Talentau Gobaith 2023/24

Yr Hydref hwn, lansiwyd adnoddau apêl newydd Undeb Bedyddwyr Cymru: Talentau Gobaith!

Mae’r enw yn seiliedig ar ddameg y talentau yn Matthew 25, ble mae Iesu yn cyfeirio at ein cyfrifoldeb i stiwardio y ‘talentau’ (adnoddau) rydyn ni wedi eu derbyn gan Dduw, a’u hau a’u lluosogi er daioni eraill a gogoniant Duw.

Eleni, y mae gennym gyfle i hau i waith holl-bwysig yn Zimbabwe, trwy ein partneriaeth gyda Cymorth Cristnogol, sydd yn gweithio ar lawr gwlad ar y cyd gyda sefydliadau a phrosiectau lleol.

Dyma eiriau Parch. Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol UBC am yr apêl:

‘Gyda chryn ddisgwyliad a chyffro y lansiwyd Apêl Cymorth Cristnogol Undeb Bedyddwyr Cymru 2023-24 yn ein cyfarfodydd blynyddol eleni. Mae ein partneriaeth fel dau fudiad wedi ei gwreiddio’n ddwfn dros flynyddoedd lawer er budd tlodion y byd.

Gwlad Zimbabwe sy’n cael ein sylw y tro hwn gyda’r bwriad o rymuso ei chymunedau trwy hyfforddiant a chefnogaeth. Bu Zimbabwe yn wlad annibynnol ers 1965 ac mae wedi wynebu llawer iawn o heriau sy’n cynnwys cyfnodau o dwf isel economaidd, gorchwyddiant, ynghyd â lefelau uchel o ddiweithdra a chanlyniadau newid hinsawdd ac er i’r economi wella ychydig pan ffurfiwyd llywodraeth unedig yn 2008 mae’n parhau i fod yn un o wledydd tlotaf y byd.

Bu Cymorth Cristnogol yn gweithio’n benodol yn Zimbabwe gyda phrosiect BRACT (Building Resilience through improving the Absorptive and Adaptive Capacity for Transformation of at-risk communities) a fu’n gyfrwng i gynorthwyo’r bobl i ddatblygu sgiliau mewn gwahanol dechnegau ffermio a meysydd newydd er mwyn sicrhau ffrydiau dibynadwy o incwm.’

Mae’r prosiect hwn wedi cael effaith ar deuluoedd a chymunedau yn barod (ewch yma i ddarllen rhai o’r straeon).

Mae’r apêl hefyd yn cefnogi prosiect Ntengwe, sydd yn cefnogi menywod yn ardal Hwange yn Zimbabwe i fod yn bileri yn eu cymunedau o ran busnes, amaethyddiaeth, a mwy.

Rydyn ni’n falch i allu cefnogi’r gwaith pwysig hwn, ac yn gyffrous i weld ymateb eglwysi, grwpiau ac unigolion eleni i’r apêl.

Gweddïwn bob bendith ar yr apêl eleni, ac ar y cymunedau yn Zimbabwe fydd yn buddio gymaint gan y gwaith.

Cynigir pecyn adnoddau i unigolion, eglwysi a grwpiau yma.

Ewch yma i ddarganfod sut i roi / codi arian at yr apêl.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »