Croeso i bawb ymuno â ni yn Abertawe ar y 19eg o Fedi ar gyfer Oedfa Ilston!
Eleni byddwn yn dathlu bywyd ‘Gomer’ (Joseph Harris) oedd yn ffigwr allweddol yn hanes ffydd a chymdeithas Cymru – ac oedd yn hanu o’r traddodiad Bedyddiedig.
Ers blynyddoedd lawer fe gynhelir oedfa goffaol flynyddol gan Undeb Bedyddwyr Cymru yn Ilston, Gŵyr, lle plannwyd eglwys gyntaf y Bedyddwyr yng Nghymru yn 1649 fel rhan o fudiad ehangach o blannu eglwysi Bedyddiedig. Gallwch ddarganfod mwy am hanes Ilston a’r Bedyddwyr cynnar yma.
Croeso i bawb!