Ers blynyddoedd lawer fe gynhelir oedfa goffaol flynyddol gan Undeb Bedyddwyr Cymru yn Ilston, Gŵyr.
“It pleased the Lord to choose this dark corner of the land to place his name here and to honour us, undeserving creatures, with the happiness of being the first in all these parts among whom was practised the glorious ordinance of baptism, and to gather here the first church of baptized believers…”
Felly ysgrifennodd y pregethwr John Myles am Ilston, lle plannwyd eglwys gyntaf y Bedyddwyr yng Nghymru yn 1649 fel rhan o fudiad ehangach o blannu eglwysi Bedyddiedig. Gallwch ddysgu rhagor am yr hanes trwy wylio’r fideo hon.
Cynhelir yr Oedfa eleni wrth adfeilion Eglwys Ilston, Cwm Illtyd, Gŵyr. Os bydd y tywydd yn anffafriol, yn Neuadd y Sgowtiaid (yr hen ysgol) gerllaw.
Dyma gopi o drefn yr oedfa:
Bydd yr Oedfa yng ngofal y Parchedig Rob Nicholls, gyda chefnogaeth a chyfraniad wrth eglwysi a gweinidogion lleol ac yn cychwyn am 2yh ar ddydd Sadwrn Gorffennaf, 19eg 2025. Byddwn yn myfyrio ar thema ‘Tarian Ffydd’ eleni, a’r gwahaniaeth y mae ffydd yng Nghrist yn ei wneud yn ein bywydau.
Croeso i bawb!
