Croesawu ein Llywyddion Newydd

Rydym yn falch iawn o gyflwyno ein Llywyddion newydd ar gyfer 2026/27! Yr haf hwn rydym yn croesawu y Barch. Ddr Rosa Hunt a’r Parch. Paul Smethurst fel llywyddion newydd i’n plith…

Croesawn yn gyntaf: y Barchedig Ddr Rosa Hunt fel Llywydd yr Adran Gymraeg. Yn wreiddiol o Malta, mae Rosa yn weinidog Tabernacl yr Ais yng Nghanol Caerdydd, wedi gweinidogaethu yn Salem, Tonteg ac wedi gwasanaethu fel Cyd-Bennaeth ar Goleg y Bedyddwyr Caerdydd.

Mae gobeithion Rosa ar gyfer ei blwyddyn lywyddol yn cynnwys: archwilio thema pererindod (yn ogystal â chynnal pererindod go iawn i Malta yn 2027!), ac edrych ar gwestiwn iaith ac ymwneud dwyieithog (neu amlieithog!) cadarnhaol ym mywyd ein heglwysi.

Rydym yn falch iawn hefyd o groesawu’r Parch. Paul Smethurst fel Llywydd yr Adran Ddi-Gymraeg. Mae Paul yn byw yn Nhalgarth gyda’i wraig Robyn ac yn gweinidogaethu fel Gweinidog Cenhadol ar gyfer Sir Frycheiniog, tra hefyd yn cynnig arweinyddiaeth i weinidogaethau arloesol cenhadol UBC.

Mae Paul hefyd wedi dewis ‘Pererindod’ fel thema allweddol eleni, ac mae’n gobeithio archwilio’r alwad i genhadaeth arloesol gael ei hadfer i ni fel teulu Bedyddiedig. Cred Paul bod olrhain ein gwreiddiau i’r credinwyr Bedyddiedig cynnar yng Nghymru a fentrodd llawer i addoli ein Harglwydd Iesu – a’i rannu gydag eraill – yn gallu ein helpu yn ein hystyriaethau o genhadaeth heddiw. 

Croeso, Rosa a Paul!

Diolch i’n Cyn-Lywyddion

Rydym yn estyn hefyd ein diolch i Lywyddion 2025/26, gyda diolchgarwch am eu holl wasanaeth a’u cyfraniad i deulu UBC! 

Gofynnon ni i’r Parch. Maggie Rich (Cyn-Llywydd yr Adran Saesneg) beth oedd ei uchafbwyntiau. Roedden nhw’n cynnwys: “dod i adnabod pobl o’r Adran Gymraeg a mwynhau pêr-alaw’r iaith hyd yn oed os mai dim ond canran fach ohoni oeddwn i’n ei ddeall! Roedd yn dda cydweithredu a gweithio gyda’n gilydd!”. Rhanna Maggie hefyd sut mae’r profiad o wasanaethu mewn lawer o gyfarfodydd wedi ei gwneud hi’n fwy gwerthfawrogol o “waith caled holl swyddogion UBC”.

Meddai’r Parch. Rob Nicholls (Cyn-Llywydd yr Adran Gymraeg): “Bu’n fraint aruthrol i wasanaethu fel Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn ystod y flwyddyn aeth heibio… Heb amheuaeth, y fraint fwyaf oedd ymweld â chyfarfodydd y Cymanfaoedd gwahanol a chwrdd â’r “gweddill ffyddlon”, sy’n dal y fflam ynghyn yn wyneb yr holl ddifaterwch sydd ar gael yn gyffredinol; y rhai hynny sy’n dystion i ras a chariad Iesu yn eu cymunedau.

Mae arwyddion o gynnydd yn y tir, ac mae Eglwys Iesu Grist yn dal i ddisgleirio yng Nghymru, diolch i’r gweddill ffyddlon yma sy’n rhannu goleuni Crist i fyd o dywyllwch, a’i angen yn ddirfawr o’n cwmpas.”

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau