Ar ôl croesawu criw o bobl ifanc i Dreharris ddwywaith llynedd, mae tîm Esgyn yn gyffrous i gyhoeddi y bydd trydydd benwythnos ieuenctid Esgyn yn digwydd ym mis Tachwedd eleni!
Bydd criw Esgyn yn dychwelyd i Ganolfan Rock UK Summit Centre yn Ne Cymru o’r 21ain – 23ain o Dachwedd. Bydd y penwythnos yn lawnsio ar y nos Wener, ac yn rhedeg tan pnawn Sul, gyda chyfle i’r bobl ifanc i:
- Fwynhau’r gweithgareddau sydd ar gael yng nghanolfan Summit Rock UK, e.e saethyddiaeth, ogofa, rhaffau uchel a dringo…
- Mwynhau adegau o orffwys, cymuned, a bwyd da!
- Gweithgareddau ‘tîm’ a gemau…
- Fuddio o amserau o addoli, cerddoriaeth, dysgeidiaeth, a mwy…
Mae tîm Esgyn yn edrych ymlaen at barhau i adeiladu’r berthynas gyda chanolfan Gristnogol Rock UK Summit Centre. Mae’r ganolfan yn Nhreharris yn cynnig gweithgareddau antur o’r ansawdd uchaf, gyda naws Gristnogol, a chalon dros bobl ifanc Cymru.



Mae tîm Esgyn yn rhannu’r un galon, ac yn gweddio bod y penwythnosau ieuenctid newydd hyn yn gallu cynnig cyfle arbennig i bobl ifanc yn ein heglwysi a’n cymunedau ystyried ‘antur ffydd’ ar gyfer nhw eu hunain. Mae pob penwythnos Esgyn yn cael ei rhedeg yn ddwyieithog, gyda Chymry Cymraeg a di-Gymraeg yn dod ac ar y tîm!
Mae ffurflenni bwcio ar gyfer mis Tachwedd bellach yn fyw ar dudalen wê Esgyn. Cadwch eich lle nawr – byddwn yn cau cofrestriadau ym mis Medi neu’n dilyn ‘cyntaf i’r felin!’: Cofrestru Esgyn Tachwedd 2025
Estynnwn groeso i unrhyw un oed 11-16 i ymuno â ni mewn anturiaethau newydd eleni wrth i ni ‘ddod ynghyd i dyfu mewn ffydd, ac esgyn mewn gobaith ar gyfer cenedlaeth newydd’!
Am fwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â thîm Esgyn trwy esgyn@ubc.cymru neu ddilyn tudalen Instagram a Facebook Esgyn.