Penodi’r Parch. Simeon Baker fel Ysgrifennydd Cyffredinol Newydd UBC

Hyfrydwch yw cyhoeddi penodiad y Parch. Simeon Baker fel Ysgrifennydd Cyffredinol Newydd Undeb Bedyddwyr Cymru (UBC).

Cymeradwywyd y penodiad trwy benderfyniad unfrydol Cyngor Unedig UBC a derbyniwyd cymeradwyaeth Eglwysi’r Undeb.

Mae gan Simeon 35 mlynedd o brofiad gweinidogaethol ac arweinyddol mewn cyd-destun Cristnogol, ar lefel lleol a chenedlaethol.

Fe’i magwyd yn ardal Drefach Felindre a bu’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Llandysul. Ar ôl gweithio ym maes Cyfrifiaduron a TG (Technoleg Gwybodaeth), synhwyrodd Simeon alwad i’r weinidogaeth. Dilynwyd hyn gyda chyfnod yn hyfforddi a gweinidogaethu yn Ruislip, Lloegr cyn iddo ddychwelyd i Gymru i weinidogaethu yn Eglwys y Bedyddwyr Bethel, yr Eglwys Newydd. Er 2012 bu’n gwasanaethu’r Undeb fel Cyfarwyddwr Cenhadaeth.

Mae Simeon bellach yn byw yng Nghaerdydd, gyda’i wraig Janet.

Meddai Mr Bill Davies, Cadeirydd y Panel Penodi, “Yn dilyn proses recriwtio drwyadl a chystadleuol, penderfynwyd argymell enw’r Parchedig Simeon Baker i swydd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru i ddilyn y Parchedig Judith Morris. Mae ganddo brofiad eang a pherthnasol i ymateb i’r heriau a chyfleoedd sydd o’n blaen fel enwad.”

Dywed Simeon: “Anrhydedd a braint yw cael fy mhenodi i’r swyddogaeth hon, ac rwy’n  gwerthfawrogi’n ddwfn iawn cefnogaeth ac ymddiriedaeth eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru.

Fel Bedyddwyr, wynebwn nifer o heriau, yn ogystal â chyfleoedd arbennig ar gyfer cenhadaeth a gweinidogaeth barhaol yng Nghymru. Mae hyn yn ein gwahodd i fod yn gadarn yn ein ffydd, ac yn hy yn ein gweithred.”

Wrth amlinellu ei flaenoriaethau, meddai Simeon: “Yng nghanol newid, beth bynnag yw ein gweledigaeth, strategaeth neu strwythur, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn trysori ein pobl, ac yn bugeilio ein gilydd. Bydd adeiladau, strwythurau a chyllid yn mynd a dod, ond bydd cariad Duw yn parhau wrth i ni aros yn Ei gariad. Yng ngeiriau Hebreaid 10:23: “Gadewch inni ddal yn ddiwyro at gyffes ein gobaith, oherwydd y mae’r hwn a roddodd yr addewid yn ffyddlon.”

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau