Mae ein cylchgrawn chwarterol wedi ei ail-lawnsio!
Ar ôl hoe dros yr haf, rydym yn falch i rannu’r newyddion diweddaraf o deulu UBC, gan gynnwys straeon rhyfeddol o ffyddlondeb Duw dros 2023, aelodau tîm a llywyddion newydd, a chofio ein cynadleddau haf, cyn troad y flwyddyn.
Clywn hanes ryfeddol Jonathan a Nela, fu’n croesi cefnoroedd i gyrraedd Ddinbych-y-Pysgod ar alwad Duw, a nifer o hanesion difyr eraill…
Darllenwch yr hanesion diweddaraf o blith teulu UBC yma.
Gobeithiwn yn wir y cewch gymaint o fendith o ddarllen y straeon hyn o Dduw ar waith yng Nghymru, ag y cawsom ni!
Yng Nghrist,
Tîm Golygyddol Y Negesydd
Er mwyn gwneud ymholiadau ynglŷn â’r Negesydd, neu os hoffech chi rannu straeon am yr hyn mae Duw wedi ei wneud yng Nghymru neu yn nheulu UBC, anfonwch e-bost at: sioned@ubc.cymru neu gysylltwch â’n swyddfa ar 03452221514