan Alun hefyd amser i ddilyn ei ddiddordeb yn chwareuon yr ieuenctid. Mae’n debyg mai ef yw’r unig weinidog ymhlith Bedyddwyr Cymru allai ymffrostio iddo weithredu un tro fel reffarî mewn gêm Cwpan pêldroed i fechgyn ysgol ar y Vetch yn Abertawe ac ar ôl hynny yn Stadiwm Wembley.

Wedi rhai blynyddoedd yn weithgar yn yr eglwys yn Hornchurch, cafodd Alun swydd pennaeth yr ysgol ganol yn  Southall, a symudodd y teulu i fyw yn Harrow, gan ymaelodi yn Castle Street. Sylweddolodd yr eglwys ar unwaith cymaint o gaffaeliad fyddai’r teulu hwn i’r gymdeithas yn Castle Street, a chyn pen dim amser roedd Alun wedi ei ethol yn ddiacon.

Cofrestrodd i wneud cwrs Pregethwyr Cynorthwyol Undeb Bedyddwyr Cymru, ac wedi llwyddo yn hwnnw yn 1980 aeth ymlaen yn syth i gwblhau Cwrs yr Undeb i Weinidogion). Llwyddodd eto, ac ym mis Tachwedd 1982, fe’i ordeiniwyd i waith y weinidogaeth gan y Parchg Islwyn Davies, Ysgrifennydd yr Undeb, mewn gwasanaeth yn Castle Street. Yr oedd eisoes wedi derbyn galwad i weinidogaethu yng Nghalfaria Clydach ac fe’i sefydlwyd yn weinidog yr eglwys yn Ebrill 1983, gan ychwanegu Bethania, yr eglwys Saesneg, at ei ofalaeth yn ddiweddarach.

Gyda chefnogaeth a chyfraniad pwysig Irene, treuliodd y deuddeng mlynedd nesaf – yr hapusaf yn ei fywyd, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun – yn weinidog y Bedyddwyr yng Nghlydach. Roedd yn weithiwr diflino ac yn fugail tra gofalus a gwelwyd cryn lwyddiant i’w ymdrechion. Croesawodd Gyfarfodydd Blynyddol yr Undeb i Galfaria pan oedd ei gyfaill, J.S.Williams, yn llywydd, a gwelodd ddau o’i bobl ifainc yn ymgeiswyr am y weinidogaeth.

Pan ymddeolodd yn 1995, dychwelodd ef ac Irene i Dŷddewi, i’r cartref yno a gadwyd ganddynt ar hyd y blynyddoedd. Parhaodd i bregethu am gyfnod ond dirywiodd ei iechyd, ac wedi cystudd hir ac anodd, bu farw ar Sadwrn, 16 Medi 2006, gan adael Irene ac Ann a dau o ŵyrion a gor-ŵyr mewn galar ar ei ôl. Bu’r arwyl yn yr Amlosgfa yn Arberth ar 22 Medi 2006.