Davies – Hugh (1913 – 1987)

Ganwyd Hugh Davies yn Llangennech, Llanelli ym 1913 yn un o ddau o blant i David John a Margaret Ann Davies (sef chwaer y Parchg Harding Rees).   Bu’n weithgar yn Ysgol Sul, Salem yr Allt, ar gyrion pentre’ Llangennech, cyn ei dderbyn yn aelod gan y Parchg Alfred Morris yn Salem, Llangennech.  Ei brifathro yn yr ysgol leol oedd J.J.Hughes (Peredur) a oedd hefyd yn aelod yn Salem.   Wrth iddo ymuno yn y gweithgarwch yn Salem teimlodd yr alwad i’r weinidogaeth ac aeth i Goleg Myrddin, coleg paratoadol yng Nghaerfyrddin,  ac yna i Goleg yr enwad ym Mangor.

Maes cyntaf Hugh yn y weinidogaeth oedd yn Salim y Bala a Llanuwchllyn lle bu o Ragfyr 3ydd 1940 tan 1943.  Llywyddwyd yn y Cyfarfodydd Ordeinio gan y Parchg J H Hughes, Dinbych ac yn y Cyfarfod Ordeinio a Sefydlu gan y Parchg D.Wyre Lewis, Y Rhos.   Pregethwyd gan y Parchedigion T H Prosser, y Rhos; Idris Thomas, Cefn Mawr ac E. Cefni Jones, Bangor.  Traddodwyd y Bregeth Siars gan y Prifathro J. T. Evans, Coleg Bangor.  Oddi yno derbyniodd Hugh alwad i eglwysi Machynlleth a Thalywern yn Nhachwedd 1943 lle bu tan 1947.   Treuliodd bedair blynedd pellach yn weinidog ar eglwys Moreia, Tonypandy, tan 1951.  Yna, ar y 5ed o Ebrill 1951 sefydlwyd ef yn weinidog ar Eglwys y Woodlands, Penbedw, ac yno y bu tan iddo ymadael â’r weinidogaeth ym 1957 gan gymryd swydd fel athro Ysgrythur mewn ysgol uwchradd yn Nottingham.  Ymddeolodd o’r swydd honno ymhen y rhawg gan symud, gyda’i wraig, Eunice a’i bedwar o blant, Hywel, Menna, Nerys ac Iwan, i fyw i Ruddlan.  Bu farw ar Fehefin 27ain 1987, a chladdwyd ei weddillion yn ôl yn Salem, Llangennech.

Gŵr tawel, preifat a chydwybodol iawn oedd Hugh.  Y tu allan i’w waith, ei brif ddiddordebau oedd dilyn hynt tîmau rygbi Cymru a garddio.

Cyfrannwr: D. Gwenallt Rees.