Mae cymoedd y Rhondda yn meddu ar le pwysig yn hanes, gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru ac maent yn gartref i bron i 100,000 o bobl heddiw. Ochr yn ochr â’r dirywiad economaidd y maent wedi’i ddioddef yn sgil cau’r pyllau glo, maent hefyd wedi profi dirywiad ysbrydol sylweddol ar draws y traddodiadau ac enwadau Cristnogol. Fodd bynnag, maent yn enwog am eu cymunedau cryf a gwydn – sy’n ymddangos eu bod Bellach yn agor drysau i ffurfiau newydd o weinidogaeth Gristnogol.
Morwenna
Magwyd Morwenna Thomas yn Nhonypandy yng nghanol cwm Rhondda Fawr, gan adael am gyfnodau o waith ac astudio i ffwrdd. Fel y dywedodd wrth i ni sgwrsio, “Rydw i bob amser wedi teimlo galwad glir i’r gymuned – ac i mi mae hynny’n golygu’r cymunedau hyn.”
Yn wyneb gweld capeli ledled y cwm a’r tu hwnt yn cau eu drysau, roedd Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg yn awyddus i gefnogi gweinidogaeth genhadol yn yr ardal trwy ddulliau newydd a chreadigol ac fe benodwyd Morwenna i rôl ran-amser fel gweinidog cenhadol ym mis Tachwedd 2022.
“Pan ddechreuais i,” eglurodd Morwenna, “roedd caffi talu-fel-y-gallwch yn tyfu’n gyflym yng nghapel y Bedyddwyr Blaenycwm, yn cael ei redeg gan grŵp bach yno. Dechreuais fynd yno i ddod i adnabod pobl o’r gymuned a rhoi help llaw.” Mae’r caffi bellach wedi troi’n ofod cynnes tymhorol – ond mae’n ymddangos bod y cysylltiadau y mae’r fenter wedi’u creu wedi bwydo chwilfrydedd yn y gymuned ynghylch gwaith yr eglwys.
Meddai Geraint Davies, ysgrifennydd capel Blaenycwm, “Rydym yn falch fel eglwys o allu cefnogi a bod yn rhan o nifer o fentrau gwahanol yn y gymuned, gan gynnwys y banc bwyd yr ydym wedi ei redeg ers deuddeng mlynedd. Mae’n rhan o Fanc Bwyd y Rhondda sy’n rhedeg gwasanaeth cynhwysfawr ledled y ddau ddyffryn. Rydym yn ffodus bod gennym rota o wirfoddolwyr i’w redeg. Mae wedi bod yn dda i ni fel eglwys gefnogi Morwenna yn ei gwaith fel ein Gweinidog Cenhadol gan ei bod yn ymwneud â sawl un o’r prosiectau hyn.”
Fel aeth Morwenna ymlaen i esbonio, “mae llawer o’r hyn rydw i’n ei wneud yn organig iawn – ac yn benagored. Weithiau mae hynny’n arwain at straeon fel y bachan o’r Men’s Shed a foelodd ei glustiau pan ddywedais fy mod i’n mynd draw i astudiaeth Feiblaidd Capel Blaenycwm , a gofyn i ddod draw gyda mi – sydd wedi arwain ato’n mynd yno’n rheolaidd bellach! Ac weithiau mae’n fater o fod yn bresennol yng nghanol y gymuned, dod i adnabod pobl, a gwrando arnyn nhw – gan fod yn agored i’r hyn y gall Duw fod yn ei wneud yn eu plith.”
Croeso i’n Coedwig
Ar y bore rydyn ni’n cwrdd â hi, mae Morwenna newydd fod allan yn y goedwig uwchben Treherbert gyda grŵp a gynhelir dan arweiniad ‘Croeso i’n Coedwig’ / Welcome to Our Woods . Yn fenter gymunedol sy’n cael ei rhedeg gan bobl leol ar gyfer pobl leol, maent yn gweithio i ddefnyddio adnoddau naturiol anhygoel yr ardal i fwydo, cartrefu a chefnogi pobl leol, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf maent wedi dechrau cynnal sesiynau ‘presgripsiynu gwyrdd’ (neu ‘green prescribing’) mewn cydweithrediad â gwasanaethau iechyd rhanbarthol.
Mae hyd at 35 o bobl yn dod ynghyd bob wythnos ar gyfer y sesiwn Therapi Coetir y mae Morwenna yn helpu rhedeg, ac mae hi bellach yn cynnal myfyrdod wythnosol fel rhan o’r sesiwn. Roedd myfyrdod y bore hwnnw wedi seilio ar bwnc tân, sydd mewn sawl ffordd yn debyg i weddi.
“Mewn rhai ffyrdd mae fel y profiad o fynd i’r caffi yng nghapel Blaenycwm – dwi’n mynd er mwyn dod i adnabod pobl. Ond mae’n debyg fy mod i’n y sesiynau Woodland Therapy fel eu gwestai. Caplan Bedyddiedig allan yn y gymuned ydw i mewn gwirionedd, am wn i!”


Noddfa
Wrth i’r gwaith yma ddatblygu, roedd yr achos yn Noddfa, Blaenclydach (rhan arall o Gwm Rhondda) yn dod i ben a gwnaethpwyd y penderfyniad anodd i gau’r adeilad. Er ei bod yn byw yn yr union gymuned honno a’i gŵr wedi pregethu yno, nid oedd Morwenna erioed wedi cael cysylltiadau uniongyrchol â’r eglwys cyn iddi gau.
Un diwrnod cyfarfu â gweinidog Bedyddiedig arall ym Mlaenclydach, a dynnodd ei sylw hi at y ffaith ei fod yn rhodd o Dduw ei bod hi’n gallu eistedd mewn caffi am awran ac adnabod bron pawb a ddaeth i mewn ac allan – am ei bod wedi ei magu yn y gymuned honno. “Pam nad wyt ti’n gweld os yw Duw yn agor drysau i chi wneud rhywbeth yn y gymuned hon hefyd?” gofynnodd y gweinidog hwn iddi.
Arweiniodd hyn at gyfres o sgyrsiau yn ystod hydref 2024 a barodd iddi ddarganfod nad oedd adeilad Noddfa wedi’i werthu eto – ac y byddai’r ymddiriedolwyr yn agored iawn i ddal gafael arno i weld a ellid dechrau gwaith newydd yno.
“Roedd yn eithaf anhygoel sut digwyddodd popeth,” myfyriodd Morwenna, “ac rydyn ni’n dal i fod yn y dyddiau cynnar o ddirnad beth fyddai’n ddefnydd newydd da o’r adeilad bach yna, sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd ei angen ar y gymuned. Gallai fod hyn rywbeth i wneud â cherddoriaeth, neu rywbeth i bobl ifanc, er enghraifft. Mae angen rhagor o sgyrsiau, a gweddi!” Beth bynnag yw’r camau nesaf, mae’n ymddangos bod Duw yn sicr yn agor drysau i bethau newydd wreiddio yng nghymoedd y Rhondda.