Davies – Melville Harry (1922-2012)

 

Gŵr gwylaidd a llawen ei wedd oedd Melville Harry Davies ar hyd ei oes, ac yn sôn yn gyson am ei fagwraeth yn Llwynhendy.  Roedd o hyd yn mwynhau cwmni ei gyd-weinidogion, ac yn arbennig y sawl a oedd yn gyfoedion ym more oes.  Er iddo gael ei fagu yn Llwynhendy, roedd ei rieni, Rees a Harriet Davies, yn byw yn y Bynea pan anwyd Melville.  Gweithiai Rees yn nglofa’r Morlais ac fe ddioddefodd ddamwain greulon yno, ac yn ôl tystiolaeth Mel, ni chafodd ei dad iawndal am y niwed a ddioddefodd.  Cafodd waith yng Nglofa Brynlliw, er nid yn gweithio ar y ffâs.

Cafodd Melville ei addysg gynnar yn Ygol Gynradd Bynea ac addysg Uwchradd yn Llanelli.  Roedd wrth ei fodd gydag ystod eang o bynciau ond dywed iddo gael blas arbennig ar Fathemateg a Llenyddiaeth Saesneg.  Mynychai eglwys ei fam yn Soar, Llwynhendy, ac yno cafodd ei fedyddio a’i dderbyn yn aelod gan y Parchg T. Ellis Jones, ei dad yn y ffydd.  Ymunodd â chôr yr eglwys a mwynheai wrando ar bregethwyr o bob math.  Byddai yn cael hwyl yn efelychu’r pregethwyr hyn a pha ryfedd i aelodau Soar dybied y byddai un dydd yn weinidog ei hun.

Ac yntau ond yn ddwy ar bymtheg oed, cafodd swydd yn gweithio i’r Great Western Railway, a byw yn Neyland yn Ne Sir Benfro.  Yno y cyfarfu ag Enid, merch un o’i gydweithwyr ar staff y G.W.R. ac a fyddai ymhen amser yn briod iddo.  Tarfu’r Ail Ryfel Byd ar ei gynlluniau a bu’n rhaid iddo gofrestru gyda’r fyddin a gwasanaethu gyda’r Royal Engineers yn yr Eidal a Gogledd Affrica. Derbyniodd ganmoliaeth am ei wasanaeth fel milwr, hyd nes iddo gael troedigaeth ysbrydol ac ymwrthod â’r peiriant milwrol.  Golygodd hyn iddo gael ei garcharu am gyfnod. Oherwydd ymyrraeth y Commander Mervyn Jones, a ddaeth yn gyfaill oes iddo, rhyddhawyd ef o’r carchar a gwasanaethodd yn adran y caplaniaid. Rhoddwyd caniatad i Melville bregethu yn yr oedfaon a sefydlodd dwy eglwys ymhlith y milwyr yn y cyfnod hwn .

Ar ôl dychwelyd o’r Fyddin, ymgeisiodd am le yng Ngholeg y Bedyddwyr Bangor, ac yno cafodd ei hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth. Cafodd ei ordeinio a’i sefydlu yn weinidog yn  eglwys Salem, Cwmparc, yn 1952, a dyna’r flwyddyn y bu iddo yntau ac Enid briodi.  Bu’n ddiddig yn ei faes cyntaf a chyfeiriwyd ato’n annwyl gan aelodau’r eglwys am flynyddoedd lawer.  Yno ganwyd Gwennant eu mab yn 1954 a bu ei brofiad cyntaf o’r weinidogaeth ynghanol bwrlwm eglwysi’r Rhondda Fawr, pan roedd parch i’r weinidogaeth a ffyddlondeb i fywyd eglwys.  Daeth tro ar fyd yn y cymoedd o fewn degawd ond erbyn 1958 roedd Melville a’i deulu wedi symud yn ôl i Sir Gaerfyrddin a’i sefydlu’n weinidog yn y Tabernacl, Porth Tywyn ble ganed eu merch Ann.  Bu Melville yn ffyddlon i’r eglwys hon weddill ei oes.  Roedd cyfrifoldeb pregethu a bugeilio’r eglwys yn bwysig iddo, a gwerthfawrogwyd ei gyfeillgarwch  diffuant, gan bobl oddi fewn ac oddi allan i’r eglwys. Cafodd flas ar bob agwedd o fywyd yr eglwys, ac roedd yn gyfforddus yn eu plith. Roedd y Cwrdd Gweddi yn bwysig iddo, a byddai’n annog pobl i fanteisio ar y cyfarfodydd defosiynnol hyn. Mwynheai weithio gyda phobl ifanc, ac os byddai gradd o amheuaeth ganddynt, ei her gyson fyddai ar i’r ifanc brofi bod dygeidiaeth y Beibl yn amherthnasol. Arweiniodd Enid ac yntau daith i Oberammergau, Awstria, yn 1970, gydag aelodau’r eglwys a phobl y fro yn teithio gyda hwy a mwynhau’r profiad. Roedd dolen arbennig rhyngddo â John Young, un a gafodd brofiadau tebyg tra yn gwasanaethu fel milwyr yn y Dwyrain Canol a’r Eidal, a bechgyn a brofodd sefyllfaoedd tebyg.  Bu’n gydweithiwr parod gyda gweinidogion o enwadau eraill, yn arbennig yn Mhorth Tywyn.  Yn 1973, daeth tristwch dwfn i’w ran, pan bu farw ei briod Enid a hithau’n dal i fod yn wraig ifanc weithgar.   Roedd y plant bellach yn eu harddegau, a bu Melvillle yn ffyddlon a hynod ofalus ohonynt.

