Mae Cyngor Unedig Undeb Bedyddwyr Cymru yn croesawu’r cyfle i ddiolch yn ffurfiol i’r Parchedig Judith Morris am ei gwasanaeth rhagorol fel Ysgrifennydd Cyffredinol UBC…
Am yr un mlynedd ar ddeg diwethaf, mae Judith wedi bod wrthi yn gwasanaethu ein heglwysi, gweinidogion, a Chymanfaoedd gydag ymroddiad, gras a chariad. Rydym am gydnabod gymaint yr ydym wedi gwerthfawrogi ei harweinyddiaeth dyner ond effeithiol. Rydym yn ddyledus i Judith am ei hysbryd hael ac am y llawenydd y mae hi wedi’i roi i’r rôl – yn enwedig trwy ei hanogaeth gyson i’r tîm staff a’r teulu Bedyddiedig ehangach.
Mae llawer o eiriau o werthfawrogiad wedi’u mynegi am weinidogaeth Judith yn ein plith, a byddai’n amhosibl eu cynnwys i gyd yma. Byddwn ni’n ei cholli’n fawr ac rydym yn diolch i Dduw am ei galw i’r gwaith hwn ar gyfer y fath amser â hwn. Rydym hefyd yn diolch i’r eglwysi a’r unigolion sydd wedi dangos eu gwerthfawrogiad i Judith. Bydd eu mynegiadau o ddiolchgarwch yn cael eu cyflwyno iddi yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Unedig yn Aberystwyth.
Wrth i Judith ymddeol, gweddïwn fendith gyfoethocaf Duw arni ac rydym yn ei sicrhau o’n cariad a’n gweddïau parhaus.