Gweddi genhadol

Mae’r byd, a’r cymunedau yr ydym yn ceisio eu gwasanaethu a’u cyrraedd, yn newid yn anghyfforddus o gyflym. Mae llawer o eglwysi’r Undeb yn dod at ei gilydd yn rheolaidd  ar daith genhadol ar hyn o bryd i ganolbwyntio ar hyn a dysgu trwy ymarfer. Ac wrth i gwrs Gweithredu barhau ac wrth i eglwysi eraill hefyd dreiali pethau newydd yn y cyfnod heriol hwn, mae’n hanfodol ein bod yn seilio popeth ar weddi

Felly, os hoffech ymuno â grŵp o bobl o bob cwr o Gymru i weddïo dros genhadaeth a gweinidogaeth yn ein gwlad yn rheolaidd, fe’ch gwahoddir yn gynnes i ymuno â ni ar zoom unwaith y mis am amser cinio ar ddydd Iau. Byddwn yn gweddïo o 1:30pm am 30 munud bob dydd Iau y bydd Gweithredu yn rhedeg, gan ddefnyddio’r ddolen zoom hon bob tro: https://us06web.zoom.us/j/98872809608?pwd=M0Uxc3ZNemFsK2l5OWJJTFBxcWhKQT09   

Meeting ID: 988 7280 9608  

Passcode: 113757 

Mae dyddiadau’r flwyddyn ar gyfer Gweithredu a’r amseroedd gweddi hyn yma (ac mae croeso i chi ymuno â ni hanner ffordd drwy gwrs y flwyddyn!): https://ubc.cymru/cenhadaeth-cefnogol/gweithredu/  

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Oedfa Ilston Flynyddol – ym Mro Gŵyr

Ers blynyddoedd lawer fe gynhelir oedfa goffaol flynyddol gan Undeb Bedyddwyr Cymru yn Ilston, Gŵyr. Bydd yr Oedfa eleni yng ngofal y Parchedig Rob Nicholls, gyda chefnogaeth a chyfraniad wrth eglwysi a gweinidogion lleol ac yn cychwyn…

Darllen mwy »

Esgyn 2025 – cadw lle nawr!

Ar ôl croesawu criw o bobl ifanc i Dreharris ym mis Chwefror eleni, mae tîm Esgyn yn gyffrous i gyhoeddi y bydd ail benwythnos ieuenctid Esgyn yn digwydd ym mis Tachwedd eleni! Mae’r ffurflen i gadw lle yn fyw nawr – cynta i’r felin…

Darllen mwy »

Drysau agored yng Nghwm Rhondda?

Magwyd Morwenna Thomas yn Nhonypandy yng nghanol cwm Rhondda Fawr. Fel y dywedodd wrth i ni sgwrsio, “Rydw i bob amser wedi teimlo galwad glir i’r gymuned – ac i mi mae hynny’n golygu’r cymunedau hyn.” Roedd Cymanfa Dwyrain Morgannwg yn awyddus i gefnogi gweinidogaeth genhadol…

Darllen mwy »