Yn 1990, dechreuodd pennod newydd yn hanes Melville, pan briododd Lettice John, ysgrifenyddes y Tabernacl, a’r naill yn gymar delfrydol i’r llall.  Byddent yn selog wrth gydweithio  ym mywyd yr eglwys, ac yn selog i gyfarfodydd y Gymanfa ac i’r Undeb. Yn anffodus gwaelodd iechyd y ddau ac yn arbennig iechyd Lettice.  Bu Melville yn ofalus iawn ohoni ond erbyn 2010, roedd ei iechyd yntau wedi dirywio hefyd ac ymddeolodd o’i gyfrifoldeb fel gweinidog.  Bellach roedd angen gofal dwys ar y ddau, a buont mewn ysbytai yn ceisio gwellhad.  Bu Lettice farw tra roedd Melville yn yr ysbyty, a threuliodd y gŵr addfwyn hwn gyfnod olaf ei fywyd yng ghartref gofal Llys y Tywysog ym Mhengelli.

Roedd gan Melville fôr o lais, ac ni fyddai angen meicraffôn arno.  Roedd ei bregethau yn Grist ganolog gyda neges foesol iddi.  Prin y byddai yn dyfynnu llawer o weithiau pobl eraill.  Byddai’n falch o ddefnyddio hanesyn cofiadwy a fyddai’n egluro’i neges.  Nid diwinydd academaidd mohono, ond cyfathrebwr effeithiol a diddorol gyda’i gynulleidfa.

Cefnogodd y Gymanfa a’r Undeb yn selog, a gwahoddwyd ef i wasanaethu fel llywydd Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion yn 1981.  Testun ei anerchiad fel llywydd oedd ‘Rhwydau’, gan ddefnyddio’r ddelwedd a nodweddai bywyd ei faes gweinidogaethol ym Mhorth Tywyn, i waith yr eglwys lydan. Cofnodir iddo ymdrechu i ddwyn pobl o bob enwad ynghyd a byddai’n ddigon llygatcraff i blethu crefyddau at ei gilydd mewn gweithgareddau cyfaddas, pan roedd hynny’n bosibl.

Gwasanaethodd Melville ar nifer o bwyllgorau’r enwad, ac yn arbennig ar y pwyllgorau ariannol.  Bu’n gefnogwr ffyddlon i bob gweinidog a gwelodd yn arbennig bwysigrwydd cefnogi gweinidogion ifanc yn dechrau ar eu gwaith. Arwahan i’w aelwyd a’r capel, roedd yn ddyn ei gymuned, ac yn ganolog i weithgareddau Cymrodorion yr ardal.  Byddai’n reddfol yn ymddiddori ym mywydau pobl, beth bynnag eu hymlyniad enwadol, a chydnabuwyd ei gefnogaeth i lawer yn y fro, nad oedd yn ymwneud a chrefydd o gwbl. Byddai wrth ei fodd yn gwylio rygbi, ac yn selog ym Mharc y Strade, gan gefnogi’r tîm lleol bob amser.  Bu’n chwarae rygbi yn ystod ei gyfnod yn y fyddin, ac yn ddiweddarach cafodd flas ar griced a golff.  Chwareai golff yng nghlwb Ashburnham ac yn gyson yno ymhell i’w 80au. Byddai’n ddigon ystwyth ar hyd ei oes ac yn ddigon heini i redeg pan roedd gofyn am hynny. Manteisiodd ar ganolfannau gwyliau megis Butlins a charafanio’n llawen.  Yn hwyrach yn ei fywyd, teithiodd i rannau o Ewrop a Chanada, a mywnhau’r cyfle i weld gwledydd gwahanol.  Mwynheai wrando ar gerddoriaeth ar hyd ei oes, ac yn arbennig gweithio operatig.

Bendithiwyd ef a sgiliau gwaith coed, ac roedd yn ŵr ymarferol gyda’i ddwylo. Gallai greu rhywbeth defnyddiol gydag amrywiaeth o ddefnyddiau, ac yn reddfol am drwsio beth bynnag a oedd wedi torri. Cafodd hwyl fel garddwr, ac adeiladodd dŷ gwydr a chodi  cnydau sylweddol o ffrwythau a llysiau. Gwerthfawrogai farddoniaeth, ac yn arbennig ddawn y cynganeddwr i gyfleu llun a chyflwyno portread effeithiol. Mynychai yr Eisteddfod Genedlaethol yn selog, ac os nad oedd hynny’n bosibl, byddai’n gwylio Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol ar y teledu.  Nodir iddo, yng nghwmni gweinidogion  eraill y fro, gynnal Noson Lawen ar Nos Galan am gyfnod, ar gyfer y trigolion lleol yn neuadd Eglwys Pembre, ac yntau wrth ei fodd yn actio rhannau mewn sgetsys digrif.   Gŵr felly oedd wrth reddf.

Mewn ysgrif ar ddiwedd oes Melville, ysgrifennodd Geraint Puw, ysgrifennydd yr eglwys air diffuant o werthfawrogiad amdano a nodi ei fod ‘yma o hyd’, drwy bob anhawster a cholled, ac iddo fod yn selog i Grist a’i deyrnas Ef.

 

Cyfrannwyr:

Ann Williams

Gwennant Davies

Geraint Puw

Denzil John