Ganwyd Jonathan Salisbury Davies yn Nhŷ yr Ardd, Carrog, ger Corwen yn ail fab i Edward Salisbury Davies (1852-1934) a’i wraig Mary, wyres Eos Iâl, awdur y garol “Ar gyfer heddiw’r bore’. Mynychodd Ysgol Gynradd Carrog pan yn 6 oed, a gadael yn 11 oed i weini ar fferm cyd-Fedyddwyr yn Penybont, Carrog, ond ymhen amser, ymdeimlodd a’r alwad i’r weinidogaeth. Am bedwar o’r gloch y bore, byddai ei fam yn tynnu edau oedd wedi ei glymu i’w goban a’i ddeffro i astudio cyn mynd i Ysgol Ramadeg Porthaethwy a Choleg Myrddin, Caerfyrddin. Yn 1903 mynychodd Goleg y Bedyddwyr Bangor gan aros yno am dair blynedd. Ordeiniwyd ef yn eglwys y Goedwig, Wdig yn Awst 1906 a threuliodd bum mlynedd yno. Yn ystod ei gyfnod yn Wdig, priododd Mary Harris o Gaerfyrddin ar ddiwrnod olaf mis Hydref 1906, a’i gyfeiriad oedd Swansea House, Goodwick. Cawsant dri o blant sef Lily, Islwyn a May. Claddwyd Islwyn ym Mhatagonia yn 1964. Priododd May gyda’r Parch Edgar Owen Jones a oedd yn weinidog ym Mhontrhydfendigaid cyn symud i Bontlliw.
Ym mis Hydref 1921 derbyniodd alwad i eglwysi Blaenffos a Seion Crymych gan ddilyn y Parchg Aaron Morgan, a fu yno am 28 mlynedd. Bu dathlu mawr pan ddathlodd J. S. Davies chwarter canrif yn yr ofalaeth hon. Ar y dde, mae llun ohono yn bedyddio ym Mlaenffos yn y 1940au.
Lluniwyd y gerdd syml yma iddo gan ei frawd J.S.Davies
A gaf finnau nawr, gyfeillion
Ddyfod ar fy stori fach,
Am yr achos yn ddiragrith
Dros roi tysteb i’r gŵr bach.
Mae’n ymorol ers deugain mlynedd
I bregethu heb ddim stop,
Erbyn hyn y mae yn artist
Wedi dod i’r ‘very top’.
Treuliodd Aaron wyth ar hugain
O flynyddoedd ym Mlaenffos –
Chwarae teg i Mr Davies
Mae’n ei ddilyn ef yn glos.
Pump ar hugain wedi treulio
O wasanaeth ffyddlon iawn,
Arhoswch pump ar hugain arall
Eich anrhegu eto wnawn.
Os yw’r defaid yn eich blino
Peidiwch hido, fugail mwyn;
Mi ofynnaf iddynt drosoch
Cymryd siampl gan yr ŵyn.
Bu farw J.S.Davies ar Hydref 30, 1948. Cynhaliwyd ei angladd ar 3 Tachwedd
Cyfrannwr: Buddug Medi