Rydym yn chwilio am Ymddiriedolwyr!

Ymunwch â’r Trawsnewidiad Cenhadol i Fedyddwyr Cymru!

Ydych chi’n angerddol dros neges yr Iesu a chenhadaeth arloesol?

Mae Cymanfaoedd Undeb Bedyddwyr Cymru yn chwilio am unigolion i wasanaethu fel ymddiriedolwyr ar gyfer y pedwar CIO rhanbarthol newydd er mwyn dwyn gobaith yr efengyl i bob cymuned yng Nghymru.

Mae hyn yn gyfle unigryw i:

  • Llunio a chefnogi prosiectau cenhadol ac eglwysig mewn cyd-destunau amrywiol
  • Meithrin arweinwyr newydd, buddsoddi mewn datblygiadau cenhadol newydd
  • Rheoli adnoddau hanfodol er mwyn buddsoddi yn nyfodol hirdymor y ffydd Gristnogol.
  • Arwain yn strategol ac yn gydweithredol fel rhan o dîm arloesi ar gyfer y bennod nesaf ym mywyd Bedyddwyr Cymru

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â:

  • Calon dros genhadaeth ac ymrwymiad i’r achos Feyddiedig
  • Gweledigaeth strategol a’r gallu i weld posibiliadau newydd ar gyfer y weinidogaeth
  • Sgiliau neu brofiad arbenigol mewn arweinyddiaeth, cyllid, gwybodaeth gyfreithiol neu brofiad gweinidogaethol
  • Cywirdeb, atebolrwydd, didwylledd

Eisiau gwybod mwy?

Wedi llawer o weddi, trin a thrafod, rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod y broses recriwtio ymddiriedolwyr bellach ar waith

Os ydych chi’n teimlo bod Duw yn eich galw chi i fod yn rhan o’r datblygiad cyffrous hwn  – byddem yn awyddus iawn i glywed gennych. Cewch fwy o wybodaeth am y rôl ynghyd a chyfarwyddiadau ar sut i ymgeisio yn y pecyn recriwtio isod:

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2026: Caerdydd

Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â chyfarfodydd blynyddol yr Undeb o’r 18fed i’r 21ain o fis Mehefin eleni, yn y Tabernacl, Caerdydd! Mae pedwar diwrnod o gyfarfodydd,

Darllen mwy »

Diolch i Judith!

Mae Cyngor Unedig Undeb Bedyddwyr Cymru yn croesawu’r cyfle i ddiolch yn ffurfiol i’r Parchedig Judith Morris am ei gwasanaeth rhagorol fel Ysgrifennydd Cyffredinol UBC…

Darllen mwy »