Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn cael ei wasanaethu gan griw o ymddiriedolwyr o bob cwr o’r wlad sy’n goruchwylio ein gwaith. Rydym yn chwilio am ddau ymddiriedolwr newydd – o ba bynnag oedran neu gefndir. Y cymhwysiad pwysica yw eich bod yn dymuno gwasanaethu’r eglwys!
Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am yr Undeb, a gwylio fideo hirach am gyfrifoldebau ein hymddiriedolwyr yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwasanaethu ac yn agored i gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi ebostio judith@ubc.cymru.