Am 75 mlynedd bellach, mae chwiorydd yng Nghrist yng Nghymru wedi uno mewn gweddi ar gyfer Dydd Gweddi Chwiorydd Bedyddwyr y Byd. Mae hi’n anrhydedd i ni allu adeiladu ar yr etifeddiaeth honno ar y 3ydd o Dachwedd wrth i nifer o fenywod ddod at ei gilydd unwaith eto ar draws y byd i weddïo mewn cartrefi, eglwysi a chymunedau…
Thema Diwrnod Gweddi 2025 yw “Byw y Newyddion Da”, thema sydd wedi’i ysbrydoli gan Luc 4:18-19: “Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f’eneinio i bregethu’r newydd da i dlodion. Y mae wedi f’anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig gerdded yn rhydd, i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.”
Trefnir Dydd Gweddi Chwiorydd Bedyddwyr y Byd gan Gynghrair Menywod Bedyddwyr y Byd – rhwydwaith o chwiorydd Bedyddiedig sydd yn gwasanaethu ar draws 7 o undeb cyfandirol mewn mwy na 150 o wledydd a thiriogaethau, i gyd wedi uno yn eu galwad i wneud gwahaniaeth yn y byd dros Grist.

Gwelir adnoddau isod y gellir eu defnyddio wrth drefnu cyfarfodydd i farcio’r Dydd Gweddi.
Diolch i Elen Lansdown a Nia Llwyd o eglwys Emaus, Bangor am gyfieithu ac addasu’r oedfa i’r Gymraeg.