Davies – G. Dafydd (1922-2017)

Brodor o Gastellnewydd Emlyn oedd Dafydd Gwilym Davies a aned ar 1 Gorffennaf 1922, yn fab i’r Parchg Clement Davies a Gwen, ei wraig. Ar ôl addysg uwchradd yn Ysgol y Sir Aberteifi, aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, fel yr oedd y pryd hynny, er mwn astudio am radd mewn Economeg, ond buan y troes at y Clasuron. Blynyddoedd y rhyfel oedd y rhain, ac ynghyd â chyfoeswyr disglair fel Meredydd Evans, R. Tudur Jones ac Islwyn Ffowc Elis, bu’n flaenllaw mewn gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol  – a chwaraeon – a’i ethol yn 1946 yn Llywydd y Myfyrwyr. Roedd ef eisoes wedi ymglywed â galwad i’r weinidogaeth, ac yn dilyn hyfforddiant yng Ngholeg y Bedyddwyr Bangor gan raddio mewn Diwinyddiaeth y tro hwn, aeth i Goleg Mansfield, Rhydychen, i ddilyn cwrs ymchwil yn y Testament Newydd. Dychwelodd i’r Gogledd yn 1952 a’i ordeinio yn weinidog ar eglwysi Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf ar Ynys Môn. Erbyn hynny roedd yn briod â Kitty Jones, hithau yn un o ferched dinas Bangor.

Yn 1955 penodwyd Dafydd Davies yn athro’r Testament Newydd yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd. Roedd yn un o dri ar y staff, bob un ohonynt yn Gymro Cymraeg. Trwy weddill y pumdegau a’r chwedegau ar eu hyd, canolbwyntiodd ar hyfforddi darpar weinidogion gan wasanaethu hefyd ar banel cyfieithu’r Beibl Cymraeg Newydd. Yn ystod y cyfnod hwn ganed Gwen a Megan, yr efeilliaid, a Gwilym, a ordeiniwyd yntau maes o law, fel ei dad a daid o’i flaen, yn weinidog Bedyddiedig.  Yn 1970 fe’i dyrchafwyd yn brifathro, ac i’w ran ef daeth y cyfrifoldeb o lywio’r Coleg mewn cyfnod o newid mawr. Er gwaethaf y trai yn nifer ymgeiswyr am y weinidogaeth, denwyd mwy a mwy o fyfyrwyr o’r tu allan i Gymru, o Loegr a thu hwnt. Gwnaeth gysylltiadau pwysig â Phrifysgol Campbell yng Ngogledd Carolina, a threfnu cynllun o gyfnewid myfyrwyr a staff rhwng y ddau sefydliad â’i gilydd. Anrhydeddwyd ef â gradd D Litt o Campbell yn 1980. Er sicrhau trwy amryw gynlluniau fod y Coleg ar seiliau ariannol ac academaidd cadarn, gofid cynyddol iddo oedd prinder yr ymgeiswyr gweinidogaethol o blith yr eglwysi Cymraeg. Erbyn iddo ymddeol yn 1985, daethai’r Coleg i wasanaethu eglwysi Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr fwy lawer na’r undeb cyfatebol yng Nghymru, ac ef bellach oedd yr unig Gymro Cymraeg ar y staff.

Pregethu, a magu pregethwyr, yn fwy na chyfrannu at ysgolheictod ffurfiol oedd ei forte, er i’w esboniad ar y Lythyr at y Rhufeiniaid Dod a Bod yn Gristion (1984) a’i gyfrol Canon y Testament Newydd, ei Ffurfiad a’i Genadwri (1986) ddangos ei fedrusrwydd diamheuol ym maes astudiaethau Beiblaidd. Bu’n llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1986, a’i anerchiad ‘Galwad y Gair’ yn mynegi yn daer yr angen am adnewyddiad ysbrydol trwyadl ymhlith yr eglwysi. Yr un oedd ei genadwri ar hyd ei flwyddyn lywyddol, ac o’r flwyddyn honno y gellid mesur y difrifoldeb crefyddol newydd a ddaeth i nodweddu tystiolaeth y Bedyddwyr Cymraeg. Bu’n gymedrolwr, a chyn galw gweinidog llawn amser, yn weinidog cynorthwyol ar Eglwys Tonyfelin, Caerffili, yn y nawdegau. Yno y bu ef a Kitty (a fu farw yn 2005) yn aelodau ar ôl ymddeol o’r brifathrawiaeth.

Gŵr teulu a gŵr ei enwad oedd Dafydd Davies, un siriol a siaradus, yn fawr ei ddiddordeb mewn chwaraeon o bob math ac yn y byd o’i gwmpas. Roedd mor falch o gwmnïaeth ei dri plentyn sef Gwilym, Megan a Gwen, a’u cymheiriaid a’u teuluoedd hwythau.  Bu farw yn dawel ar 13 Rhagfyr 2017, yn 95 oed. Cynhaliwyd yr oedfa goffa yng Nghapel Tonyfelin o dan arweiniad ei weinidog, y Parchg Milton Jenkins, ar 2 Ionawr 2018.

Cyfrannwr:  D. Densil Morgan