Gweddi ’26: Gwahoddiad i Weddïo

Estynnwn wahoddiad i eglwysi, gweinidogion ac unigolion ar draws teulu UBC ymuno â ni mewn tymor o weddi trwy fisoedd cyntaf 2026 wrth i ni symud i gyfnod allweddol o ran ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth yng Nghymru.

“Arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth…” Luc 24:49

Beth yw Gweddi ’26?

Tymor o weddi fydd yn rhedeg o’r Flwyddyn Newydd (wythnos 4/1) tan y Pasg (wythnos 29/3).

Rydym yn gwahodd eglwysi, unigolion a grwpiau ar draws teulu Undeb Bedyddwyr Cymru i weddïo gyda ni trwy’r cyfnod, gyda deunyddiau gweddi ar gael i’w defnyddio gan unigolion neu grwpiau trwy’r cyfnod isod.

Rydym hefyd yn gwahodd aelodau ein heglwysi, gweinidogion ac unigolion i ddod at ei gilydd ar gyfer cyfarfodydd gweddi cenedlaethol, fydd yn digwydd:

  • Ionawr 26ain – Galwadau Gweddi Cenedlaethol (ar Zoom) am 12yh a 7yh
  • Chwefror 26ain – Galwadau Gweddi Cenedlaethol (ar Zoom) am 12yh a 7yh.
  • Mawrth 26ain – Annog eglwysi ac unigolion lenwi ‘Cadwyn Weddi’ o 7yb tan 7yh (yn eu heglwysi / rhanbarthau eu hunain). Galwad / cyfarfod gweddi cenedlaethol hefyd am 12yh a 7yh (cyfrwng / lleoliad TBC).

Beth yw’r ffocws?

Rydym wedi teimlo yn gynyddol bod galwad i ni fel teulu Undeb Bedyddwyr Cymru geisio’r Arglwydd mewn ffordd arbennig ar ddechrau 2026.

Yn gyntaf – Ei geisio amdano Fe Ei hun… mae E’n deilwng o’n holl ffocws a’n hegni!

Teimlwn yn ail fod nifer o ddatblygiadau pwysig hoffwn gyflwyno gerbron yr Arglwydd yn ystod y cyfnod allweddol hwn:

  • Apwyntiad Ysgrifennydd Cyffredinol Newydd UBC
  • Datblygiad CIO’s Cenhadol Rhanbarthol Newydd
  • Hinsawdd Ysbrydol Cymru – gweddïo dros waith yr Ysbryd Glân mewn calonnau a gwaith y Deyrnas ar draws Cymru.
  • Arwyddion o dwf yn ein plith (e.e bedyddiadau, gwaith plant a phobl ifanc).
  • Gweddi dros ein heglwysi a’n cymunedau i gyd wrth symud i 2026.

Deunyddiau Gweddi

Yma mae deunyddiau gweddi all eich helpu i weddïo trwy’r cyfnod – fel unigolion, eglwysi neu grwpiau…

Calendr Gweddi ’26 (gyda phwyntiau gweddi wythnosol opsiynol)

Tudalennau Gweddi Misol (i’w diweddaru yn fisol)

Pwyntiau Gweddi Rhanbarthol (i’w diweddaru yn wythnosol)

Syniadau Creadigol Pellach

Pam lai…

  • Neilltuo 5-10 munud bob wythnos i ddilyn y pwyntiau gweddi wythnosol (gweler y Calendr Gweddi uchod)
  • Trefnu cyfarfod gweddi gan ddilyn un o’r tudalennau gweddi uchod fel eglwys neu grŵp?
  • Gosod i fyny gofod gweddi creadigol (e.e cornel neu ystafell) yn eich eglwys neu grŵp wythnosol?


“Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i’n gwrando. Os byddwch chi’n chwilio amdana i o ddifri, â’ch holl galon, byddwch chi’n fy ffeindio i.”

Jer 29:12-14, BNET

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau