Dyma Tudor a Nicola Thomas-Botwood yn rhannu eu taith o fod yn deithwyr aml-wladol i fod yn weinidogion yng nghymuned Llidiart-y-waen ger Rhaeader Gwy. Clywn am sut y maent wedi gweld Duw ar waith yn y cymunedau o’u cwmpas…
“Fu erioed wahaniad yma rhwng yr eglwys a’r gymuned – mae llawer o bobl yn aelodau craidd o’r ddwy!”
Ar ôl taith bywyd hir a rhyngwladol, mae Duw wedi arwain Tudor a Nicola Botwood yn ôl i gymuned wledig Llidiart-y-waen ger Rhaeadr Gwy yng Nghanolbarth Cymru. Ac wrth iddyn nhw a’r eglwys weddïo ynghylch y camau nesaf yn eu rhan nhw o’r wlad, mae’n ymddangos bod y gair ‘cymuned’ wrth galon y peth…
Galwad yn ôl
“Ces i fy magu yn yr ardal hon mewn teulu amaethyddol,” eglura Tudor, “ond roedd ein gyrfaoedd mewn caplaniaeth gyda’r fyddin wedi mynd â Nicola a minnau i bob cwr.” Pan gafodd ei fam ddamwain tua diwedd cyfnod Covid, daeth yn amlwg bod angen iddynt ddod o hyd i ffyrdd i’w chefnogi trwy fyw yn agosach iddi. Fel mae’n digwydd, roedd gofalaeth gyntaf Tudor ddegawdau cyn hynny wedi cynnwys Beulah, Llidiart-y-waen, a phan glywodd yr eglwys am y symudiad gwahoddwyd Nicola i gymryd oedfaon.
“Cyn hir roedd yr eglwys eisiau sgwrs gyda ni am weinidogaeth ar y cyd – ac roedd yn rhaid i ni ddweud wrthyn nhw nad oeddem yn barod am hynny eto,” meddai Nicola gan chwerthin. “A dyma nhw’n dweud – ‘rhowch wybod pan fyddwch chi te!'”
Yn y pen draw, daethant i gytundeb â’r eglwys fach wledig hon, a chanddi ddeuddeg o aelodau, i ymroi fel cwpl i weinidogaeth ran-amser ar y cyd.
Cymuned wledig
“Mae’r ardal wedi newid yn gyflymach nag arfer ers cyfnod Covid,” eglura Tudor, “mae gyda ni bobl yn y cylch nawr sy’n mynd yn ôl bedair neu bum cenhedlaeth – ac yna ar y llaw arall pobl sydd wedi bod yma ers dim ond pedair neu bum mlynedd.”
Ond mae’n ymddangos bod llawer o’r newydd-ddyfodiaid i ganolbarth Cymru yn dymuno ymuno â chymuned, ac mewn ardal fel hon dyw pwysigrwydd cymuned erioed wedi lleihau, mewn gwirionedd.

“Yr allwedd yw cymeryd rhan yn lleol,” meddai Nicola. Ymunodd y ddau ohonynt yn gyflym â grwpiau a mentrau amrywiol yn yr ardal, gan gynnwys y cyngor tref, y frigâd dân, Ambiwlans Sant Ioan a gwaith mewn ysgolion.
“Mae’n helpu’n aruthrol gyda chanfyddiad pobl o’r eglwys, ac mae popeth yn gysylltiedig mewn cymuned fel hon. Er enghraifft, gallwch chi gymryd gwasanaeth mewn ysgol gynradd un diwrnod, yna efallai y byddwch chi’n helpu mamgu un o’r plant hynny y nesaf trwy’r gwaith gyda Sant Ioan. Mae ein gweinidogaeth yn swyddogol yn rhan-amser, ac mae hynny’n rhoi amser i ni gymryd rhan mewn pethau eraill fel gwirfoddolwyr, nid dim ond fel ‘gweinidogion’.”
Cymuned eglwysig sy’n tyfu?
Mae’n amlwg bod traddodiad yn rhan gref o fywyd yr eglwys yn Beulah; capel bach hynafol yn y wlad yng nghanol caeau gwyrdd a bryniau. Ond fel y dywed Tudor, “mae’r eglwys yn barod iawn i arbrofi. Mae’r gynulleidfa yn ymwybodol, rwy’n credu, ein bod ni’n gweinidogaethu mewn cyd-destun sy’n llawn cyfleoedd.”
Mae plant a gwaith ieuenctid yr eglwys wedi tyfu yn ddiweddar, a bob yn un neu ddau maen nhw’n gweld pobl newydd yn troi i fyny, yn edrych i ddysgu mwy am y ffydd. Dim ond un ystafell sydd ar gyfer y gwaith plant felly fel y mae Nicola yn nodi, ‘dydyn ni ddim yn ceisio gwneud i bethau dyfu ormod!’
Dyma fyfyrio ar yr agwedd ysbrydol agored newydd o’u cwmpas – a beth mae hynny’n ei olygu nawr mewn eglwys sydd wastad wedi bod yn rhan allweddol o’r gymdeithas glos o’i chwmpas.
“Does dim rhaid i ni feddwl, ‘o, sut ydyn ni’n cyrraedd y bobl hyn?'”, meddai Tudor. “Dyma fi’n cymryd angladd yn ddiweddar, ac roedd cwpl yno – roedden nhw’n gwybod pwy oeddwn i oherwydd dyna sut mae hi ffordd hyn – a dyma nhw’n gofyn i mi fynd i ymweld â nhw i siarad am y ffydd Gristnogol.” Mae hynny’n amlwg yn rhan bwysig o’r ddeinameg, gyda phobl yn dod â’i gilydd i bethau’r eglwys.
“’Drychwch,” gorffena Nicola, “yr eglwys sy’n arwain yma – neu’r Ysbryd Glân. A phan fydd wynebau newydd neu rai cyfarwydd yn troi i fyny, maen nhw’n teimlo’n gyfforddus yn ein plith. Mae croeso iddyn nhw! Duw sy’n gwneud y gweddill.”